Lincs
Mae wedi bod yn bwydo'i fol ac yn helpu coffrau ei blaid yn Aber. Dwi wedi bod yn ceisio spotio yn y casgliad o luniau o gynhadledd flynyddol Cymuned heb unrhyw lwc ond beth ar y ddaear mae Chris Schoen yn gwisgo yn y llun ?
"Nid blog gwleidyddol mo hwn. Cofier." Geiriau Serch hynny 'dwi am ei gynnwys fel enghraifft dda o ba mor anodd yw hi i ddod o hyd i gartref y dyddiau yma.
Ar yr ochr Saenseg ar flog mae'r Ceidwadwr Jonathan Morgan yn galw am bwerau llawn i'r cynulliad ac mae gan stori ddifyr am fethiant y Ceidwadwyr i ddanfon cynrychiolydd i un o gyfarfodydd CBI Cymru.
Gyda llaw, byswn yn ddiolchgar i glywed am unrhyw un sy'n bwriadu blogio ar noson y cyfri. Fe fyddai i'n blogio o stiwdio S4C a bydd disgwyl i Richard Wyn Jones gyfrannu, er nad yw'n gwybod hynny eto! Paid poeni Richard - y cyfan rwyt ti'n gorfod ei wneud yw sibrwd yn fy nghust.

Golygydd Materion Cymreig y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru.


SylwadauAnfon sylw
Dwi ddim yn bwriadu blogio ar noson yr etholiad (ella nai er mwyn rhoi sylw neu ddau) ond yn edrych ymlaen i ddarllen blogiau pobl fydd yn gwneud. A fydd y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn darparu rhaglenni ar-lein? Os byddywch, ym mha iaith? Rwy'n fyfyriwr yn Lloegr ac yn awyddus iawn i ddilyn digwyddiadau'r noson :)
Dwy ddim yn gwybod yr ateb i'r cwestiwn yna, Sion. Fe wnai ofyn yn y gwaith fory a phostio ateb yn fan hyn.
Nes i ddim gweld ffoto ohonof chwaith. A wel.
Chris yn gwisgo'r ty mwyaf mae o'n medru fforddio, wrth gwrs...;-)
Dwi'n edrych at y noson Vaughan. Dylai fod yn ddifyr tu hwnt!
Gyda llaw, llongyfarchiadau ar y blog - gobeithio y bydd yn parhau wedi'r etholiad?! A gyda llaw, be ddaeth o'r pol arall 'na gan Beaufort yr oeddet ti'n ei addo? (Gweler y rhifyn cyfredol o Barn i weld pa fath o rwystredigaeth mae sylwadau o'r fath yn eu creu!)
Sion, Yr ateb i dy gwestiwn yw y bydd y rhaglenni canlyniadau i gyd ar gael yn fyw arlein.
Dicw, Dwy'n meddwl y dylet ti wylio allan am arolwg dros y Sul.
Diolch yn fawr, Vaughan. Dwi'n edrych ymlaen yn barod!
Dwi yn neuadd y ddinas, Caerdydd, ar noson yr etholiad ar gyfer rhwydwaith GCap Media, ond os oes munud/awr sbar dwi'n siwr na'i ychwanegu cwpl o eiriau anniddorol i'r hen flog!
Bydd y pôl yn ymddangos yn y Wales on Sunday efallai?
Yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn comisiynu pôl eleni? Sylwi fod y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn yr Alban wedi comisiynu sawl pôl yn ystod y misoedd diwethaf
Hedd, Doeddwn i ddim yn ceisio creu rhiw ddirgelwch mawr. Yr hyn dwy'n deall am bolau (a gallai hyn newid) yw ein bod yn disgwyl canlyniadau arolwg gan gwmni newydd yn un o bapurau Caerdydd y penwythnos yma. Dyw hi ddim yn eglur pa gwestiynnau yn union sydd wedi eu gofyn. Mae disgwyl canlyniadau Beaufort y penwythnos canlynol. Dwy ddim yn siwr pryd y cawn ni "recall" ITV/NOP sy'n fy atgoffa bod gen i fwy i ddweud am yr arolwg yna!
Sut mae Vaughan ers talwm? Yr wyf yn gwisgo ty chwarae fel gimic i dynnu sylw at ymgyrch Cymuned - Cartrefi.com.
Dwy'n iawn Chris, a fi sy'n llwyr ar fai ein bod heb gysylltu.