Ail-gylchu araith
Rhagor o syniadau gwreiddiol gan y Democratiaid Rhyddfrydol
"I will not make age an issue of this campaign. I am not going to exploit, for political purposes, my opponent's youth and inexperience."
Ronald Reagan, 1984
"Now when it comes to the next general election, I believe there is some speculation that age will be a factor. You bet it will. Because I'll make it one. Because with age comes experience, and with experience comes judgement."
Syr Menzies Campbell, heddiw

Golygydd Materion Cymreig y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru.


SylwadauAnfon sylw
Ac yntau'n dweud yn yr araith nad oedd am fod yn debyg i "Ronnie" ...
Mewn difri calon, pa mor berthnasol yw oedran, cyhyd ag y gall deiliad unrhyw swydd wneud y gwaith yn ôl y gofynion? Beth am Churchill?
Helen, doeddwn i ddim yn gwneud pwynt am oedran, ond am y ffaith bod lein orau'r araith wedi ei fachu o Reagan. Mae angen sgwennwyr mwy gwreiddiol arno!
Vaughan,
Mae'n rhaid i fi anghytuno, mi glywais Sir Menzies yn siarad yng nghynhadledd Ffederasiwn y Heddlu yn Blackpool mis Mai yma. Y fo oedd yr unig un oedd wedi gneud ei ymchwil yn drylwyr, digon tila oedd Cameron a Reid. Ond dwi'n cydweld mae ddim peth call i rywyn sydd isio bod ar y chwith wleidyddol oedd dyfynnu Arlywydd a symudodd yr UDA tuag at y dde eithafol.
Derbyn y pwynt - pe bai MC yn fyfyriwr ac yn cyflwyno gwaith a oedd yn ymddangos fel pe bai'n benthyca o waith rhywun arall heb gydnabod y ffynhonnell, ac yn cymryd arno ei fod yn wreiddiol, câi gosb am lén-ladrad!
Mae'r pwynt mae'n gwneud yn un hynod ddilys, felly dw i ddim yn siwr pam y dylai fod gan Reagan fonopoli arno.
Ai dim ond ym Mhrydain y mae'r tuedd yma'n erbyn arweinwyr gwleidyddol "hen"? Dydi 66 ddim byd mewn gwirionedd. Bob etholiad mae 'na wleidyddion yn America sydd ddim hyd yn oed yn ymgeisio am y senedd tan eu bod yn eu 70au. Er, wedi dweud hynny, anodd dychmygu America'n ethol llywydd 70+ oed bellach. Y farn gyffredin ydi, er enghraifft, mai dyma cyfle olaf McCain, a 71 'di hwnnw. Ydi o'n ragfarn yn erbyn gwleidyddion yn gyffredinol ynteu arweinwyr yn unig tybed?
Yn achos Ming, dw i'n credu bod ei PMQ cynta (weddol sigledig) yn dal i weithio yn ei erbyn. I raddau, mae Ming yn edrych ac yn swnio fel bach o hen ddyn hefyd am wn i. Dw i ddim yn cofio Michael Howard yn dioddef i'r fath raddau (er, yn achos hwnnw efallai bod y bychanu hiliol am ei wreiddiau yn Nhransylfania wedi goruchafu yn hynny o beth).