Bath oer 'da Bethan
Ar ei mae Bethan Jenkins yn ceisio taflu ychydig o ddwr oer ar yr holl son am glymblaid yr enfys. Mae Bethan am i ni gofio rhywbeth.
Mae'r cyfryngau traddodiadol a'r blogiau i gyd yn cyffroi gymaint am y syniad o glymblaid enfys ei fod yn peri cywilydd ar eu rhan! A wnewch chi gofio bod rhaid i unrhyw symudiad o ochr Plaid gael ei gyflwyno i'r grwp Cynulliad, y Bwrdd Gwaith Cenedlaethol a chyfarfod o'r Cyngor Cenedlaethol.
I fod yn deg dw i ddim yn meddwl bod unrhywun wedi anghofio hynny. Ond yn yr un modd ac roedd hi'n bosib synhwyro NA fyddai'n bosib i Mike German werthu'r syniad o glymblaid â Llafur i'w blaid mae'n weddol eglur y GALLAI Ieuan Wyn Jones ddarbwyllo'i blaid i dderbyn clymblaid enfys- neu gytundeb â Llafur o ran hynny.
Ta beth,Bethan, mae geiriau'r hen Oscar yr un mor wir am wleidyddiaeth a phopeth arall...
The only thing worse than being talked about is not being talked about

Golygydd Materion Cymreig y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru.


SylwadauAnfon sylw
Hmmm..Mr Roderick, nawr wneud di wrando yn astud ar Bethan..Nid yw hi yn moin i ti becso dy ben am beth 'gallai' fod yn digwydd.
Felly paid a ysgrifennu am ddim byd o gwbl nes bod e WEDI digwydd, i ti fod yn siwr o bethau..
Wedyn gallu di newyd dy 'Job Title' i fod yn 'Hanesydd Materion Cymreig'...
'Syniad Gwych', Bethan, ond dwyt ti ddim 'really' wedi dallt beth mae Vaughan yn cael ei dalu am, popet..
Ydi'r blaid Lafur senneddol yn awyddus i gadw Rhodri mewn grym ? Ynatu a fyddai hyn yn ffordd i gael gwared a Rhodri ac agor y drws i un o'r Jihad. Ydi Brown yn debygol o allu cynnig sweetener o ran arian cyfatebol Ewropeaidd fel bachyn i ddennu'r Blaid ? Roedd yn ddiddorol heddiw fod Rhodri yn son am "bartneriaeth" mae newid sylweddol yn y geirfa yn awgrymu ei fod am gynnig mwy i gadw ei afael ar rym !!
Mae'r newid pwyslais yn arwyddocaol. Does dim amheuaeth y bydd Llafur yn ceisio pob sut i gadw eu bysedd budron ar rym yng Nghymru ac mae'n fwy na thebygol y gwelan ni'r foronen a'r ffon yn cael eu chwifio ganddynt dros y dyddiau nesaf. Y foronen mae'n debyg fydd mwy o arian o Lundain a'r ffon fydd bygwth beth y gall y Sefydliad Llafur ei wneud, yn enwedig gyda Phrif Weinidog newydd wrth y llyw. Mae'r foronen yn debyg o demtio, ond go brin y bydd y ffon yn dal dwr o feddwl y bydd y PW newydd yn gorfod ymdopi efo'r tirlun gwleidyddol newydd yn yr Alban a Gog Iwerddon heb son am broblem David Cameron a'r Toriaid. Byddai clymblaid yr enfys yn ran o ffrynt gwrth-Lafur ar hyd a lled Gwledydd Prydain ac fe ddylid dal hynny mewn cof os bydd simsanu'n digwydd dros y dyddiau nesaf.....