ÃÛÑ¿´«Ã½

Comisiynu Radio Cymru

Cyflwyniad i Rownd Gomisiynu Llinol Radio Cymru 2026-2027

Mae’n bleser cyflwyno rownd gomisiynu llinol Radio Cymru ar gyfer 2026/27, i gynhyrchwyr cynnwys annibynnol a mewnol. Mae’r cyfle i gyd-weithio eto eleni ar eich syniadau gorau yn hynod gyffrous.

Mewn marchnad sy’n heriol i ddarlledu llinol mae Radio Cymru yn parhau i ddenu 111,000 o wrandawyr ar gyfartaledd yn wythnosol, gyda gwrandawyr yn aros gyda Radio Cymru am dros 10 awr yr wythnos ar gyfartaledd.

Ochr yn ochr â hyn rydyn yn parhau i dyfu ein cynulleidfa ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Sounds, gan ddenu dros 15,000 o ddefnyddwyr unigryw i'r platfform yn wythnosol.

Felly diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y llwyddiant yma dros y cyfnod diwethaf – ond bellach mae’n amser edrych ymlaen. A dwi’n mawr obeithio y bydd yna grewyr cynnwys sy’n awyddus i gydweithio gyda Radio Cymru am y tro cyntaf yn darllen y ddogfen hon hefyd.

Fel y gwyddoch, mae gan Radio Cymru ròl bwysig i’w chwarae yn darparu cwmnïaeth a dihangfa i'n cynulleidfa, yn ogystal â darparu gwybodaeth. Yn hyn o beth mae ein rhaglenni adloniant a dogfen yn hollbwysig. Ein bwriad yw diddanu’r gynulleidfa, ond heb osgoi pynciau anodd, gan wneud i’n gwrandawyr feddwl hefyd.

Rydym yn awyddus i unrhyw raglenni sy’n cael eu comisiynu yn y rownd yma ddenu cynulleidfa i ÃÛÑ¿´«Ã½ Sounds yn ogystal â Radio Cymru. Felly, plîs ystyriwch pa syniadau sy’n mynd i gyffroi ein gwrandawyr ar blatfform llinol a digidol. Pwy ydi’r lleisiau newydd deniadol a beth yw’r fformatau arloesol i’n lleisiau mwy cyfarwydd?

Nifer cyfyngedig o gyfleoedd comisiynu sydd yn amserlen Radio Cymru ar gyfer 2026/27, felly dewch a’ch syniadau cryfaf os gwelwch yn dda. Beth yw’r straeon rydych chi’n angerddol drostynt? Dewch a syniadau uchelgeisiol gyda’r talent cryfaf, sy’n dathlu ein diwylliant ac yn arwain y sgwrs genedlaethol.

Gan edrych ymlaen at drafod a datblygu eich syniadau a chydweithio’n greadigol yn ystod y flwyddyn nesaf.

Cofion,

Dafydd Meredydd

Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru

 

 

Nodyn am y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn y broses gomisiynu a chyfleu

Rydyn ni’n gofyn i'n cyflenwyr i gyd i ystyried unrhyw ddefnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn ofalus, gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd gyda gwerthoedd golygyddol y ÃÛÑ¿´«Ã½ parthed disgwyliadau’r gynulleidfa ac ymddiriedaeth.

Os ydych chi’n llwyddiannus yn y broses gomisiynu ac yn ystyried defnyddio deallusrwydd artiffisial o fewn y rhaglen yna mae gofyn i chi drafod hyn o’r dechrau gyda’ch uwch gynhyrchydd.

Mae canllawiau golygyddol y ÃÛÑ¿´«Ã½ wedi eu diweddaru o Fedi 2026, ac mae'r fersiwn ddiweddaraf fan hyn: Mae modd lawrlwytho y canllawiau yn Gymraeg fel dogfen pdf.

