ÃÛÑ¿´«Ã½


Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Huw Jones

Adnabod Awdur:
Huw Jones


Awdur Cydymaith Byd Amaeth casgliad geiriadurol o eiriau a dywediadau amaethyddol

Dydd Iau, Mai 24, 2001
Enw:
Huw Jones

• Beth yw eich gwaith?
Gweinidog wedi ymddeol

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Gweini ffarmwrs neu weithio fel gwas fferm am chwe blynedd o 14 I 20 oed.

• O ble¹’r ydych chi¹n dod?
O Lanfechell yng Ngogledd Môn.

Lle¹r ydych chi¹n byw yn awr?
Rhuddlan, Sir Ddinbych.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Ar y cyfan, do, yn enwedig cyfnod Bangor. Bu’n ddeng mlynedd o gwrs - dwy yng Ngholeg Clwyd yn gwneud y matriculation; chwech yn gwneud dwy radd ym Mangor, un yn Aberystwyth.

• Beth wnaeth ichi fynd ati i gywain geiriadur?

Cael gwahoddiad gan Wasg Carreg Gwalch yn 1994 I ymgymryd â’r dasg o wneud casgliad o dermau, ymadroddion ac yn y blaen amaethyddol.

Roedd gen i sgwrs neu ddarlith i’r cyfeiriad hwnnw. Ar sail hynny y daeth y gwahoddiad.

• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Nedw, Tegla.

• A fyddwch yn edrych arno’n awr?

Bum yn ei ddarllen, ymhlith degau lawer o lyfrau, at bwrpas y Cydymaith a dyfynnu ohono; e.e. dan y gair breichiau (trol)

• Pwy yw eich hoff awdur?
Islwyn Ffowc Elis

• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Ac Onide gan J. R. Jones - llyfr ysgytwol ei gynnwys a’i weledigaeth.

• Pwy yw eich hoff fardd?
R. Williams Parry ond yn gwirioni’n achlysurol ar Gwenallt, T. Gwynn Jones, Waldo a T. H. Parry-Williams

• Pa un yw eich hoff gerdd?
Eifionydd, R. Williams Parry.

• A pha un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Mae dail y coed yn Ystrad Fflur
Yn murmur yn yr awel.

Ystrad Fflur, T. Gwynn Jones.

• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
A Touch of Frost;
’Twas Alright on the Night


• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?.
A nertho farn wrth a fu,
Ef a erys yfory

- T. Gwynn Jones

Pa gyngor fyddech chi¹n ei roi i rywun sydd eisiau bod yn awdur?
Os medrwch chi, peidiwch.

• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Dawn artist. Dawn i dynnu llun

Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Byr (o gorff)
Aflonydd (o feddwl)
Penderfynol (o ewyllys)

• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Tuedd i adael popeth tan y munud olaf

• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?
Yn y sefyllfa Gymreig, Gwynfor Evans - wedi cenhadu’n ddiflino dros ei wlad a hynny er gwaethaf llawer o siomedigaethau heb suro na chwerwi.

Yn y sefyllfa ehangach, Nelson Mandela - chwarter canrif yng ngharchar, dod allan mewn ysbryd o gymod a datgymalu apartheid.

• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Bod yn yr Old Bailey yn Llundain yn gwrando ar Saunders Lewis yn traddodi ei ddatganiad ac ar DJ Williams heb Saesneg(!) wedi’r Tân yn Llyn

• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Bob Owen Croesor. "Fasach chi’n lecio i mi’ch siafio chi Bob Owen?"

Dyna’n union a wnes ddau Sul cyn ei farw yn 1962. Yno’n pregethu ac yntau’n ei wely’n llegach iawn. Cefais gopi o Cerdd Dafod, John Morris-Jones am wneud.

• Pa un yw eich hoff daith a pham?
I fyny Dyffryn Conwy ar fore Sul ym mis Mai. Mae gogoniant natur yn cynyddu bob cam o Lan Conwy nes cyrraedd uchafbwynt ym Metws y Coed

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Cinio Sul. Biff, pwdin Efrog a’r llysiau arferol, wedyn pwdin reis a darn o deisen yn ei lygaid.

• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen tipyn, cerdded tipyn, garddio tipyn.

Pa un yw eich hoff liw?
Fel gweinidog, porffor.
Fel Cymro, gwyrdd.

• Pa liw yw eich byd?
Amryliw.

• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes, pedwaredd gyfrol (a’r olaf) o’r Cydymaith Byd Amaeth.

• Beth fyddai’r paragraff agoriadol delfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?

Rhy brysur yn cywiro proflenni!

Cydymaith Byd Amaeth







Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd






About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy