ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adnabod awdur adnabod awdur
Hedd ap Emlyn
Difyrrwch nid moeswersi

Rhoi mwynhad a chreu straeon sy'n ddifyr yw dyletswydd gyntaf y rhai hynny sy'n ysgrifennu ar gyfer plant yn ôl Hedd ap Emlyn un o'n cyfieithwyr llyfrau plant mwyaf profiadol.

"Un peth yr ydw i'n teimlo'n gryf amdano ynglÅ·n â llyfrau plant yw fod yn rhaid i blant fwynhau stori ar lefel stori heb gael athrawon yn tynnu'u perfeddion nhw'n racs a dadansoddi a chodi moeswersi ynddyn nhw," meddai wrth siarad am ei waith gyda Gaynor Davies ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru, Ionawr 18, 2007.

Syrffedu plant
"Mae ambell i foeswers neu ddadansoddiad yn iawn - os nad yn bwysig - yma ac acw, ond rwy'n teimlo fod gormod o bwyslais yn cael ei roi gan rai ym myd addysg ar ddadberfeddu llyfrau yn hytrach na gadael i blant eu mwynhau a rhoi'r gorau i gyfrol ar ôl gorffen darllen a symud ymlaen i'r stori nesaf," meddai.

"Os ydyn nhw'n dadansoddi at syrffed mae'r plant yn mynd i gael syrffed ar y llyfr a'r stori," rhybuddiodd.

Mewn partneriaeth
Dywedodd Hedd ap Emlyn, sydd yn gofalu am lyfrgell Wrecsam wrth ei waith bob dydd, mai mewn partneriaeth â'i wraig Non y mae'n gwneud ei holl waith cyfieithu neu drosi ac iddynt drosi bron i 90 o lyfrau o'r Saesneg i'r Gymraeg dros y deng mlynedd diwethaf gan gydweithio'n bennaf â Gwasg y Dref Wen.

Mewn Cymraeg naturiol
Awgrymodd mai'r her wrth drosi yw cyfleu naws y cynnwys Saesneg gwreiddiol ond gwneud hynny mewn Cymraeg naturiol.

"Yr ydym yn gwneud yn siŵr nad ydym yn cyfieithu'n slafaidd ac yn cymryd ychydig bach, bach, o ryddid weithiau.

"Dydym ni ddim yn cadw'n gaeth at bob gair yn y stori - ond [yn sicrhau mai'r] un ydi'r stori yn y diwedd," meddai.

  • Cliciwch uchod i wrando ar y sgwrs gyflawn rhwng Hedd ap Emlyn a Gaynor Davies.

  • Sgyrsiau eraill Gaynor gydag awduron llyfrau plant


  • Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    adolygiadau
    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý