ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adnabod awdur adnabod awdur
Bet Jones yn sgwrsio
Awdur 'Beti Bwt' yn sgwrsio gyda Dei Tomos
Adref, ar y teledu, yr oedd Bet Jones, awdur Beti Bwt yn gwrando ar feirniadaeth cystadleuaeth Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug 2008.

Ac yn diolch, meddai, fod ganddi ffugenw i guddio tu ôl iddo!

Hwn, meddai oedd y tro cyntaf erioed iddi sgrifennu a chystadlu.

Canmoliaeth
Ac er nad enillodd derbyniodd ei nofel am blentyndod ganmoliaeth nid yn unig gan y beirniaid ond hefyd gan adolygwyr ers ei chyhoeddi ar ôl yr Eisteddfod.

Bu Bet Jones yn siarad am ei y llyfr a'i gefndir gyda Dei Tomos ar ei raglen radio nos Sul, Mehefin 15, 2008.

"Fe'i disgrifiodd fel "hanner hunangofiannol" ac wedi ei leoli ym mro ei phlentyndod, Trefor - neu Hendra - ger Caernarfon.

"Mae yna dipyn dod o'r cof ond fy mod i wedi eu lliwio nhw rywfaint er mwyn cael stori," meddai.

Bwlio
Elfen yn y llyfr a ganmiolwyd yn fawr gan un o'r beirniaid oedd y darlun o fwlio ond dywedodd Bet Jones na chafod hi ei bwlio ond bod yna 'Blydi Dinah Smith' yn ei hysgol hithau.

"Yr oedd yna rywun oedd gen i hofn i ac roedd hi'n hÅ·n a chanddi'r arferiad o wneud y ngwallt i efo llechan ac roeddwn i hofn hi'n ddychrynllyd," meddai.

Gweld corff
Digwyddiad "dychmygol i gyd" yw un arall yn y nofel meddai am fynd i weld corff a dwyn rhosod ar y ffordd.

"Yr oedd yn dal yn arferiad gan hen bobol i fynd i weld cyrff a dwi'n cofio pan oeddwn i'n llai na chwech oed - tua thair - mae gen i frith gof o gymeriad yn Nhrefor oedd yn fy ngwarchod i'r diwrnod hwnnw ac yn mynd a fi i weld corff rhywun oedd yn ei harch mewn ffrog briodas a dwi'n meddwl fod hwnnw wedi cael effaith arnaf i ar y pryd achos roeddwn i'n claddu fy noliau mewn bocsys sgidia wedyn ," meddai.

Newid
Ar gyfer y nofel a gyhoeddwyd dywedodd iddi dymheru ambell i ddigwyddiad oherwydd i'r beirniaid ddweud iddi or-ysgrifennu ambell i beth.

Newidiodd ddiwedd stori'r teledu, meddai, ond mewn gwirionedd malwyd y teledu dan sylw yn deilchion.

Disgrifiodd ei phlentyndod fel un hapus ymhlith pobl gyda balchder a lle'r oedd mynd i ddyled yn destun ofn. Yr oedd hefyd yn gyfnod o falchder mawr mewn addysg i blant ac yn gyfnod cymdogol o ddrysau yn agored.

Pan ofynnwyd iddi a fydd dilyniant i Beti Bwt dywedodd:

Mwy i ddod?
"Mi rydw i wedi gwneud dipyn bach o dwll i mi fy hun fy mod wedi gorffen [y nofel] yn Lerpwl. Mi fuasai raid gwneud dipyn o ymchwil ond mi fuaswn i'n hoffi ysgrifennu eto os gwnaiff yr amser ganiatáu," meddai.

Cysylltiadau Perthnasol
  • Holi Bet Jones

  • Beti Bwt - adolygiad Meg Elis

  • Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    adolygiadau
    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý