ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cymru Ddu
Croeso Cymreig? Go brin
Adolygiad Gwyn Griffiths o Cymru Ddu - Hanes Pobl Dduon Cymru gan Alan Llwyd. Hughes a'i Fab mewn cyweithrediad â Butetown History and Arts Centre. £14.95.

Cyfrol yn deillio o'r ymchwil ar gyfer y gyfres deledu a ddarlledwyd yn ddiweddar ar S4C yw'r gyfrol ddwyieithog Cymru Ddu - Hanes Pobl Dduon Cymru gan Alan Llwyd.

Fel arfer mae diwydrwydd a thrylwyredd ymchwil Aan Llwyd yn syfrdanol ac y mae'r gyfrol hon yn gyfraniad gwiw i ddarn o hanes Cymru na chafodd y sylw dyladwy.

Clawr y llyfr I lawer o Gymry Cymraeg pobl ddieithr, hyd yn oed heddiw, yw pobl dduon, neu bobl o dras gymysg.

Hyd yn oed i drigolion di-Gymraeg Caerdydd pobl o du hwnt i bont y rheilffordd, pobl y bae a'r dociau yw'r gymdeithas ddu ac ethnig.

Twyllo'n hunain
Yr ydym wedi twyllo'n hunain nad yw hiliaeth yn broblem yng Nghymru.

Honwyd bod porthladd Caerdydd, lle ceir un o gymdeithasau du ac ethnig hynaf Prydain, yn batrwm o fan lle yr oedd y gwahanol gymdeithasau ethnig yn cydfyw'n gytûn.

Ceir darlun cynhwysfawr o dŵf cymuned ddu ag ethnig Caerdydd er na sonnir am bwysigrwydd gorsafoedd glo Aden a ddenodd gynifer o ddynion Yemen i Gaerdydd.

Fel y dengys Alan Llwyd, 'doedd pethau ddim yn fêl yn yr ardal honno ac fe ddioddefodd y trigolion sen a hiliaeth difrifol, yn arbennig o law'r heddlu ac o du awdurdodau'r ddinas.

Mae terfysgoedd hiliol 1919 a hanes Mahmood Hussein Mattan y Somaliad a grogwyd ar gam ym 1952 yn enghreifftiau gwarthus o hiliaeth y sefydliad.

Brwydrodd gweddw Mattan am yn agos i hanner canrif cyn cael pardwn swyddogol iddo ym 1998.

Blynyddoedd o ymgyrchu
Gwellodd pethau - ond eto ym 1990 carcharwyd Steven Miller, Yusef Abdullahi a Tony Parris am lofruddio Lynette White, er bod y dystiolaeth yn anhygoel o annigonol.

Wedi blynyddoedd o ymgyrchu ail agorwyd yr achos a chafwyd y tri yn ddieuog.

Ond yr oeddynt wedi treulio deuddeng mlynedd yng ngharchar erbyn hynny.

Ym 1929 yr oedd prif gwnstabl Caerdydd, James Wilson, yn llunio adroddiad oedd yn argymell deddfu i wneud priodasau cymysg yn anghyfreithlon.

Buasai De Affrica Apartaidd yn falch ohono

Chwaraewyr gadd eu gwrthod
Ganol yr ugeinfed ganrif codi pac wnaeth rhai o'r chwaraewyr disgleiriaf a fagwyd yng Nghymru erioed am y gwyddent na chaent eu dewis i chwarae rygbi'r undeb i'w gwlad oherwydd lliw eu croen.

Cafodd Billy Boston, Johnny Freeman a Colin Dixon - y ddau olaf wedi chwarae gyda'i gilydd i Halifax - groeso a pharch yn y gêm dri-ar-ddeg yng ngogledd Lloegr.

Yn fwy diweddar cefnodd Nigel Walker, yr athletwr sydd bellach yn Bennaeth Chwaraeon ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru, ar rygbi wedi methu â chael ei ddewis i dîm ysgolion Cymru.

Os ydych chi'n rhedeg yn gyflymach na phob un arall ar y trac, fedran nhw dim eich anwybyddu chi.

Yn ddiweddarach dychwelodd Walker i'r maes rygbi a chwaraeodd nifer o weithiau i Gymru.

Bellach cafodd tîm rygbi Cymru gapten du yn Colin Charvis ac o ran hynny bu un arall o blant porthladd Caerdydd, y disglair Ryan Giggs, yn gapten ein tîm pêl-droed cenedlaethol.

Gwrthod Bassey
Nid gwaith hawdd oedd hi i gantorion gael eu derbyn, ychwaith.

Nodir i Shirley Bassey gael ei gwrthod gan y ÃÛÑ¿´«Ã½ yng Nghymru - Mai Jones a'i gwrthododd yn ôl chwedloniaeth fewnol y Gorfforaeth.

Ond teg nodi hefyd i un o gynhyrchwyr y ÃÛÑ¿´«Ã½ wrthod Tom Jones,. Gall fod yn beryglus neidio i'r casgliad mai hiliaeth sy'n gyfrifol am bopeth!

Caethwasiaeth a Chymru
Ond nid dyma, er mor ddifyr ydyw, gyfraniad gwerthfawrogaf y gyfrol.

Mae'r gyfrol yn rhoi hanes caethwasiaeth gan gynnwys darlun cignoeth o greulondeb melltigedig y fasnach, llawer o'r wybodaeth wedi dod o ddogfennau Cymraeg a Chymreig anghyfarwydd.

Y mae hanes y cysylltiadau Cymreig a chaethwasiaeth yn dda a chynhwysfawr. Cysylltiadau Castell Penrhyn ger Bangor yn un.

Yr oedd Bryste yn agos iawn a buddsoddwyd llawer o elw caethwasiaeth yng ngweithfeydd haearn y de; pwnc y mae David Brown - a oedd yn ôl a ddeallaf yn un o ymchwilwyr y gyfres deledu - wedi ei archwilio.

Gyda llaw, buaswn wedi dymuno clywed beth yw damcaniaeth Alan Llwyd dros amlder enwau Cymreig ymysg pobl dduon America - pobl fel Condoleezza Rice a Colin Powell. Anodd credu bod nifer mor enfawr a'r awgrym, wrth gwrs, yw nifer o Gymry yn berchenogion caethweision.

Unigolion hynod
Y mae yn y gyfrol nifer o straeon am unigolion hynod.
Y mwyaf diddorol oedd Nathaniel Wells a anwyd ar ynys St Kitts yn fab anghyfreithlon William Wells, yn wreiddiol o Gaerdydd a chaethferch a elwid yn Juggy.

Yn ddiddorol iawn ef a etifeddiaeth yr ystad.

Prynodd Blasty Piercefield, Gas-gwent, a daeth yn Siryf Sir Fynwy ym 1818, y dyn du cyntaf i ddal swydd o'r fath ym Mhrydain.

Plentyn caethferch oedd ei hun yn berchen caethweision.

Anodd dweud a yw pob un o gasgliadau Alan Llwyd amdano yn deg, ond mae'n stori ddiddorol.

Gŵr hynod arall oedd Jac Ystumllyn, bachgen du - o bosib o India'r Gorllewin - a ddaeth yn was ym Mhlas Ystumllyn yn Eifionydd tua 1745 ac y cofnodwyd ei hanes gan Alltud Eifion.

Da gweld Morgan John Rhys yn cael sylw, er hwyrach yr haeddai fwy. Mae John Rowlands o Ddinbych yma - Henry Morton Stanley i ni - a mae stori'r cenhadwr William Hughes yn un drist ryfeddol.

Dadansoddi hiliaeth
Ceir dadansoddiad gwerthfawr o hiliaeth a chaethwasiaeth.

Ni thyfodd caethwasiaeth o hiliaeth ond canlyniad caethwasiaeth yw hiliaeth.

Mewn gwirionedd, rhyfel yw'r arf gwaethaf o safbwynt creu hiliaeth. Fe'i hybir gan lywodraethau yn fwriadol i ysgogi casineb tuag at elyn.

Mae hwn yn llyfr gwerthfawr a phwysig y tâl inni i gyd ei ddarllen.

Ar y maes chwarae ac yn y sgwâr paffio ac ar lwyfan y gân y gwelwn ein cyd-Gymry duon ac ethnig yn amlygu eu hunain ran fynychaf.

Tro ar fyd
Ond fe ddaw tro ar fyd. O dipyn i beth, fe'u gwelsom yn dysgu Cymraeg.

Mewn cynhadledd ar hiliaeth yn ddiweddar honnwyd bod canran uwch o blant du ac ethnig mewn ysgolion Cymraeg eu hiaith yng Nghaerdydd nag yn yr ysgolion cyfrwng Saesneg.

Holais y siaradwr ynglŷn â hyn ac fe'm sicrhawyd fod hyn yn gywir.

Rheswm arall dros sicrhau fod hon yn gyfrol y dylid ei gweld mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

Cysylltiadau Perthnasol
Holi Alan Llwyd

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý