Chim Chim Cher-oo
Mary Poppins yw'r sioe fawr yng Nghanolfan y Mileniwm ar hyn o bryd ac fel y byddai rhywun yn disgwyl mae'n denu cynulleidfaoedd sylweddol gan gynnwys ambell i aelod cynulliad.
Tybed beth fyddai'n rhaid i Rhodri Morgan wneud i'w denu i'r siambr, tybed? Canu "Supercalifragilisticexpialidocious!" efallai? Dawnsio fel Dick Van Dyke?
Yn sicr mae angen gwneud rhywbeth. Roedd union hanner aelodau'r cynulliad yn absennol o sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog heddiw.
Nid y gwrthbleidiau oedd ar fai. Roedd wyth Ceidwadwr a phum Democrat Rhyddfrydol yn y siambr. Gan gynnwys y Llywydd roedd wyth o aelodau Plaid Cymru'n bresennol.
Faint o aelodau Llafur oedd yno i gefnogi eu harweinydd? Deg- a chwech o rheiny ar y meinciau blaen. Dim ond pedwar aelod meinciau cefn oedd yn credu bod hi'n werth gwrando ar Rhodri. Efallai fy mod wedi colli mas ar barti neu rywbeth.

Golygydd Materion Cymreig y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru.


SylwadauAnfon sylw
"Yn sicr mae angen gwneud rhywbeth. Roedd union hanner aelodau'r cynulliad yn absennol o sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog heddiw."
Oes, mae angen gwenud rhywbeth, y peth yna ydi pwerau deddfu llawn i'r Cynulliad unlle y siop siarad sydd gan ni ar y funud.