
 |
 |
Bywyd
Cymry
America mewn print
Papur
newydd
Cymry America yn dathlu canrif a hanner
Dydd Iau, Ionawr 25, 2001
|
Mae
Y Drych - yr hynaf o bell ffordd o bapurau newydd America
- yn dathlu canrif a hanner o gyhoeddi di-dor y mis hwn. Di-dor, hyd
y gwyddys, gan nad oes yn yr un llyfrgell yng Nghymru nac America
gopi o bob rhifyn a gyhoeddwyd o’r papur.

Hyd y 40au yr oedd yn wythnosolyn ac wedi hynny yn bapur misol. Ddegawd
cyn hynny newidiodd o fod yn bapur Cymraeg ei iaith i fod yn un Saesneg.
Ymddangosodd y rhifyn cyntaf ar Ionawr 2, 1851 ac yr oedd, meddai'r
Athro Aled Jones o Goleg y Brifysgol Aberystwyth, yn llawn barddoniaeth
- gan gynnwys cerdd felodramatig, Cwyn Y Fam Dros Ei Phlentyn Y
Noson Cyn Ei Dienyddiad.
Sefydlwyd y papur yn Efrog Newydd gan John Morgan Jones, gwr a anwyd
yn Llanidloes yn 1818 ac a ymfudodd i’r Unol Daleithiau yn 1832.
Rhoi mewnfudwyr ar ben ffordd
Ei nod oedd darparu newyddiadur ar gyfer mewnfudwyr uniaith Gymraeg,
neu rai oedd yn medru Saesneg ond heb fedru ei darllen.
Yn ôl John Morgan Jones yr oedd gan y papur gylchrediad o 250,000
ond yn ôl yr Athro Aled Jones, yr oedd yn debycach o fod ymhlith y
cannoedd. Rhaid denu hysbysebwyr!
Ond yr oedd y papur yn cael ei werthu ar draws ystod drawiadol o’r
Unol Daleithiau. Gwerthwyd y rhifynnau cynnar ym Mhennsylvania, yn
Nhalaith Efrog Newydd, Ohio, New Jersey a Massachusetts. O fewn wythnosau
yr oedd dosbarthwyr ychwanegol yn Louisiana, Michigan, Wisconsin,
Vermont a Maryland.
Croeso yn yr Hen Wlad
Roedd gan y papur ddosbarthwyr yng Nghymru, hefyd, ac yr oedd yn amlwg
wrth yr hyn ymddangosai mewn papurau a chylchgronau bod iddo groeso
yn yr "hen wlad".
Yr oedd, yn ôl Y Dysgedydd, yn gychwyn "cyfnod newydd yn hanes ein
cenedl".
Rhwng 1851 ac 1860 canolbwyntiai’r papur ar bynciau crefyddol a diwylliannol,
ac er yn anghydffurfiol ei dueddiadau, llwyddodd i osgoi’r ymgecru
enwadol oedd yn nodweddiadol o’r wasg yng Nghymru.
Gwerthodd John Morgan Jones y papur i Gwmni o Foneddigion yn Efrog
Newydd yn 1854. Aeth ati’n syth i sefydlu papur arall, Y Cymro
Americanaidd, a chyhuddo perchnogion newydd Y Drych, ymhlith
pethau, o fod yn gefnogol i gaethwasiaeth ac yn bleidiol i’r Democratiaid.
Dan gadeiryddiaeth Jones arall, William B. Jones (a ymfalchïai yn
yr enw barddol ap P. A. Mon), prynodd cwmni’r Drych bapur arall,
Y Gwyliedydd Americanaidd, a’u huno dan y teitl Y Drych a’r Gwyliedydd.
Y golygyddion newydd oedd Morgan A. Ellis a John William Jones - roedd
nifer fawr o John Jonesiaid yn gysylltiedig â’r papur yn y dyddiau
cynnar! Prynodd John William Jones y papur yn 1858.
Blynyddoedd y Rhyfel Cartref
Yn y cyfnod rhwng 1860 a 1869 - oedd yn cynnwys blynyddoedd y Rhyfel
Cartref - cryfhaodd teimladau gwladgarol gweriniaethol a bu llawer
o ddadlau ac edliw am gaethwasiaeth rhwng y papur a phapurau Cymraeg
eraill.
