

|
 |
Adnabod
Awdur:
Robyn Lewis
Y cyntaf i'w ethol yn archdderwydd Cymru yn rhinwedd y ffaith
mai prif lenor yw
Dydd Iau, Medi 6, 2001
|
Enw:
Dr Robyn Lewis
Beth yw eich gwaith?
Bargyfreithiwr a geiriadurwr
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Cyfreithiwr; dirprwy-Farnwr; cyfieithydd.
0 ble’r ydych chi’n dod?
Mwngrel o dras siroedd Ceredigion, Dinbych, Meirionnydd, Môn a Phenfro
(o, ie, Canada, hefyd).
Lle’r ydych chi¹n byw yn awr?
Nefyn, Llyn, Gwynedd.
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
.Yma ac acw.
Pa lyfrau ydych chi wedi eu sgrifennu?
Ugain o gyfrolau gan gynnwys pedwar geiriadur.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Luned Bengoch gan Elizabeth Watkin-Jones.
A fyddwch yn edrych arno’n awr?
Weithiau, yn anfynych.
Pwy yw eich hoff awdur?
Islwyn Ffowc Elis
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Geiriadur Prifysgol Cymru, I hyd LVI a Geiriadur Briws.
Pwy yw eich hoff fardd?
Dic yr Hendre a Gerallt Lloyd Owen.
Pa un yw eich hoff gerdd?
Hon gan T. H. Parry-Williams
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Ac anadl einioes y genedl yno o Ymadawiad Arthur
gan T. Gwynn Jones
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Dim un benodol ond at ei gilydd rhai o natur hanesyddol.
Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff: Wil Bryan.
Cas: Biggles a Richard Hannay.
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Agosaf: Hyn hefyd a â heibio - Abraham Lincoln.
Pellaf: Nid wy’n gofyn bywyd moethus.
Pa un yw eich hoff air?
Heddwch.
Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Cynganeddu fel Dic
Rygbïo fel Grav
Canu fel Bryn
Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Brwynen, dal, denau.
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Oes, llawer, ond nis dadlennaf ar goedd.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a
pham?
Eamon de Valera, am iddo lunio Cyfansoddiad cyfrwys-gynnil i’w
wlad a hybodd yn anad unpeth arall chwalfa’r Ymherodraeth Brydeinig.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi
bod yn rhan ohono?
Sefydlu Gorsedd y Beirdd gan Iolo Morganwg ar Fryn y Briallu,
Llundain, 1792.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech
chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Y Brenin Arthur.
"Dwed wrth y Saeson, y Ffrancwyr a’r Galiaid mai Cymro wyt ti’n go
iawn ac mai’r Gymraeg yw dy iaith."
Pa un yw eich hoff daith a pham?
Y filltir olaf tuag adref o bob man yr âf.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Bacwn, wyau, selsyg a phwdin gwaed.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
.Bod yn Archdderwydd Cymru.
Pa un yw eich hoff liw?
Amrywiaeth yr enfys.
Pa liw yw eich byd?
Gwyrdd.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf Sefydlu Arlywydd cyntaf Gweriniaeth Sofran Cymru.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes, dau.
Beth fyddai’r paragraff agoriadol delfrydol i nofel neu waith
llenyddol arall?
"Paragraff"? Dim syniad.
Eithr brawddeg: "Wannwl. Pwy ddiawl fasa wedi meddwl?"
|
 |

|