ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cynnwrf Canrif
Sylwadau ar Cynnwrf Canrif - Agweddau ar Ddiwylliant Gwerin gan Huw Walters. Barddas. £16.


O'i theitl gellid maddau i rywun am feddwl mai cyfrol ysgolheigaidd, sych, gyda gwaith palu mawr drwyddi yw hon.

Nid fyddai dim yn bellach oddi wrth y gwir.
Mae'n gywir ei bod yn ffrwyth ysgolheictod dyfal ond mae hefyd yn ddifyr i'r lleygwr o ran cynnwys ac yn llithrig ddigon o ran arddull.

Clawr y llyfr Mae gair o ganmoliaeth haeddiannol i'r awdur, Huw Walters, sy'n bennaeth Uned Llyfryddiaeth Cymru yn Adran Casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gan Hywel Teifi Edwards mewn cyflwyniad i'r llyfr.

Ysgolhaig a llenor
"Yn ysgolhaig arfog, y mae'n ogystal yn llenor sy'n denu a chynnal darllenwyr gan mor olau a diwastraff yw'r arddull a ddatblygodd," meddai.

Ar ben hynny, mae'n trafod pynciau ac, yn bwysicach fyth, bobl ddiddorol.

Naw ysgrif sydd yn y gyfrol hon - ond mae rhywun yn teimlo y byddai rhai o'r pynciau a'r cymeriadau yn ddigon difyr a diddorol i haeddu eu llyfr eu hunain.

A chyda'r gyfrol yn costio £16 tybed na fyddai mwy o brynu ar nifer o lyfrau rhatach.

Brwydr dirwest
Y tair erthygl a roddodd y mwynhad pennaf i mi oedd Y Gwladgarwr a'i Ohebwyr,
Pontypridd a'r Cylch: Gwlad beirdd a Derwyddon a
Dryllio Caerau Bacchus: Cenhadaeth Daniel Dafydd Amos yn ymwneud â brwydr dirwest - a pheidied neb a thybio fod hwnnw'n bwnc sych - yng nghymoedd y de yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg lle canolir y sylw ar weithgarwch Y Parchedig Phylip Griffiths, gweinidog eglwys annibynnol yr Allt-wen.

Ddydd ei angladd ef, "distawodd peiriannau gweithfeydd yr Allt-wen, Pontardawe, a'r pentrefi cyfagos, caewyd drysau'r masnachdai, a thynnwyd y llenni ar draws ffenestri'r siopau am y prynhawn."

Yn fwy na gweinidog yr oedd Griffiths hefyd yn ysgolfeistr, yn gyfreithiwr i'w braidd ac yn "ddiwygiwr cymdeithasol" yn ei ardal.

Bendith y Cwrw Bach
Mae'r darlun o'r cyfnod a'i arferion y tu hwnt o ddifyr.

Arferion fel y Cwrw Bach, er enghraifft, oedd yn cael ei gynnal i gynorthwyo gweithwyr a gollodd eu iechyd:
"Cytunai'r ardal gyfan . . . gynnal cwrw bach neu bastai . . . Âi'r trigolion ati gyda chryn frwdfrydedd i facsu cwrw a chrasu teisennau ac yna eu gwerthu mewn gwledd, gan gyfrannu'r elw wedyn i'r dioddefydd a'i deulu."

Hynt papur newydd
Heb os, y bennod yn y gyfrol a ddarllenais gyda'r mwyaf o awch oedd, Y Gwladgarwr a'i Ohebwyr.

Papur newydd Cymraeg wythnosol a gyhoeddwyd yn Aberdâr rhwng 1858 ac 1884 oedd Y Gwladgarwr gyda chriw digon brith o gymeriadau yn amrywio rhwng y gwych a'r gwachul a'r ecsentrig yn cyfrannu iddo.

Diddorol y dyddiau hyn o gwyno am gynni'r wasg Gymraeg cymaint bri oedd yna ar gyhoeddiad Cymraeg o'r fath y cyfnod hwnnw - yn enwedig yn yr ardal arbennig hon yr ydym heddiw wedi anghofio pa mor fyrlymus Gymreig fu hi.

Dalen flaen Y GwladgarwrMeddai Huw Walters: "Sefydlwyd nifer o weithfeydd haearn ym Mlaenau Gwent a Morgannwg . . . ac . . . yr oedd cryn lewyrch ar Gymreictod yr ardaloedd hyn. Cymraeg oedd iaith y mwyafrif llethol o'u trigolion, a sefydlwyd nifer o gymdeithasau Cymreigyddol, gyda'r amcan o noddi llên a barddas."

Ffrae rhwng papurau
Tyfodd Aberdâr ei hun "yn brif ganolfan argraffu Morgannwg "ac mae rhyfel bapur newydd a ddisgrifir rhwng Y Gwladgarwr a chyhoeddiad arall,Y Gwron, gystal ag unrhyw ffrae rhwng Sun a Mirror y dyddiau hyn gydag un papur yn hudo golygydd y llall i weithio gydag ef!

Yng nghanol y ffrae sefydlwyd papur arall, Y Gweithiwr a unwyd maes o law a'r Gwron - y cyfan yn arwyddion cryn brysurdeb, menter a drwgdeimlad.

Cecru a morthwylio
Yr oedd barddoniaeth, helyntion eisteddfodol a ffraeo am farddoniaeth ac ymgecru rhwng beirdd yn rhan allweddol o ddarpariaeth Y Gwladgarwr. "Nid yw ef byth yn ddedwydd pan heb elyn i'w forthwylio," cyhuddir un o'r golygyddion. "Mae wedi gollwng dros y wlad drwy'r newyddiaduron raiadrau o rant a baldordd bregethwrol."

Ond rhoddodd hefyd y cyfle cyntaf "i un o ysgrifenwyr rhamantau amlyca'r Gymraeg", gyhoeddi ei waith - Isaac Craigfryn Hughes, glöwr o Fynwent y Crynwyr.

Llyfnwy Gyda'r mwyaf poblogaidd o'i gyfranwyr oedd Thomas 'Llyfnwy' Morgan o'r As Fawr ym Mro Morgannwg a brentisiwyd yn deiliwr ond a sgrifennai golofn, Teithiau yr Hen Bacmon, yn cynnwys straeon a gasglai yn ystod ei deithiau'n teilwra mewn ardal yn ymestyn cyn belled a Sir Gaerfyrddin.

Diweddodd ei ddyddiau yn yr America wedi, yn gyntaf, fod yn yn cadw'r Cross Keys yn Ffynnon Daf ac yntau wedi rhoi'r gorau i ohebu fel y Pacmon.
Yn America, lle'r ymunodd ei wraig a'i naw o blant ag ef yn Scranton, sgrifennai i Baner America ac i gyhoeddiadau yng Nghymru.

Pan yn ohebydd yng Nghymru, ymddiddorai'n fawr mewn helyntion eisteddfodol.

Un tro, yn dilyn adroddiad "smala" am briodas y Parchedig William Hopkin, Cymer, daeth dan lach un a alwai ei hun Y Cymro Gwyllt, Noah Morgan Jones, a oedd yn gymeriad yr un mor ddiddorol ac yr awgryma'i enw!

Ganwyd ef, yr ieuengaf o naw o blant, ym Mynachlog Nedd ond wedi symud i Anerdâr dechreuodd weithio dan ddaear yn 12 oed.

Ysgrifell yn ysgrafell
"Mynych y byddai yr ysgrifell yn troi yn ysgrafell yn ei law," wrth iddo drafod pynciau diwydiannol fel perthynas meistr a gwas ac yntau "yn meddu digon o wroldeb i draethu ei farn heb ofni y canlyniadau."

Yn arwydd o'r amseroedd yr oedd yn asiant hyrwyddo allfudo i'r America a bu dros yr Iwerydd ei hun fwy nag unwaith a sefydlodd ei fusnes allfudo ei hun.

Cymro Gwyllt"Nid pawb a gymeradwyai'r Cymro Gwyllt, fodd bynnag. Awgrymodd Walter Haydn Davies mai arfer y Cymro oedd manteisio ar lowyr y cymoedd drwy eu cymell i yfed yn nhafarn y Cross ac wedyn eu hudo, yn eu meddwdod ac addo pob math o gysuron bydol iddynt yn America."

