CF99
Wythnos i heno fe fydd ein rhaglen wleidyddol newydd CF99 yn cael ei darlledu am y tro cyntaf. Mae'n bryd felly i mi rannu rhyw faint ynghylch y cynnwys. Fe fydd y rhaglen yn cael ei darlledu'n fyw o'r Senedd bob nos Fercher ac fe fydd hi'n bosib ei gwylio yn y modd arferol ar S4C neu trwy wyrthiau'r rhyngrwyd trwy ddolen ar y blog.
Bethan Rhys Roberts a finnau fydd yn cyflwyno. Mae Bethan a finnau wedi bod yn dilyn ein gilydd o gwmpas y ÃÛÑ¿´«Ã½ ers blynyddoedd ond hwn yw'r tro cyntaf i ni gyflwyno rhaglen gyda’n gilydd. Rhyw gymysgedd o "This Week" ac "After Dark" fydd y rhaglen gyda thrafod dwys ac ysgafn gyda'n gwesteion ynghyd ac adroddiadau gan ein fideo-ohebwyr.
Er mwyn cyfiawnhâi ei lle yn yr oriau brig fe fydd yn rhaid i'r rhaglen apelio'r tu hwnt i fyd yr anoracs gwleidyddol. Dwi'n weddol hyderus y byddwn yn llwyddo i wneud hynny gan ddysgu gwersi o'r ffordd y mae "Dau o'r Bae" wedi llwyddo yn yr oriau brig ar Radio Cymru. Fe gawn weld!

Golygydd Materion Cymreig y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru.


SylwadauAnfon sylw
CF99 yn cychwyn yn dda. Oedd hi'n braf gweld Bethan Rhys Roberts ar y teledu eto. Fel rhywun sydd yn defnyddio cadair olwyn gobeithio bydd rhywfaint o sylw yn cael ei rhoi i syniad Edwina Hart i wneud i ni yn y gogledd fynd lawr i'r de am triniaeth. Gwallgo!!