ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Ychydig Is Na'r Angylion
Ar daith ysgytwol gydag awdur pwerus
  • Adolygiad Huw Alun Foulkes o Ychydig Is Na'r Angylion gan Aled Jones Williams. Gwasg y Brython. £8.


  • Yr ydym yn hen gyfarwydd bellach ag enw'r awdur hwn nid yn unig yn awdur nofelau ond hefyd yn fardd a dramodydd yn ogystal.

    Yn Ychydig Is Na'r Angylion, daw'r holl elfennau ynghyd a chredaf y ceir yma nid yn unig naratif a deialog yn rhedeg yn esmwyth ond nodweddion theatraidd a chyffyrddiadau barddonol.

    Mae prif blot y nofel yn tanlinellu bywyd Dulyn Pari ac ef yw'r prif gymeriad.

    Cawn ein tywys ar hyd ei 'daith' wedi i'w wraig a dau o'i blant gael eu lladd mewn damwain car erchyll.

    Clawr y llyfr Down i gyfarfod nifer o gymeriadau ar y 'ffordd' honno; ei fab anabl, Rhodri, yr artist Elliw Vaughan, Huan Ellis sy'n rhyw lun o therapydd ac Edgar Owen, y ditectif lleol.

    Cyfarfyddwn yn ogystal â nifer o gymeriadau eraill sydd ar gyrion y 'ffordd' megis Sabrina Ong, hen gyfaill i Ddulyn.

    Mae'r nofel wedi ei rhannu'n benodau synhwyrol a phob un gydag is-deitl yn crynhoi i ryw raddau ddigwyddiad penodol o fewn y bennod honno.

    Geiriau ei fam
    Nid taith Dulyn Pari yn unig a geir yma ond hefyd adlais o'i orffennol a geiriau ei fam yn aml yn ymyrryd ar rediad y naratif mewn ffont italig.

    Llwydda'r awdur i gyfleu perthynas Dulyn Pari a'r cymeriadau eraill yn hynod effeithiol ac mae'r iaith lafar yn gwella'r gyfathrebiaeth rhwng yr awdur â'i gynulleidfa.

    Mae gwir hudoliaeth y nofel i'w darganfod yn y ddeialog ac mae'r enghreifftiau o hyn yn ddiddiwedd,
    "'Yma eto, Ditectif!' 'Sbio! Dyna be ydy gwaith ditectif... A gwrando...'"

    Daliadau personol
    Mae'r syniad o grefydd yn bwysig iawn yma a daliadau personol yr awdur efallai yn dod i'r wyneb.

    Mae'r gwrthdaro rhwng Huan ac Isa, mab Sabrina tuag at ddiwedd y nofel yn pwysleisio culni'r Cymry ac yn agor ein llygaid i grefyddau eraill.

    Mae'r ymdriniaeth ar adegau yn bwerus a thanllyd ac er i Aled Jones Williams gyfaddef ei fod yn ceisio cadw crefydd a llenyddiaeth ar wahân, teimlaf fod hynny yn amhosib ac mae crefydd yn cyd-fynd yn aml â'i ddramâu a'i farddoniaeth.

    Fodd bynnag, nid crefydd yw prif thema'r nofel ac mae'r awdur yn llwyddo i fynegi ei lais ei hun ar nifer o bynciau a themâu eraill na all eu trafod o'r pulpud megis hanfod bywyd, gwirionedd, sut i ddod o hyd i'r unigolyn sy'n rhan ohonoch yn ogystal â'r iaith Gymraeg.

    Mae Aled Jones Williams ei hun wedi crybwyll fod iaith yn thema bwysig iddo a thrwy gymeriad Huan Ellis y down wyneb yn wyneb â sefyllfa'r iaith, pwysigrwydd iaith a chyfoeth geiriau, "Gafaelodd yn ei feiro... Ond, roedd o, fe wyddai, tu mewn i absenoldeb. Yn hollol ddi-stori. Fel petai cystrawen pwy ydoedd yn datod. Ym marwolaeth y berfau."

    Taith yr iaith
    Gellir synhwyro fod 'taith' yr iaith Gymraeg i'w darganfod yn y nofel i gyd-fynd â theithiau'r cymeriadau eraill.

    Mae nifer o gyfeiriadau at ddarnau enwog o lenyddiaeth yr iaith Gymraeg megis Peniarth a Llyfr Du Caerfyrddin yn ogystal â'r gyfeiriadaeth gyson at ddarluniau, artistiaid, ffilmiau a'r cyfryngau.

    Credaf fod nifer o'r elfennau hyn yn ymdebygu i nofelau Mihangel Morgan ac mae'r syniad o blethiad nifer o blotiau yn debyg iawn i'r nofel Dan Gadarn Goncrit.

    Wedi dweud hynny, mae arddull unigryw Aled Jones Williams yn gwneud iddo sefyll ar wahân ac mae'r syniad o 'daith' yn elfen gyson yn ei holl weithiau.

    Mae'r un syniad yn Rhaid iti Fyned y Daith Honno dy Hun ac yn ei ddramâu megis Tiwlips a Wal.

    Y syniad hwnnw o daith ei gymeriadau a gellir teimlo'n emosiynol tuag atynt ar brydiau sy'n dyst i'r elfen theatrig honno.

    Llwydda, drwy gyfrwng yr iaith lafar, i sefyll ar ei draed ei hun ym myd llenyddiaeth Gymraeg.

    Dyna sydd mor llwyddiannus am Ychydig Is Na'r Angylion; y pontio cyson rhwng elfennau dramatig, barddonol a storïol.

    Parhau yn niwlog
    Rhaid imi gyfaddef, fodd bynnag, fod rhai rhannau yn parhau'n niwlog ac efallai bod yr iaith lafar yn llywodraethu gormod ar rediad y naratif ar adegau.

    Gallaf ddweud yn ddi-flewyn ar dafod i'r nofel bwerus hon afael ynof mewn mwy nag un ffordd ac mae ynddi ddigon i gyffroi'r dychymyg.

    Efallai bod rhai cymeriadau heb eu datblygu'n ddigonol a bod y gwahanol blotiau'n cymhlethu'r dweud ar adegau, ond 'rwy'n prysuro i bwysleisio fod hyn yn elfen amlwg yng ngwaith Aled Jones Williams a bod digon o le yma i'r darllenydd - neu'r gynulleidfa - feddwl drostynt eu hunain.

    Mae yma brocio'r cof a thrwy gyfrwng arddull unigryw a chreadigol, cawn ein tywys ar 'daith' emosiynol bywyd drwy lygaid nifer o gymeriadau ymylol cymdeithas.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Rhagor am Ychydig Is Na'r Angylion

  • Sgwrs am Ychydig Is Na'r Angylion


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý