ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Pwll, Pêl a Phulpud
. . . a'r mwyaf o'r rhai hyn
  • Adolygiad Glyn Evans o Pwll, Pêl a Phulpud gan Elwyn Jenkins. Gwasg Gomer. £7.99

    Ar un wedd mae'r syniad o weinidog sy'n chwarae rygbi yn un annisgwyl.
    Ond does dim rheswm pam y dylai fod. Onid offeiriad oedd William Webb Ellis y gŵr a gododd y bêl a rhedeg efo hi yn Ysgol Rugby a rhoi bodolaeth i'r gêm sy'n cael ei hystyried gan lawer yn gêm genedlaethol Cymru.

    Ac fe ddaeth W J Havard a ddaeth yn esgob Llanelwy a Thyddewi yn un o nifer o glerigwyr a chwaraeodd i Lanelli!

    Clawr y llyfr Offeiriad hefyd ddaeth a'r gêm i Gymru gyntaf yn 1850, Y Parchedig Rowland Williams.

    Yn wyneb hyn efallai mai'r syndod yw fod cyn lleied o weinidogion yn chwarae'r gêm ac nad oes dwsinau ohonynt ymhlith rhengoedd ei hanfarwolion - yn enwedig yng Nghymru a'i thraddodiadau crefyddol cyfoethog hefyd.

    Y Parchedig Phillip Bennett, Y Tra Barchedig Robert Bobby Windsor; Y Canon Gareth Price a'r Drindod Gareth Edwards, Barry John a Shane Williams . . .

    Ta waeth am rhyw ddwli fel'na y tair rhan o fywyd Elwyn Jenkins yw'r pwll glo, y cae rygbi a chynteddau'r saint ac yntau wedi bod yn löwr, yn chwaraewr rygbi ac yn weinidog ar wahanol adegau yn ei fywyd.

    Hunangofiannau
    Cofio'r bywyd hwnnw a hel meddyliau amdano y mae yn Pwll, Pêl a Phulpud - y diweddaraf o'r niferus hunangofiannau a gyhoeddir yng Nghymru.

    Fe ddywed y rhai sydd fod i wybod y pethau hyn fod bri mawr ar hunangofiannau ymhlith darllenwyr - er mae'n anodd deall pam weithiau gan mai'n hynod anaml y mae'r hunangofiannau yn datgelu pethau trawiadol ysgytwol am y cofiwr.

    Yn hytrach, dilynir llwybr digon cyfarwydd o fagwraeth dda a phlentyndod diwylliedig, ysgol dipyn bach yn bethma ac wedyn cv yn canu clodydd gyrfaol o wahanol raddau - gan gofio sôn hefyd pa mor dda wnaeth y plant - mewn swyddi cyfryngol yn aml iawn.

    Gellid maddau i ddarllenydd am feddwl, fod gan y gweisg demplad hunangofiant sylfaenol gyda'r awduron yn llenwi'r bylchau gyda'u manylion personol - ond gwell peidio ag ymhelaethu rhag rhoi syniadau yn eu pennau!

    Ta beth, y llwybr cyfarwydd hwnnw a ddilynir gan Elwyn Jenkins yntau gyda'r bennod gyntaf yn dwyn y teitl, 'Dyddiau Bore Oes'.

    Dechrau'r daith
    "Ym Mhen-twyn Sir Gâr y bu dechrau'r daith," meddai gan fynd rhagddo i ddarlunio magwraeth fel yr hynaf o wyth o blant yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

    "Roedd popeth yn brin bryd hynny a dogni ar y bwyd," meddai gan gofio hefyd pa mor "frawychus o agos" oedd y rhyfel wrth i awyrennau'r Almaen ymosod ar Abertawe.

    "Laddwyd cannoedd o bobl a niweidiwyd llawer mwy. Pan oedd Abertawe yn cael ei bomio gwelem yr awyr yn olau oherwydd y tân ac roedd ffenestri ein tŷ ni yn crynu . . .," meddai. Y cof sydd wedi aros gydag ef hyd heddiw.

    Yr oedd cyfnod ei blentyndod yn un pan oedd bri ar grefydd hefyd.

    "Pinaclau y flwyddyn oedd yr uchel wyliau, sef y Cyrddau Mawr ar y Sul a'r Cyrddau Diolchgarwch yn ystod yr wythnos. Byddai'r capel yn llawn a phobl yn cerdded o bell," meddai.

    Hwn yn gyfnod pan allai pregethwyr fod yn llawdrwm ar ddawns a sinema ac yntau'n dwyn i gof y pennill hwn sy'n newydd sbon i mi:

    O cadw fachgennyn o'r sinema ddu,
    Mae rhwyd gan y gelyn
    Dan flodyn a phlu
    Athrofa drygioni yw'r sinema i ni."