 

 

1. Amserlen Rownd Gomisiynu Llinol Radio Cymru ar gyfer 2026-27

• 4 Medi 2025 – rownd yn agor

• 16 Hydref 2025 am ganol dydd – rownd yn cau

• Erbyn hanner tymor Hydref 2025 - cadarnhau canlyniad y rhestr fer

• 10-19 Tachwedd 2025 - cyfweliadau rhestr fer

• Canol Rhagfyr 2025 – cyhoeddi canlyniadau’r rownd gomisiynu

 

Os oes newid sylweddol i'r amserlen yna fe wnawn ni gysylltu gyda’r cwmnïau sydd wedi cyflwyno syniadau er mwyn rhoi gwybod

Nodwch y byddwn ni hefyd yn cynnal rownd gomisiynu ar wahân ar gyfer podlediadau yn unig, naill ai yn hwyrach yn 2025 neu ddechrau 2026.

 

 

2. Cyflwyno syniad i’r rownd gomisiynu Radio Cymru Llinol 26/27

Mae gofyn i bawb cyflwyno eu ceisiadau cyn 12:00 ar 16 Hydref 2025. Ni fydd modd derbyn syniadau sy’n cael eu cyflwyno wedi hynny.

Fe fydd nifer o’n cyflenwyr yn ymwybodol bod y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn newid i ddefnyddio system o’r enw PiCos ar gyfer comisiynu. Nid yw Radio Cymru wedi gwneud y newid yma eto ac felly, ar gyfer y rownd Radio Cymru Llinol 26/27, mae gofyn i chi gyflwyno syniadau trwy system Proteus.

 ar gyfer cwmnïau annibynnol

ar gyfer cyflenwyr mewnol

 

Ond, os ydych chi'n newydd i'r broses gomisiynu yna mae gofyn i ni greu cyfrif PiCos ar eich cyfer chi cyn medru creu cyfrif Proteus. Cysylltwch gyda Syniadau@bbc.co.uk cyn gynted â phosib i drefnu hyn gan fod y broses yna’n cymryd amser.

 

Rydyn ni’n croesawi syniadau gan unigolion yn ogystal â chwmnïau. Plîs nodwch, petai chi’n derbyn comisiwn mae’n bosib y byddwn yn gofyn i chi weithio trwy gwmni yn hytrach nag fel unigolyn (h.y. sefydlu cwmni neu gydweithio gyda chwmni arall). Fe wnawn ni drafod hyn gyda chi wrth gomisiynu, a ‘dyw hyn ddim yn rheswm i beidio cynnig syniad.

 

 

3. Beth rydyn ni’n comisiynu

Dyma rydyn ni'n comisiynu yn y Rownd Gomisiynu Radio Cymru Llinol 26/27. Agorir pob dogfen fel PDF

 

 

4. Y Tîm Comisiynu

Dafydd Meredydd - Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru

Gruffudd Pritchard – Golygydd Cynnwys

Cerian Arianrhod – Rheolwr Amserlennu

Gareth Iwan Jones – Uwch Gynhyrchydd

Sioned Lewis – Uwch Gynhyrchydd

Os am sgwrs gychwynnol ynglÅ·n â’ch syniad(au) yna cysylltwch gyda Syniadau@bbc.co.uk

 

 

5. Sut i gynnig syniad yn Proteus

Cynnig syniad yn Proteus (agorir fel PDF).

Mwy o wybodaeth am Proteus ar gyfer cyflenwyr annibynol Proteus Guides

 

 

6. Gofynion pan yn cyfleu rhaglenni i Radio Cymru

Mae gofyn cyfleu rhaglenni gorffenedig o leiaf pythefnos cyn y dyddiad darlledu / cyhoeddi ar Sounds, yn ogystal â chyfleu’r holl waith papur deuddydd gwaith cyn y darllediad.

Ffurflen Manylion Darlledu Radio Cymru

 

Dylid cyfleu ffeiliau sain drwy Dropbox ar y fformat WAV (.wav) - PCM llinol, 48 kHz, 16 bit.

I weld y fanyleb dechnegol lawn ar gyfer ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio a ÃÛÑ¿´«Ã½ Sounds, gweler Gwybodaeth a Safonau Ansawdd Sain

 

Peidiwch aros tan y funud ola’ cyn gofyn am gyfrif PiCoS / Proteus nag ychwaith i gyflwyno eich syniadau. Fe fydd y rownd yn cau am hanner dydd ar 16 Hydref.

 

Casgliad o luniau o raglenni Radio Cymru
Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: