ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Geiriadur deintyddol - dewis geiriau
Chwilio am yr union air
Fel y gellid disgwyl, daeth y panel termau, fel y daethpwyd i'w alw, ar draws nifer o anawsterau wrth fynd ati i lunio'r geiriau.
  • "Er enghraifft, doedd y gair ²µÃª²Ô ddim digon da i gyfieithu jaw a chin i'r Gymraeg.

    "Gan fod angen dau air gwahanol, penderfynwyd ar ²µÃª²Ô am jaw a blaen yr ên am chin er ein bod yn ymwybodol bod genau, sef ffurf luosog ²µÃª²Ô, hefyd yn air arall am y geg," meddai J Elwyn Hughes.

  • "Yn yr un modd, oherwydd mai bwa a arferid am arch a bow, penderfynwyd defnyddio bwa am arch a chynnig gair 'newydd', sef crymyn, am bow," ychwanegodd.

  • Bu'r gair dental ei hun yn destun cryn drafod gan fod yna yn y Gymraeg yn barod y ddau air, deintyddol a deintiol.

    "Yn y diwedd ein penderfyniad oedd mabwysiadu deintiol mewn perthynas â dant neu ddannedd a deintyddol i ddisgrifio'r maes neu'r wyddor yn gyffredinol - er bod gorgyffwrdd yn anochel o bryd i'w gilydd," meddai.

    Weithiau bu'n rhaid bathu gair newydd sbon:
    "Gair a fu'n peri anhawster inni oedd appliance. Doedd celficyn ddim yn dderbyniol gan y deintyddion ond o ystyried y gair cyfarpar dyma fathu'r ffurf newydd cyferpyn a hwnnw'n lluosogi yn cyferpynnau," meddai.

  • Cafwyd hefyd achosion o eiriau a ymddangosai yn rhai hawdd eu trosi dim ond i ddarganfod fod iddynt ystyr ddeintyddol cwbl wahanol i'r un amlwg, arferol,

    "Y cair cure er enghraifft. Iachau, wrth gwrs. Ond na term am galedu yw hwn mewn deintyddiaeth," meddai.

    "A dyna pam yr oedd hi mor bwysig ein bod yn cydweithio a'n gilydd fel tîm gan ddibynnu ar arbenigedd ein gilydd," meddai J Elwyn Hughes.

  • "Bu trafod hefyd ar yr angen i adlewyrchu ynganiad gair yn y ffordd y sillefid ef, a bod mor gyson ag y bo modd yn hynny o beth," meddai.

    Cyfeiriodd at eiriau fel f[e]irws, ff[e]ibr, m[i]wcos, sêl[i]wlos a t[i]wbercwl lle defnyddiwyd bachau petryal [...] i ddynodi bod dewis gan y defnyddiwr.

  • "Weithiau, cafwyd bod dau air neu ymadrodd - ac weithiau dri - yn Saesneg yn golygu'r un peth yn union fel,, approximal, intraproximal a proximal felly, yn y Gymraeg, bodlonwyd ar un gair yn unig, sef cyffyrddol," meddai.

  • "O safbwynt rhai termau cemegol, penderfynwyd yn ddigon anfoddog, y dylid dilyn y drefn arferedig yn Saesneg a dyna pam y gwelir trosi zinc oxide, er enghraifft, yn sinc ocsid er mai ocsid sinc fyddai gywiraf o ran ystyr," meddai.

Geiriadur Deintyddol


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý