Miri Meirion
Mae Gwilym Euros Roberts wedi ei ddewis fel ymgeisydd Cynulliad Llais Gwynedd yn Nwyfor Meironydd. Dydw i ddim yn nabod Gwilym ond mae'n toreithiog a difyr.
Does dim clem da fi faint o fygythiad yw Gwilym i Dafydd El (neu rywun arall o Blaid Cymru) mewn gwirionedd. Mae 'na groeso arbennig i sylwadau o Wynedd felly!
Mae Llais Gwynedd hefyd yn bwriadu enwebu ymgeisydd yn Arfon yn 2011 ond dyw'r blaid ddim yn bwriadu sefyll yn yr Etholiad Cyffredinol.

Golygydd Materion Cymreig y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru.


SylwadauAnfon sylw
Yn anffodus Vaughan, nid oes gan Gwilym na neb arall unrhyw obaith o gwbl i ddadorseddu Dafydd El. Mi fyddwn i wrth fy modd yn cael gweld hynny'n digwydd, ond mae'r Blaid ym Meirionnydd yn atgoffa rhywun o'r hen ystrydebau am fwnciod llafur a chymoedd y de.
Yr unig beryg, os oes peryg o gwbl, fyddai iddo rannu pleidlais Plaid Cymru. Yn enwedig gan fod Gwilym yn Gymro cenedlaetholgar, er yn ymylu tua'r dde.
Pob lwc i Gwilym.
I'r dde o Arglwydd mawr y sefydliad ? .
Amhosibl !