
 |
 |
Adnabod
Awdur:
Harri
Parri
Awdur
Shamus Mulligan a'r Parot
Dydd Iau, Ionawr 17, 2002 |
Enw:
Harri Parri.
Beth yw eich gwaith?
Wedi ymddeol.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Gweinidog.
O ble’r ydych chi¹n dod?
Un o Lyn
Lle¹r ydych chi¹n byw yn awr?
Caernarfon.
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
.Do, yn rhannol.
Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig
amdano.
Cais gan bwyllgor llên Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r
Cyffiniau .
Cyfrol o straeon byrion.
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu? Deg
yn yr un gyfres. Ugain, neu ragor, i gyd.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Llyfrau plant E. Tegla Davies - Nedw, Hunangofiant Tomi, Y
Doctor Bach.
A fyddwch yn edrych arno’n awr?
Na.
Pwy yw eich hoff awdur?
P. G. Wodehouse.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Yn bennaf, y Beibl Cymraeg.
Pwy yw eich hoff fardd?
R. Williams Parry.
Pa un yw eich hoff gerdd?
Swn y Gwynt sy’n Chwythu, J. Kitchener Davies.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Y ddeilen hon, Gwae hi o’i thynged! Hi hen; eleni ganed.
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Dad’s Army.
Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Lord Emsworth (Wodehouse)
Shylock (Merchant of Venice)
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y
gwir?.
Duw, cariad yw.
Pa un yw eich hoff air?
Pam?
Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Canu!
Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Anesmwyth
Ansicr
Ymdrechgar
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich
hunan? Diffyg goddefgarwch.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a
pham?
Tony Benn.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi
bod yn rhan ohono?
Y diwygiad Methodistaidd yn Llyn.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech
chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Pantycelyn -
Ble ces ti’r ddawn?
Pa un yw eich hoff daith a pham?
I Gaerdydd ac ymlaen i poole, Swydd dorset, i weld ein meibion a’u
teuluoedd.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Dim un pryd yn arbennig.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Cerdded gyda’r ci.
Garddio, peth.
Pa un yw eich hoff liw?
Symudliw.
Pa liw yw eich byd?
Golau - gobeithio.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf iaith newydd.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Nac oes.
Beth fyddai’r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith
llenyddol arall?
Byr - a chwbl annisgwyl.
Darllenwch
yn awr am Shamus Mulligan
|
 |

|