ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Rhy Iach
Adolygiad Caron Edwards o Rhy Iach gan Bobi Jones. Cyhoeddiadau Barddas, £13.


Rhy Iach yw wythfed cyfrol Bobi Jones o storïau byrion.
Bu'r rhagflaenyddion yn rhai clodwiw gyda gwobr Cyngor y Celfyddydau yn cael ei dyfarnu iddo am ei gasgliad Crio Chwerthin.

Ond cleddyf daufiniog yn aml yw llwyddiant, a chyda phob braint y gorffennol, daw baich disgwyliad y dyfodol.

Clawr y llyfrCyn mynd i'r afael â'r hyn sydd rhwng y ddeuglawr, mae'n rhaid imi dynnu sylw at y clawr ei hun - ond nid, yn anffodus, am resymau cadarnhaol.

Ar wahân i enw awdur, y clawr yw'r un o'r pethau cyntaf i'ch denu at lyfr ac o'r herwydd mae'n bwysig i ddelwedd y clawr siarad, i ryw raddau, â'r darllenydd, ac ymestyn ei hun oddi ar y silffoedd a threiddio i ymwybyddiaeth unigolyn.

Credaf hefyd, y dylai'r clawr adlewyrchu rhywbeth, waeth pa mor annelwig, am y cynnwys geiriol oddi mewn ac y dylai, yn ei grynswth, gyfrannu at gyfanrwydd y gwaith.

Yn anffodus, teimlaf fod 'siaced' Rhy Iach yn ddiflas a di-fflach. A dweud y gwir, yn eithaf hen-ffasiwn.

Mae hynny'n yn drueni gan nad yw'r cynnwys, wedi i chi edrych heibio'r wyneb, wedi dyddio o gwbl. I'r gwrthwyneb, ceir yma drafodaeth am themâu oesol bywyd, gyda hunanoldeb yr un canolog.

Digrif a difrif
Pum stori sydd yma, "dwy sy'n ddigrif, dwy yn ddifrif. A'r llall, wel mae honno'n ddigrif o ddifrif" yn ôl y salespitch ar y cefn.

Ac mae'n rhaid i mi ddweud i mi fwynhau'r rhai digrif mwyaf oll gyda'r hiwmor yn gynnil, a'r dweud wedi ei ddeiliwtio'n effeithiol.

O ganlyniad, cawn gameos o gymeriadau, a hynny'n rhai crwn, braf, o ambell i frawddeg yma a thraw.

Yn Y Plât cyfarfyddwn â Joan Powell sydd â'r "ddawn siriol o ysgogi cur yn ei phen pryd bynnag y mynnai..."

Yn ddiweddarach, estynnir ar y cipolwg hwn gyda'r datganiad parthed ei hoedran, ei bod hi'n "barod iawn i gyffesu i rywun ddeugain prin o'i blynyddoedd gorau...Cadwai'r wyth arall ynghudd yn ei bag llaw..."

Mae hwn, fel â llawer i ddisgrifiad arall yn y gyfrol, yn creu darlun cynnil fel yr argraffiadau a gawn o bobl bob dydd mewn bywyd.

Rhyw awgrym man hyn a man draw sy'n cripian i fyny ar y darllenydd, ac yn datgelu llawer mwy na'r dweud llythrennol.

Cyflwyniad anffodus
Serch hynny, gellir ar ormodiaeth ar brydiau - a'r enghraifft orau - neu waethaf - o hyn yw'r stori gyntaf Rhan y Rhieni, sy'n gyflwyniad fymryn yn anffodus i'r gyfrol yn fy nhyb i.

Teimlaf fod gwendidau sylfaenol i'w canfod ynddi; yn bennaf, tuedd tuag at fod yn hirwyntog.

Yn ei hanfod, mae'r stori'n trafod byd ble y "methai mudandod â gwrando ar fudandod arall" ond yn eironig ddigon, ceir pentyrru cymariaethau a throsiadau i wneud hyn.

Yn ddi-os, mae'r ieithwedd yn gyfoethog drwyddi draw, ond ar brydiau yn dueddol o fod yn rhy gain nes bo rhywun ofn cyffwrdd na gwir fynd i'r afael a hi, dim ond edmygu o bell.

Dro arall, fodd bynnag, daw'r ddawn dweud i'r amlwg, wrth gael trafodaeth ynglyn â'r gwahaniaethau rhwng gwryw a menyw, ac o drafod goblygiadau dau riant, meddai:
"Rhan-amser oedd ei dadolaeth ef: hithau, Sioned, roedd hi'n fam i gyd."

Gwaethaf a'r gorau
Yn anffodus, yn y stori agoriadol hon y cawn y gwaethaf yn ogystal â'r gorau o'r gyfrol a pharagraffau'n ddiweddarach, ceir ymdriniaeth o hiliaeth nad yw bellach yn berthnasol.

Mae'n hiliaeth amrwd, naïf, yn hiliaeth hawdd. Gwell o lawer fyddai cael ymdriniaeth o'r hiliaeth awgrymog honno sy'n llechu yn y cysgodion o'n cwmpas, yr hiliaeth haniaethol frwnt.

Serch hynny, buaswn yn argymell Rhy Iach i unrhyw un, a hynny heb flewyn ar fy nhafod. Mae'r cryfderau'n llawer mwy niferus nag unrhyw wendidau sy'n perthyn iddi.

Cysylltiadau Perthnasol


cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý