Rhwydweithio
Fe wnes i anghofio postio ddydd Gwener i'ch atgoffa am y podlediad. Mae'n cynnwys "Dau o'r Bae" fel arfer ynghyd a sgwrs ac Archesgob Cymru ynghylch y cysylltiad rhwng crefydd a gwleidyddiaeth. Mae modd gwrando neu danysgrifio i'r podlediad trwy wasgu'r botwm ar y dde ac mae 'na restr lawn o bodlediadau Cymraeg y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn fan hyn.
Fydd 'na ddim CF99 yr wythnos hon, gyda llaw, oherwydd hanner tymor y cynulliad. Dyw hynny ddim yn effeithio ar y blog. Yn wir fe ddylai hon fod yn wythnos ddifyr i flogio. Un gair. PÔL!!!!
Dyma gasgliad o ddolennau difyr gan gychwyn gyda "blog wars" yng Ngwynedd.
Darllenwch yn gyntaf ac yna ymateb .
Os ydy pethau mynd yn waeth rhyngddyn nhw gallai'r dolennau nesaf fod o gymorth! Mae 'na rybudd o anweddustra ynghylch y rhain. Mae angen stumog gref!
Sut mae rhegi yn (Esquire), (Rhegiadur) a .
Rwy'n dwli ar y ffaith mai "mollethi" yw'r gair Cernyweg am regi!
Sut mae dysgu iaith ar "Twitter"
STV
Fedra i ddim yr wrthsefyll y demtasiwn i gyflythrennu. Hanes yr hyrliwr hoyw.
Irish Independent
Mae'n werth cofio weithiau bod 'na lefydd lle mae'r Saesneg yn iaith leiafrifol.
National Post (Canada)

Golygydd Materion Cymreig y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru.


SylwadauAnfon sylw
Os ti'n byw yng Nghaernarfon 'does yna fawr fedar rhegiadur ei ddysgu i ti mae gen i ofn.