Erbyn 1868 roedd y papur yn cyhoeddi ei fod ar werth ym mhob talaith
a bod y cylchrediad yn 5,000. Cafwyd ymgyrchoedd gwerthiant difyr
gan gynnwys un oedd yn cynnig delw o John Elias i bob un oedd wedi
talu tanysgrifiad blwyddyn am 1861 cyn Rhagfyr 31, 1860!
Yr oedd y papur yn danbaid o blaid y gogledd yn y Rhyfel Cartref a
chodwyd erthyglau cyfain o’r Drych a’u hail-gyhoeddi yn Yr Herald
Cymraeg. Bu ffrae fawr rhwng Y Drych a Samuel Roberts (S.R. Llanbrynmair)
oedd yn heddychwr ac wedi ymsefydlu ym Mrynffynon, Tennessee.
Carcharor ym Mhatagonia
Wrth i fwy o Gymry ymfudo daeth cyfleon newydd. Prynodd John Mather
Jones y papur yn 1864. Ymysg yr hyn â gyhoeddwyd yn y papur oedd stori
gyfres, Carcharor ym Mhatagonia, nofel gyda darluniau o frodorion
ffyrnig a angenfilod annifyr.
Yn ôl yr Athro Aled Jones, mae’n bosib mai pwrpas y stori oedd ceisio
dychryn Cymry rhag ymfudo i Batagonia.
Yn 1869 rhoddodd John Mather Jones y gorau i olygu’r papur ond parhaodd
yn berchen y papur tan ei farw yn 1874.
Penododd John C. Roberts, neu "John C. Y Drych", yn olygydd
yn 1869 a pharhaodd yng nghadair y golygydd am 42 mlynedd tan ei farw
yn 1911. Dywedwyd fod llwyddiant y papur "I raddau uchel yn ddyladwy
i’w ddiwydrwydd, ei ffyddlondeb, ei chwaeth dda a’i ymroddiad diflino."
Llwyddo i gadw tanysgrifwyr
Prynwyd y papur gan T. J. Griffiths pan fu farw John Mather Jones.
Yn 1877 prynodd Griffiths Baner America, oedd a’i bencadlys yn Scranton,
hefyd Y Wasg a gyhoeddwyd yn Pittsburgh yn 1890 a Y Columbia Chicago
yn 1894.
Ym mhob achos llwyddwyd i gadw rhestrau’r tanysgrifwyr, darllenwyr
a’r hysbysebwyr. Mae enwau’r tri phapur ar faner deitl Y Drych
hyd heddiw.
Ymhlith yr hysbysebion mae’r hysbysebion te yn amlwg - Te’r Hen Wlad,
Te Y Ddraig Goch, Te Y Werin ac - yn annhebygol iawn - Eryri Tea!
Credir i wr o’r enw George T. Matthews wneud ffortiwn gyda’i Te-Y-Brenin
gyda’r hysbyseb "Yfed Te’r Brenin a darllen Y Drych" - dwy o nodweddion
pob Cymro da!
Yn 1893 cyhuddodd Y Drych, bob amser yn gefnogol i blaid y gweriniaethwyr,
y byddai’r Democratiaid yn rhoi treth o 30 y cant ar de! Fuasai’r
Cymry byth yn goddef y fath beth!
Angor i don ar ôl ton o fewnfudwyr
Rhwng diwedd y Rhyfel Mawr a’r Ail Ryfel Byd bu’n frwydr i gynnal
y papur. Roedd nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr Unol Daleithiau yn
lleihau. Newidiodd o fod yn wythnosolyn i fod yn bapur misol a pheidiodd
a bod yn bapur Cymraeg.
Am ganrif a hanner bu’r papur yn angor i don ar ôl ton o fewnfudwyr
o Gymru i’r byd newydd. Ar un adeg yr oedd ganddo - a thebyg bod ganddo
o hyd - danysgrifwyr ym mhob cornel o’r byd.
"Yn ei ddydd, yr oedd yn CNN yn yr iaith Gymraeg," meddai’r Athro
Aled Jones. Ond erys un ffaith ryfeddol. Y Cymry yw’r unig grwp ethnig
yn America i gynnal eu newyddiadur eu hunain yn ddi-fwlch am ganrif
a hanner. Y Drych yw’r newyddiadur hwnnw.
Bydd Gwasg Gomer yn cyhoeddi cyfrol o hanes y papur o waith yr Athro
Aled Jones a’r Dr Bill Jones, Adran Hanes ac Archeoleg Prifysgol Caerdydd,
cyn diwedd y flwyddyn.
|
 |

|