ÃÛÑ¿´«Ã½


Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Angharad Price Holi awdur:
Angharad Price

Beirniad llenyddol ac enillydd Medal Lenyddiaeth Tyddewi 2002

Dydd Iau, Awst 29, 2002
• Enw:
Angharad Price

• Beth yw eich gwaith?
Cymrawd ymchwil

• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Dysgu Cymraeg yn Fiena;
Gweithio yn nhhafarn yr Anglesey yng Nghaernarfon

• 0 ble’r ydych chi’n dod?
Bethel, Caernarfon

• Lle’r ydych chi’n byw yn awr?
Caerdydd

• A wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do

• Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig amdano.
Hanes teulu fy mam yng nghwm Maesglasau yw O! Tyn y Gorchudd. Hanes dygymod â dallineb tri brawd, a chofnod o newid cymdeithasol yn yr ugeinfed ganrif.

• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Nofel fer o’r enw Tania’r Tacsi.
Astudiaeth ar waith Robin Llywelyn (Llên y
Llenor
).
Astudiaeth ar ryddiaith Gymraeg y 1990au, Rhwng Gwyn a Du.

• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Awyren Arwyn

• A fyddwch yn edrych arno’n awr?
Dim ond yn fy nghof.

• Pwy yw eich hoff awdur?
Gormod i’w henwi, ond maent yn cynnwys Daniel Owen, Ffiodor Dostoiefsci, Robert Musil, Kate Roberts a Karen Blixen.

• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Eto, gormod i’w henwi ond maent yn cynnwys Seren Wen ar Gefndir Gwyn (Robin
Llywelyn), Happy Moscow (Platonov), Paradwys (W.O. Roberts), Zorba the
Greek
(Kazanstakis), The Burning Plain (Rulfo), straeon byrion Kafka a’r
Beibl Cymraeg.

• Pwy yw eich hoff fardd?
Mae fy hoff feirdd yn cynnwys Heine, T.H. Parry-Williams, Gwyneth Lewis, a phwy bynnag sy’n sgwennu geiriau y Super Furry Animals.

• Pa un yw eich hoff gerdd?
Yn fwyaf diweddar rhai o gerddi R.S. Thomas yn Residues.

• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
A dyma ni’n dod at y mynydd,
Pawb efo’i loes yn ei law.
Twm Morys (Llys Ifor Hael)

• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Hoff ffilmiau: Amores Perros a Taxi Driver
Hoff raglenni teledu: Talcen Caled a Tair Chwaer

• Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriad: Wini Ffinni Hadog
Cas gymeriad: Edward Vaughan, Lleifior

• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?.
Nid gwir, gwireb na dihareb

• Pa un yw eich hoff air?
Awel

• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Y ddawn i weiddi

• Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Croendenau,
Aflonydd,
Creadigol,

• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Llwfrdra

• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?
Yn hanesyddol, diwygwyr cymdeithasol (ar dalcen caled) fel Robert Owen, Y Drenewydd.
Heddiw, am yr un rhesymau, rhai fel Peter Tatchell ac ymgyrchwyr gwrth-globaleiddio

• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Sicrhau’r bleidlais i ferched; ralïau hawliau sifil yn America

• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
William Salesbury a Dic Aberdaron (yr un pryd)

• Pa un yw eich hoff daith a pham?
Ar hyd lôn Clegir - i weld yr agos yn bell a phethau mawrion yn fach

• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Darn o bysgodyn ffres a gwydraid o win sych

• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Cerdded a gweld

• Pa un yw eich hoff liw?
Lliwiau llechi

• Pa liw yw eich byd?
Mae’n dibynnu ar y tywydd

• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf Eiddo

• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes

• Beth fyddai’r paragraff agoriadol delfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?
Mae’n dibynnu ar yr hyn sy’n dod wedyn.
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd






About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy