Blaenoriaethau
Rydym yn gwybod erbyn hyn bod Peter Hain wedi gwario £185,000 yn ei ymgyrch am ddirprwy arweinyddiaeth y Blaid Lafur.
Ar drothwy'r etholiad hwnnw cynhaliwyd etholiad y cynulliad lle derbyniodd y Blaid Lafur ei chanran isaf o'r bleidlais yng Nghymru ers dauddegau'r ugeinfed ganrif. Byw o law i geg oedd y Blaid Lafur Gymreig yn yr etholiad hwnnw gan wario £254,477; llai na Phlaid Cymru a dim ond ychydig yn fwy na'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Tybed oedd Llafur Cymru yn gwybod bod ganddi gystal codwr arian yn ei rhengoedd?

Golygydd Materion Cymreig y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru.


SylwadauAnfon sylw
Blwyddyn newydd dda Vaughan. Ynglyn a sylwadau diweddar Rhodri M parthed yr iaith a'r blaid Lafur a fedrwch chi cyfeirio fi i'r sylawadau "diddorol" ddaru chi crybwyll cyn Dolig?
Diolch