Prynwch Docyn
Roeddwn i'n gwrthod credu'r si i ddechrau ond mae ffynonellau o fewn y Blaid Lafur yn cadarnhau bod arch tynnwr blew o drwyn y blaid, David Taylor, yn ystyried sefyll yn Arfon yn yr etholiad cyffredinol.
Deallaf fod David yn teimlo'n rhwystredig nad oes neb wedi dod i'r fei i sefyll mewn sedd sydd, ar bapur o leiaf, yn un addawol i Lafur.
Mae David wrth gwrs yn gyfarwydd i gefnogwyr Plaid Cymru fel tad bedydd amryw o wefannau, yn eu plith Aneurin Glyndŵr. Efallai nad yw pawb ohonyn nhw yn gwybod ei fod yn Gymro Cymraeg. Diawch! Rwy'n edrych ymlaen at yr etholiad yma. Prynwch eich popcorn!

Golygydd Materion Cymreig y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru.


SylwadauAnfon sylw
Newyddion da yn sicr i'r Blaid os bydd yn wir!