
|
 |
Pam
darllen llyfr,
Duw?
Holi cymeriadau Pam Fi Duw? am lyfrau a darllen?
Dydd Iau, Mawrth 9, 2000
|
Ar
gyfer Diwrnod y Llyfr yfory, Mawrth 10, bu Cymru’r Byd yn
holi rhai o actorion Pam Fi Duw? am lyfrau a darllen. Dyma
ymateb Lucy Rich (Sara), Gareth Jewell (Cwcw), Ellen Salisbury (Esyllt
ap Einion) ac Eirlys J. Britton (Pegi)
Pwy yw eich hoff awdur?
John Owen (Lucy a Gareth)
Leon Uris (Ellen)
Robin Llewelyn (Eirlys)
Pa lyfr Cymraeg ddarllenoch chi ddiwethaf?
Y Stafell Ddirgel gan Marion Eames (Lucy)
Ac yna Clywodd Swn y Môr gan Alun Jones (Gareth)
Wele’n Gwawrio gan Angharad Tomos (Ellen ac Eirlys)
Pa
gymeriad o lyfr sy'n mynd dan eich croen?
Megan (Lucy)
Dim un. Eu hoffi iI gyd mewn rhyw ffordd (Gareth)
Y Nyrs yn Romeo a Juliet (Ellen)
Enoc Huws (Eirlys)
Pa gymeriad o lyfr a fyddech yn hoffi ei gyfarfod?
Rowland Ellis (Lucy)
Meredydd (Gareth)
Conor Larkin o Trinity, Leon Uris - wedi syrthio mewn cariad
ag e (Ellen)
Strempan (Eirlys)
Pryd a lle byddwch yn mwynhau darllen?
Yn y gwely (Lucy)
Cyn cysgu neu yn y ty bach (Gareth)
Yn y gwely ac yn fwy na dim ar y traeth (Ellen)
Yn y gwely (Eirlys)
Pa lyfr Cymraeg a fyddech yn ei argymell i ffrind?
Pam Fi Duw? (Lucy a Gareth)
Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard heb unrhyw amheuaeth (Ellen)
Seren Wen ar Gefndir Gwyn gan Robin Llewelyn (Eirlys)
Pa
lyfr sydd wedi cael y dylanwad mwyaf arnoch?
Shirley Valentine (Lucy)
Pam Fi Duw? - wrth gwrs (Gareth)
Captain Correlli’s Mandolin - gyda digon o chwerthin a digon o ddagrau
(Ellen)
Wele’n Gwawrio (Eirlys)
Pa lyfr a hoffech ei weld yn cael ei addasu ar gyfer S4C?
Cysgod y Cryman gan Islwyn Ffowc Elis (Gareth)
Eisiau gweld mwy o ffilmiau yn cael eu comisiynu yn hytrach nag addasu
mwy o lyfrau (Ellen)
Pam Fi Duw? Ddy Mwfi (Eirlys)
Pa lyfrau ydych chi wedi mwynhau eu hastudio yn yr ysgol?
Shirley Valentine (Lucy)
Ac yna Clywodd Swn y Môr; Cysgod y Cryman (Gareth)
Pob un Shakespeare a hynny oherwydd awch yr athro tra’n dehongli
Cysgod y Cryman (Eirlys)
Pa lyfr a fyddech wedi hoffi ei ysgrifennu?
Cofiant John Owen (Lucy)
Cysgod y Cryman (Gareth)
The Hobbit gan Tolkien (Ellen)
Seren Wen ar Gefndir Gwyn gan Robin Llewelyn
Pa
awdur a fyddech yn hoffi ei gyfarfod?
Gwenlyn Parry (Lucy)
John Owen? (Gareth)
Tolkien (Ellen)
Islwyn Ffowc Elis (Eirlys)
Lle mae eich hoff siop lyfrau?
Yn y dre (Lucy)
W. H. Smith (Gareth)
Blackwell’s Caerdydd a siop fach ym Mhorthmadog (Ellen)
Siop y Felin (Eirlys)
Beth yw eich neges ar gyfer Diwrnod y Llyfr?
Daliwch i ddarllen (Gareth)
Pan fo llyfr o mlaen mi fuasai’n wych tasa awr yn para am byth. Does
na ddim byd gwell (Ellen)
Darllenwch Pam Fi Duw? (Eirlys)
|
 |

|