    Ond hyd yn oed dan ddylanwad crefyddol o'r fath dyn oedd dyn yr adeg honno hefyd fel mae'r stori fach am ffermwr yn ceisio gwerthu ceffyl i weinidog yn dangos:

    "Mae'n geffyl arbennig, mae'n medru tynnu o'r ochr chwith i'r siafft neu o'r ochr dde, ac mae'n arbennig am gydweithio â cheffylau eraill mewn tîm," meddai'r ffermwr. A'r gweinidog yn ateb:

    "Gyfaill alla i ddim fforddio prynu eich ceffyl ond hoffwn yn fawr petawn yn medru ei gael yn aelod yn fy Eglwys!"

    Yn y pwll
    Bydd yn rhaid ichi ddarllen y llyfr i weld ai dyna brofiad yr awdur pan ddaeth yntau'n weinidog - ond cyn hynny bu wrth ei waith yn y pwll glo:

    "Cofiaf yn dda mai'r cyfan oedd ar fy meddwl wrth fynd ar y sbêc i grombil y ddaear am y tro cyntaf, a cherdded ymlaen tuag at y talcen glo, oedd sut yn y byd y gallwn fynd lan o'r fan honno petai'r top yn dod i lawr? Seriwyd hyn ar fy meddwl, mae'n rhaid, gan i mi gael breuddwydion cas ar ôl dechrau gweithio dan-ddaear," meddai.

    Tua'r un adeg, yn 16 oed, y mentrodd i fyd rygbi gan gyrraedd dau o dimau amlycaf Cymru, Llanelli ac Abertawe yn gefnwr ac yn asgellwr .

    Yn wir, bu yna brawf terfynol dros Gymru ac er na chafodd ei ddewis i chwarae mewn gêm brawf fe gafodd chwarae i Gymru mewn gêm ddathlu yn erbyn y Llewod Prydeinig ar Barc yr Arfau.

    Ond un siom fawr yn ystod ei yrfa rygbi oedd cael ei adael allan o dîm Llanelli a chwaraeodd y Crysau Duon yn 1953.

    "Ond er 'mod i'n chwarae yn gyon i'r tîm cefais fy ngollwng ar gyfer y diwrbnod mawr ac fe aeth nifer o bobl y Tymbl yn wallgof oherwydd yr anghyfiawnder. Y gêm fawr honno oedd yr unig un i mi golli drwy'r tymor," meddai.

    Cariad at y gwaith
    Mae'r awdur yn ateb mewn brawddeg paham mai yn y weinidogaeth y gwnaeth alwedigaeth iddo'i hun.

    "Yr ateb yn syml yw oherwydd bod yna angen gweinidogion a bod gennyf gariad at y gwaith," meddai - gan ychwanegu mai rhywbeth a "dyfodd ynof yn raddol" oedd y sylweddoliad hwn yn hytrach na thröedigaeth drawiadol ar y ffordd i rhyw Ddamascus.

    Ac er cymaint o bleser a roddodd rygbi iddo mae'n cyfaddef: "Er cymaint fy malchder o fod wedi chwaraeba chynrychioli Cymru yn y gamp hon, cymaint mwy y fraint o gael sefyll yn y pulpud a chlywed y gweddill ffyddlon yn canu emynau Seion . . ." meddai.

    O Foriah, Brynaman a Brynllynfell y daeth yr alwad gyntaf wedi coleg ac yno, yng Nghwmllynfell, y dechreuodd yn haf 1964.

    Bu cyfnod yn Aberystwyth hefyd ac wedyn yn Llambed ac yntau'n dyst o newidiadau mawr dros y blynyddoedd:

    "Rwy'n hoff iawn o eiriau John Wesley gynt a ddywedodd wrth frawd o enwad arall, 'Os yw dy galon di yn curo fel fy nghalon i, mewn cariad a pharch at yr Arglwydd Iesu Grist, yna dyro i mi dy law ac fe gerddwn ymlaen gyda'n gilydd i'r dyfodol'.

    "Ond arall yw'r arwyddion yn aml, ac un o sgil effeithiau trist ein sefyllfa grefyddol ni heddiw yw gorfod datgorffori capeli," meddai.

    Ond serch hynny dywed:
    "Wrth edrych yn ôl diolchaf am y farint o gael bod yn y weinidogaeth, a diolchaf am yr ardaloedd hynny lle bu^m yn gwasanaethu."

    Yr adnod i gloi y pwt o adolygiad hwn yw, felly; 'Y tri hyn; Pwll, Pêl a Phulpud - a'r mwyaf o'r rhai hyn yw'r pulpud . . ."


  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý