Neshau at y lan
225-18. Beth bynnag arall sydd 'na i ddweud does dim gwadu bod Ieuan wedi gwneud jobyn da wrth werthi'r cytundeb i aelodau ei blaid. Mae'n help, wrth gwrs, i beidio bod yn or-ddemocrataidd. Go brin y byddai'r mwyafrif mor sylweddol pe bai'r ddau gytundeb clymblaid wedi eu gosod gerbron.
Ai hwn oedd y penderfyniad cywir? Nid fi yw'r person i farnu. Yn sicr roedd y cynrychiolwyr ym Mhontrhydfendigaid yn blest i weld y blaid yn dod yn rhan o lywodraeth am y tro cyntaf. Mae 'na beryglon a phryderon, wrth reswm, ond roedd 'na beryglon mewn canlyn yr enfys hefyd. O leiaf , o'r diwedd, daeth pen ar bennod os nad ar y stori gyfan.
Fe fydd na gyfle i bwyso a mesur yn ystod y dyddiau nesaf ond ar ôl naw wythnos o sgwennu am y broses hon heb sôn am wythnosau'r ymgyrch cyn hynny rwy'n haeddu brêc. Dw i'n mynd am ddrinc! Gwelai chi fory!

Golygydd Materion Cymreig y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru.


SylwadauAnfon sylw
Diolch Vaughan am fod yn flogiwr mor gydwybodol ac mor ddifyr. Y lle cynta dwi wedi bod yn troi ato i gael gwybod be oedd yn digwydd go iawn, ers diwrnod yr etholiad. Mwynha dy ddrinc.
Green chartreuse a Red Bull for Mr Roderick?
Dwi dal yn amau y byddai'n well ganddo Blue Curucao, Banana Daiquiri a Green Chartreuse... chwydfa o ddiod a chwydfa o glymblaid.
Rwy'n sicr y byddai'r rhai a oedd yn gwrthwynebu'r syniad o glymblaid goch-wyrdd wedi cael digon o gyfle i leisio eu barn yn ystod y Cyfarfodydd Arbennig ar hyd a lled Cymru, fel y cawsant yn y cyfarfod cyntaf o'r gyfres, a gynhaliwyd yng Nghaernarfon beth amser yn ôl. Ar ben hynny, buasent yn rhydd i fynegi eu barn yn ystod cyfarfodydd eu canghennau lleol, gan ddylanwadu ar y rhai a fu'n eu cynrychioli yn y cyfarfod mawr ddoe. Pe bai hynny wedi digwydd ar raddfa fawr, byddai'r Arweinydd wedi cymryd sylw.