ÃÛÑ¿´«Ã½

ÃÛÑ¿´«Ã½ Addysg

Mae addysg i bawb yn ganolog i genhadaeth a dibenion y ÃÛÑ¿´«Ã½. Ein gweledigaeth fel ÃÛÑ¿´«Ã½ Education yw trawsnewid bywydau drwy addysg.

Beth rydym yn ei wneud

Rydym yn comisiynu ac yn cynhyrchu adnoddau Cymraeg a Saesneg ar gyfer ÃÛÑ¿´«Ã½ Bitesize, ÃÛÑ¿´«Ã½ Teach ac ymgyrchoedd addysg. ÃÛÑ¿´«Ã½ Bitesize ydy ein gwefan addysgol flaengar sy’n cynnig adnoddau i blant rhwng 3–16 oed ddysgu gartref a hunan-astudio, ac mae’r rheiny wedi’u cymeradwyo’n addysgol ac yn berthnasol i’r cwricwlwm. Dechreuodd ym 1999 fel adnodd TGAU ac mae bellach yn cynnwys dros 20,000 o dudalennau gwe o gynnwys sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd ac oedran ysgol yn Gymraeg a Saesneg. Mae gennym hefyd sianeli cyfryngau cymdeithasol (Facebook, Twitter, Instagram a TikTok), gemau a chynnwys ategol sy’n cynnwys pecyn cymorth i rieni er mwyn helpu gydag iechyd a lles. Ein cenhadaeth yw helpu pob plentyn a pherson ifanc yn y DU i gyflawni eu potensial o ran dysgu.

Mae ÃÛÑ¿´«Ã½ Teach yn safle adnoddau addysgu pwrpasol sy’n ceisio cefnogi athrawon drwy guradu’r gorau o blith fideos, clipiau ac adnoddau eraill y ÃÛÑ¿´«Ã½ sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Rydym hefyd yn cyflwyno rhaglenni sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm drwy ÃÛÑ¿´«Ã½ Teach a Live Lessons, gan fynd i’r afael â diffygion cymdeithasol ac addysgol yn y DU drwy weithredu fel arweinydd partneriaethau strategol sydd â’r nod o sicrhau newid gwirioneddol.

Pwy ydyn ni? 

Nia M Davies

Nia M Davies - Pennaeth Addysg
Nia M Davies - Pennaeth Addysg

Beth sydd ar gael?

Rydym yn comisiynu animeiddiadau a ffilmiau byr ar gyfer amrywiaeth o bynciau yn ogystal â chynnwys ysgrifenedig, graffeg, a rhywfaint o gynnwys rhyngweithiol. Fel arfer, bydd briff ÃÛÑ¿´«Ã½ Education yn gofyn am fformat cynnwys penodol ar draws un maes ffocws. Mae’r dogfennau tendro, sy’n gymysgedd o friffiau dros e-bost ond a gyhoeddir yn bennaf ar y wefan gomisiynu, yn nodi cyfres benodol o bethau i’w cyflawni yn erbyn yr amcanion dysgu addysgol y cytunwyd arnynt.

Yn ogystal â chyfleoedd comisiynu a hysbysebir, mae gennym bob amser ddiddordeb mewn clywed syniadau newydd a all helpu gyda’n hymrwymiad i ddarparu adnoddau addysgol o safon. Dim ond ar dudalen A4 y bydd angen i’r syniadau damcaniaethol hyn gael eu cyflwyno, a rhaid ymdrin â'r maes pwnc, y grŵp oedran targed/cyfnod allweddol ac esboniad byr o anghenion y cwricwla. Dylid e-bostio’r rhain at y comisiynydd addysg yng Nghymru yn y lle cyntaf, sef Nia M Davies.

Ein canllawiau comisiynu amrywiaeth a chynhwysiant

Mae canllawiau comisiynu amrywiaeth a chynhwysiant ÃÛÑ¿´«Ã½ Education yn nodi sut y byddwn yn gweithio gyda chyflenwyr i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer amrywiaeth a chynhwysiant. Darllenwch y canllawiau hyn wrth ymateb i unrhyw un o’n briffiau comisiynu.

 

Comisiynau Bitesize Cymru 2024/25

Mae'r cyfnod derbyn ceisiadau wedi dod i ben.

 

Mae modd gweld holl gyfleoedd comisiynu ÃÛÑ¿´«Ã½ Addysg ledled y DU ar wefan ÃÛÑ¿´«Ã½ Education commissioning (cynnwys Saesneg).

Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: