Un tro bach olaf
Roeddwn i'n gwybod y byddai na un tro bach arall. Amser cinio cawsom wybod aelodau'r llywodraeth newydd. Yn eu plith roedd Carwyn Jones y "Cwnsler Cyffredinol, Arweinydd y TÅ· a Gweinidog Busnes". Dyna union eiriau'r datganiad swyddogol.
Fel y nodais yn gynharach roedd hi'n ymddangos bod hynny yn groes i Fesur Llywodraeth Cymru. Gesiwch beth. Mae Carwyn wedi colli ei job fel "gweinidog busnes"- neu'r teitl o leiaf! Efe fydd yn gwneud y gwaith o dan y teitlau eraill ond yn swyddogol ac yn gyfreithiol fydd e ddim yn weinidog. "Camgymeriad bach" yn ôl rhyw un a ddylai wybod.
Dyna ni felly. Fe fyddaf yn blogio yn achlysurol yn ystod yr Haf felly galwch heibio. Roedd atebion Darren i'r cwis yn gwbwl gywir, gyda llaw.

Golygydd Materion Cymreig y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru.