Cymaint ei sêl dros America y disgrifiwyd Y Gwladgarwr fel "y mwyaf Americangar o gyfnodolion Cymru" a chyhoeddwyd degau o lythyrau gan ymfudwyr ynddo a'r rheini bellach yn ddogfennau gwerthfawr i bwy bynnag sy'n astudio yr agwedd hon o hanes y cyfnod.

Mae'r ymfudo hwn yn sgwarnog y mae Huw Walters yntau yn ei dilyn gyda brwdfrydedd yn y bennod hon.

Y rhifyn olaf
Daeth yr hen bapur i ben fis Hydref, 1882, a hynny er mawr lawenydd i gyhoeddiad arall yn Aberdâr a gyhoeddodd un o'r marwnadau mwyaf gorfoleddus a ddarllenwyd erioed:

"Ond er dyfned ein parch ac er uched ein syniadau am ein hen gyfaill ymadawedig," meddai Tarian y Gweithiwr, "ni thrawyd ni a syndod pan ganwyd cnul ei farwolaeth. Yr oedd yn amlwg ers wyth mlynedd fod y darfodedigaeth wedi ymaflyd yn ei ranau bywydol . . . Ffugiai fod mor iached â chricsyn pan oedd ei gyfansoddiad mor bwdr â llywodraeth y Twrc. Ond nid oedd pranciau felly i barhau yn hir a . . . wele y newydd hir ddisgwyliedig . . . ei fod wedi tynu ei anadl ddiweddaf!

"Yr oedd ein hen gyfaill ymadawedig y fath gyfrwng ysblennydd i lu o ymfflamychwyr i ddwyn allan gynhwysiad eu pothellau a'u pledrenau gwynt. Y mae ychydig Wellingtoniaid y byd llenyddol wedi eu hamddifadu o'r maes y buont yn ymladd llawer cant o frwydrau. Dystawodd sŵn eu tabyrddau a pheidiodd cleciadau eu cwmbwlets!

"Priodol y gellir dweud, 'A'r wlad a gafodd lonydd, a bu tawelwch mawr'. . . .

"Bu farw a'i gŵd yn llawn o fustl a llond cil ei foch o ddifrïaeth. Safai champions y bedwaredd ganrif ar bymtheg wrth erchwyn ei wely mor chwyddedig a llyffaint Cors Fochno. Ond Ow! Diffoddodd y ganwyll frwynen, a'r oraclau a adawyd yn y tywyllwch. Bydded tynghedfen yn dyner i'r rhai sydd yn eu galar, ac ymdrechwn ninau i lanw bwlch mawr a phwysig a achoswyd gan farwolaeth ein hen gydymaith."

Heddwch i'w lwch yn wir!

Cymharu â heddiw
Ac y mae gair olaf Huw Walters, er yn fwy cytbwys, yr un mor finiog:
"Y mae pori yng ngholofnau'r Gwladgarwr . . . a'r cylchgronau a'r newyddiaduron eraill a gyhoeddwyd yng nghymoedd diwydiannol y de . . . heb na chymhorthdal na nawdd gan yr un sefydliad cofier - yn brofiad ysgytwol i'r darllenydd o Gymro Cymraeg heddiw, sy'n gorfod dibynnu ar newyddiaduraeth ail-law, slic ac arwynebol gwasg Gymraeg ddisylwedd ddechrau'r unfed ganrif ar hugain."

Penodau eraill
Un arall o benodau llachar y gyfrol yw honno am weithgarwch hynod beirdd a derwyddon ardal Pontypridd yn y bedwaredd ganrif ar.

Llai anghyfarwydd yw hanes Amanwy y mae Huw Walters yn trafod ei ryddiaith.

Mae pennod hefyd am un o'r ymchwilwyr i gyflwr addysg yng Nghymru a esgorodd ar adroddiad Y Llyfrau Gleisiom; Unig Anterliwt Shir Gâr; Cymry yn Awstralia a John Dyer a Theulu'r Waun Lwyd.

Gyda'r Nadolig yn agosáu - cyfrol wych i'w hystyried yn anrheg.
Glyn Evans



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý