ÃÛÑ¿´«Ã½


Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Alan Llwyd

Adnabod Awdur:
Alan Llwyd

Bardd, dramodydd, beirniad

Dydd Iau, Ebrill 26, 2001
Enw:
Alan Llwyd

• Beth yw eich gwaith?
Cyhoeddwr, Golygydd a Gweinyddwr gyda Chymdeithas Barddas, y Gymdeithas Gerdd Dafod, ond 'rydw i'n gwneud llawer o waith i'r Cyfryngau hefyd, sgriptio rhaglenni dogfen a sgwennu'n rheolaidd i Pobol y Cwm. Mae dramâu teledu eraill ar y gweill gen i hefyd erbyn hyn.

• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Rheolwr siop lyfrau Cymraeg, cyhoeddwr a golygydd gyda Chyd-bwyllgor Addysg Cymru am ddwy flynedd.

• O ble’r ydych chi’n dod?
O le bach o'r enw Cilan, ym Mhen Llyn, yn ymyl Abersoch, ond symud yno yn bump oed o Lan Ffestiniog, Meirionnydd, a wnes i.

• Lle’r ydych chi’n byw yn awr?
Treforys, Abertawe.

• Pam sgrifennu?
Gorfod.
Sgwennu wedi bod yn fy ngwaed i erioed.

Pa un yw'r gorau gennych - bod yn feirniad ynteu sgrifennu'n greadigol?
Oes yna beryg mewn gwneud y ddau beth?

Mae pob agwedd ar sgwennu yn rhoi boddhad mawr i mi, ond mae sgwennu'n greadigol yn rhoi mwy o wefr a boddhad yn y pen draw; ac eto, ar ôl dweud hynna, mae llunio beirniadaeth lenyddol, yr ymchwil, y meddwl a'r myfyrio, y dadansoddi, yn rhoi boddhad aruthrol i mi.

'Does dim peryg mewn gwneud y ddau beth. Mae'r naill beth yn helpu'r llall ac fel arall. Mae ymarfer beirniadaeth lenyddol ac astudio cerddi mewn dyfnder yn eich gwneud yn well bardd; mae'r ffaith eich bod yn fardd yn golygu eich bod yn deall meddyliau beirdd eraill ac yn gallu deall cerddi, eu harddull, eu mydryddiaeth, eu cyfeiriadaeth, ac yn y blaen.

• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
A fyddwch yn edrych arno'n awr?
'Dydw i ddim yn cofio pa lyfrau a ddarllenwn yn blentyn, hynny ydi, pa lyfrau plant a ddarllenwn. 'Roeddwn i'n darllen mwy o lyfrau oedolion, barddoniaeth Shelley, er enghraifft, tua 10 oed. Hoffi'r swn ond deall dim!
Cofiaf fod casgliad mawr o'r clasuron ar ffurf comics gen i.

• Pwy yw eich hoff awdur?
Amhosib dewis un.
Darllenais holl lyfrau Graham Greene un tro, a chael fy nghyfareddu gan ei ddull o sgwennu ac o adrodd stori.

Mae Thomas Hardy yn un arall o'm hoff nofelwyr, ac mae Un Nos Ola Leuad Caradog Prichard yn ffefryn gen i.

Mae Hamlet Shakespeare yn aruthrol, ac un arall o'm hoff nofelau ydi Wuthering Heights, Emily Brontë. Nofel dywyll, ddaearol.

Gallwn enwi eraill.

Graham Greene am rwyddineb, a Hamlet, Emily a'i gwreiddioldeb; Hardy am ei ddisgleirdeb. A'r hen Crad yn anad neb!

• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Cannoedd, yn llythrennol.

Enwaf un: Yr Haf a Cherddi Eraill, R. Williams Parry, oherwydd i mi ei ddarllen droeon pan oeddwn yn dechrau barddoni fy hun.

• Pwy yw eich hoff fardd?
'Rydw i wedi darllen miloedd o gerddi, yn llythrennol, gan gannoedd o feirdd. Mae gen i tua 100 o hoff feirdd, o ryw 20 o wledydd.

Neithiwr 'roeddwn i'n darllen Thomas Hardy a Gwyn Thomas, dau hoff fardd, echnos Ted Hughes, hoff fardd arall.

• Pa un yw eich hoff gerdd?
Methu dewis un. Hoffi gormod o gerddi.

Mae Mewn Dau Gae Waldo yn un o'm ffefrynnau. Ond enwi er mwyn enwi 'rydw i.

• A pha un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
'
And I am nearly as happy as possible', Edward Thomas, yn y gerdd It Rains.

• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Methu enwi un hoff ffilm.
A gaf fi enwi chwech?
All Quiet on the Western Front,
Citizen Kane,
Dr Zhivago,
Schindler's List
,
Gladiator
,
Far from the Madding Crowd
.
O orfod dewis un: Dr Zhivago.

Hoff raglen deledu: Frasier, ffefryn mawr gyda ni fel teulu.

• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Trugarhewch trwy garu hedd,
Tro gwrol yw trugaredd.
Wiliam Llyn.

• Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sydd eisiau bod yn fardd?
Astudiwch farddoniaeth yn fanwl, meistrolwch eich iaith, perffeithiwch eich mynegiant.

• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Dawn cyfansoddwyr fel Mozart.

• Pa dri gair sy'n ei disgrifio chi orau?
Anymarferol
Perffeithydd
Diwylliedig

• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi’n ei edmygu fwyaf a pham?
Martin Luther King - dewrder, gweledigaeth, chwalwr rhagfarnau a rhagfuriau.

• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Cwymp apartheid yn Ne Affrica.

• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Goronwy Owen, i'w holi am y Morrisiaid, am fywyd yn y ddeunawfed ganrif, am Virginia, am bob mathau o bethau, a hyn i gyd mewn caffi di-alcohol rhag ofn iddo fo feddwi a mynd dros ben llestri!

• Pa un yw eich hoff daith a pham?
'Nôl am adra'! At gysur ac at gynefindra.

• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Cinio dydd Sul traddodiadol, neu unrhyw beth efo 'chips'!

• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Gwylio teledu, dramâu, ffilmiau, comedïau sefyllfa a rhaglenni dogfen da yn bennaf; gwylio pêl-droed, a mwynhau mynd ar wyliau.

• Beth yw eich syniad chi o nefoedd?
Byw am byth heb heneiddio nac unrhyw wendidau corfforol, a chael darllen pob llyfr a gyhoeddwyd erioed, gweld pob darlun a baentiwyd erioed, a chlywed pob darn o fiwsig a gyfansoddwyd erioed.

• Pa un yw eich hoff liw?
Brown.

• Pa liw yw eich byd?

Amryliw.

• Pa un yw eich hoff greadur?

Cath

• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?

Oes, hanes yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr ugeinfed ganrif mewn dwy gyfrol o leia'.

• Gweler adolygiad o gyfrol ddiweddaraf Alan Llwyd, Ffarwelio a Chanrif





Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd






About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy