ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
St@fell
  • Adolygiad Carys Mair Davies o St@fell gan Meleri Wyn James. Cyfres Whap, Gwasg Gomer. £4.99



  • Mae st@fell yn llyfryn perffaith ar gyfer darllen sydyn. Ni chymerodd ond awr a hanner i mi ei ddarllen.

    Mae'r stori'n troi o amgylch ystafelloedd sgwrsio ar y rhyngrwyd ac yn ymwenud â thair ffrind, Cêt, Heledd a Siwsi.

    Clawr y llyfr Er bod y cymeriadau hyn mor flaenllaw â'i gilydd yn y stori rhoddir mwy o sylw i Heledd - yn enwedig digwyddiad erchyll pan oedd yn blentyn.

    Mae'r tair ohonynt yn cysylltu â'i gilydd fin nos mewn ystafell sgwrsio hollol breifat y gwnaeth tad Heledd, Prif Arolygydd Heddlu Gorllewin Cymru, ei chreu ar eu cyfer.

    Felly, sut ar y ddaear y llwyddodd 'V' i hacio i'r ystafell sgwrsio hollol breifat hon a bygwth Heledd?

    Pan ymunodd 'V' â'r stori credais taw bwriad yr awdur oedd amlygu'r problemau a'r peryglon sy'n gysylltiedig â siarad efo pobl ddieithr ar y rhyngrwyd.

    Ond ni allai dim fod yn bellach oddi wrth y gwir ac mae tro sylweddol yng nghynffon y stori hon a'm gadawodd yn gegrwth.

    Stori seicolegol yw st@fell sy'n cynnwys brwydr fewnol un cymeriad a diffyg maddeuant.

    Er yn stori seml mae iddi blot llesmeiriol ond ni fuaswn yn argymell y llyfryn hwn i blant ifanc oherwydd rhegfeydd sydd ynddo.

    Ar adegau mae'r iaith yn eithaf dryslyd oherwydd y defnydd o iaith decstio megis; "Lle chn nmnd gnod?" ac "Ise £££ i gal netwrk newy. Sdim pawb mor £££ â t".

    Defnyddir gwahanol ddulliau i symud y stori yn ei blaen yn gyflym gan gynnwys ffeil ffeithiau i ddangos sut bobl yw'r tri phrif gymeriad.

    Credaf fod y pris yn ffinio ar yr ochr ddrud oherwydd ar ôl darllen y stori unwaith nid wyf yn rhagweld y byddaf yn ei darllen eto.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý