Wyddoch Chi
Rwy'n amau mai stori ddiharebol yw honna am gyngor yr hen Sir Ddinbych yn sefydlu pwyllgor i drafod lleihâi'r nifer o bwyllgorau. Mae'n haeddu bod yn wir.
Daeth stori gyffelyb i'r amlwg heddiw. Cyhoeddwyd arolwg Arglwydd Roberts o bolisi datganoli'r Ceidwadwyr. Mae Wyn wedi dod i'r casgliad mai'r hyn sydd angen yw... arolwg.
Mae 'na dipyn o grafu pen wedi bod ynglŷn ag amharodrwydd y Torïaid i gyhoeddi'r adroddiad. Oedd 'na beryg y byddai'n hollti'r blaid? A fyddai'r cynnwys yn tanseilio awdurdod Nick Bourne? Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw un wedi ystyried y posibilrwydd mai osgoi embaras oedd y rheswm am yr oedi!
Serch hynny mae'r adroddiad yn cynnwys un argymhelliad pwysig sef na ddylai Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol wrthod cais gan y cynulliad i gynnal refferendwm i sicrhâi pwerau deddfu llawn i wleidyddion y bae.
Hyd yma, mae Paul Murphy wedi methu rhoi addewid cyffelyb ac yn ôl Adam Price o Blaid Cymru gallai'r methiant hwnnw beryglu dyfodol y glymblaid yn y cynulliad.
Problem Mr Murphy yw ei fod wedi etifeddu tipyn o gawlach gwleidyddol yn sgil Mesur Llywodraeth Cymru (2006). Er bod Peter Hain wedi gwadu hynny droeon mae'r rhan fwyaf o wleidyddion o'r farn ei fod cyflwyno gwahanol esboniadau o effeithiau'r mesur yn San Steffan a Chaerdydd. Fe fyddai rhoi'r addewid y mae Adam Price yn dymuno ei gael yn hynod amhoblogaidd ymhlith aelodau seneddol Llafur.
Dyna hefyd sydd wrth wraidd yr anghytundeb sylfaenol rhwng Llywodraeth a Llywydd y Cynulliad a'r Pwyllgor Dethol Cymreig ar gynnwys yr LCO tai fforddiadwy. Ar hyn o bryd mae'n ymddangos bod Mr Murphy yn ffafrio dadleuon y Pwyllgor Dethol o blaid llunio'r gorchymyn yn y modd mwyaf cyfyng posib. Os ydy'r cynsail hwnnw yn cael ei osod yna mae gobeithion y cynulliad o sicrhâi gorchmynion mwy uchelgeisiol a dadleuol (fel yr LCO iaith) yn ddim byd mwy na breuddwyd gwrach.
Ystyriwch hynny o safbwynt Plaid Cymru. Os ydy'r Ysgrifennydd Gwladol mewn gwirionedd yn dweud y byddai'n ystyried defnyddio ei feto i rwystro refferendwm ac os ydy hi'n amhosib cyflawni addewid mor sylfaenol a mesur iaith swmpus pa gyfiawnhad posib fyddai 'na dros barhâi a'r glymblaid? Ar ben hynny pe bai'r Ceidwadwyr yn addo rhwydd hynt i refferendwm- ac arolygon yn awgrymu eu bod ar fin cipio grym yn San Steffan oni allai trefniant pleidiol arall yng Nghaerdydd bod yn fwy effeithiol?

Golygydd Materion Cymreig y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru.


SylwadauAnfon sylw
Stori bwysig ond pam bod na ddim manylion ar wefan y ÃÛÑ¿´«Ã½. Hefyd, falle na fyddai'r Ysgrifenydd Gwladol Toriaidd yn gwrthod cais am refferendwm - ond maen nhw'n gallu fforddio gwneud gan wybod na fyddai mwyafrif Ceidwadol yn Nhy'r Cyffredin byth yn caniatai'r fath bleidlais.