ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Yr Angen am Owain
Darlithoedd Fforwm Hanes Cymru
  • Gwybodaeth am Yr Angen am Owain - Darlithoedd Fforwm Hanes Cymru. Golygyddion: John Davies a Tegid Roberts. Carreg Gwalch. £6.50.

Mae'r meddylfryd y tu ôl i wrthryfel Glyndŵr yn rhywbeth sy'n gyson achosi penbleth heddiw ac yn rhywbeth anodd ei amgyffred.

Er cymaint yr hoffai rhywun feddwl am yr hyn a ddigwyddodd fel brwydr 'genedlaethol' wladgarol ni ellid osgoi'r ystyriaeth hefyd mai ffrwgwd bersonol oedd hon gyda Glyndŵr â'i bennaf ddiddordeb mewn unioni yr hyn a welai fel cam personol.

Clawr y llyfrBeth felly, yw'r ateb i'r cwestiwn; a oedd yna ymwybyddiaeth o genedligrwydd gwleidyddol Cymreig yr holl gannoedd o flynyddoedd yna'n ôl? Ynteu ai 'arwr' a deilwriwyd heddiw i ateb gofynion gwleidyddiaeth genedlaethol yr ugeinfed yw' Glyndŵr y cenedlaetholwr?

Yr union gwestiwn
Dyma'r union gwestiwn y mae Nia Watkin Powell yn mynd i'r afael ag ef yn narlith gyntaf y casgliad hwn - ac mae ei chasgliadau yn gwbl ddiamwys:
"I mi," meddai, "creadigaeth cenedlaetholdeb boblogaidd [ei oes ei hun] oedd Glyndŵr a'i fudiad, rhywbeth newydd a ddatblygodd dan oresgyn methiant 1282, rhywbeth a berthynai'n agosach i wleidyddiaeth wladwriaethol fodern nag i'r Oesoedd Canol."

Dyna glirio'r pwynt yna, felly.

Traddododd Nia Watkin Powell ei darlith yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000 - flwyddyn union wedi i ddyrnaid o bobl ddod at ei gilydd ym Mhabell y Cymdeithasau yn Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr-goch., Môn, a sefydlu corff "i gydlynu a chynnig cymorth ymarferol i'r gwahanol gymdeithasau hanes yng Nghymru."

Fforwm hanes
Dyna gychwyn yr hyn sy'n cael ei adnabod bellach fel Fforwm Hanes Cymru a ddenodd o fewn dim ond ychydig fisoedd 30 o gymdeithasau hanes, ymddiriedolaethau treftadaeth ac ymddiriedaethau archaeoleg i ymaelodi.

Nid yn unig trefnwyd arddangosfeydd a chrëwyd gwefan ond hefyd sefydlwyd darlith flynyddol.

"Eleni, gyda'r pum darlith gyntaf ym meddiant y Fforwm penderfynwyd eu cyhoeddi mewn cyfrol," meddai'r Parchedig Tegid Roberts, cadeirydd y Fforwm.

Yr Angen am Owain yw'r gyfrol honno gyda chyfraniadau gan Y Prifardd Ieuan Wyn, Dr Enid Pierce Roberts, Yr Athro Anthony D Carr, Y Gwir Barchedig Daniel Mullins ac, wrth gwrs Nia Watkin Powell gyda darlith deilwng sy'n gosod gwrthryfel Glyndŵr yn ei gyd-destun trwy ateb ei chwestiwn ei hun: "Beth oedd y prif ysgogiad, felly; yr hyn a glymai bawb ynghyd yn un corff?"

Fel un gŵr
"Yr oeddynt allan fel un gŵr, nid am eu bod yn teimlo teyrngarwch i Glyndŵr fel dyn, nac am fod rhai ohonynt yn teimlo'n anfodlon eu byd o safbwynt materol, ond yn hytrach am eu bod yn rhannu'r un syniad, yr un meddylfryd; dyna'r 'glud' a ddaliai'r cyfan ynghyd, sef mynegiant gwleidyddol o genedligrwydd.

"Ni ellir deall y mudiad, na grym Glyndŵr fel arweinydd, heb gydnabod hynny. Penllanw trawsnewid cenedligrwydd yn genedlaetholdeb oedd mudiad Glyndŵr; a'r mudiad a ddyrchafodd Glyndŵr yn ben arno ym 1400, nid fel arall. Mudiad yn cynrychioli meddylfryd cyfun ymhlith pobl ydoedd, nid creadigaeth unben . . .," meddai.

Mae hi'n ymwrthod â'r duedd i "wadu" fod cenedlaetholdeb yn bod yn yr Oesoedd Canol.

Llythyrau Llywelyn
Amlygir arwyddion o'r un meddylfryd gwladgarol a'r syniad o genedl yn narlith Ieuan Wyn, Abergarthcelyn a Llythyrau 1282 sy'n trafod llythyrau a sgrifennwyd gan Lywelyn ap Gruffudd yn ei lys yn Abergarthcelyn - Abergwyngregyn rhwng Bangor a Llanfairfechan heddiw - at yr Archesgob Pecham.

Mewn dau lythyr a ddyfynnir, lle mae Llywelyn yn arwyddo ei hun yn Arglwydd Eryri a Thywysog Cymru, mae'n cyfeirio "atom ni a'n cenedl" gan ddweud:
"Yn unig dymunasom fyw ar yr hyn oedd eiddo i ni ond daeth y Saeson gan wanu popeth â'u cleddyf heb arbed merched, henoed na'r claf; heb barchu eglwys na thŷ crefydd; yr hyn ni wnaethai'r Cymry erioed."

Atgyfnerthir y syniad o uniad cenedlaethol gyda'r geiriau, "ein pobl".

Ac mewn llythyr gan Gyngor y Tywysog, fel hyn yr ymatebir i gynnig a wnaed o roi tiroedd yn Lloegr i Lywelyn yn dâl iddo am ildio ei hawliau yng Nghymru:

"Bydded hysbys hyn: ni chaniatâ ei Gyngor iddo ildio . . . a hyd yn oed pe bai'r Tywysog yn dymuno trosglwyddo [ei bobl] i feddiant y Brenin, ni fynnant hwy wneud gwrogaeth i'r un dieithryn, a hwythau'n gwbl anghyfarwydd â'i iaith, ei ffordd o fyw a'i ddeddfau."

Galw am ganolfan
Wrth bwysleisio yn ei ddarlith "pwysigrwydd allweddol" Abergwyngregyn i'n dealltwriaeth o'r 13 ganrif yng Nghymru geilw Ieuan Wyn am greu yno ganolfan dreftadaeth.

"Byddai canolfan o'r fath yn dehongli'n gyflawn, trwy gyfrwng y dechnoleg ddiweddaraf, ran nodedig y man arbennig hwn yn hanes Cymru, gan gyflwyno i'r cyhoedd ddarlun byw o Abergarthcelyn y tywysogion," meddai.

Darlithoedd eraill
Yn ei darlith hi, a draddodwyd i gyd-fynd ag ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Meifod mae'r Dr Enid Pierce Roberts yn defnyddio disgrifiad Cynddelw Brydydd Mawr o Feifod fel "Trigfan y Trisant" yn deitl i'w darlith hi.

Traddodwyd y bedwaredd ddarlith i'w chynnwys - Owain Lawgoch: Marchog Ffrainc a Thywysog Cymru - gan yr Athro A D Carr yn fuan wedi Eisteddfod Meifod pan fu dathliadau yn nhref fechan Mortagne-sur-Gironde i ddadorchuddio cofeb i Owain Lawgoch a fu'n un o arweinyddion milwrol Ffrainc yn y Canol Oesoedd ac yn cael ei adnabod fel Yvain de Galles.

Gwybod dim
Ac er bod cwestiwn a roddodd Owain, un o ddisgynyddion tywysogion Gwynedd, ei droed erioed ar ddaear Cymru dywed Anthony Carr amdano:

"Ni wyddom ddim am gyfnod ei ieuenctid; ni wyddom pam yr aeth i Ffrainc, na phryd y sylweddolodd bwysigrwydd ei linach. Ond roedd yn ffigur gwleidyddol pwysig yng Nghymru, ac yr oedd ar yr un pryd yn un o brif gapteiniaid byddin Ffrainc. Paratôdd y ffordd ar gyfer Owain arall ar ddiwedd y ganrif."

"Yr Hen Ffydd yng Ngogledd Sir Fynwy" yw cyfraniad y gwir Barchedig Daniel Mullins lle mae'n olrhain llanw a thrai yr Eglwys Babyddol yn yr ardal honno.
  • Gwybodaeth ar Gwales

Cysylltiadau Perthnasol


cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý