ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adnabod awdur adnabod awdur
Kate Roberts y Modernydd
Glyn Jones yn trafod 'Cyfnod Dinbych' Kate Roberts
Mae dwy ran i yrfa lenyddol Kate Roberts - cyfnod Arfon a chyfnod Dinbych.

Trafodwyd y cyfnod cyntaf hyd syrffed ond prin fu'r sylw i'r ail er bod y Kate Roberts a ddaeth allan o'i meudwyaeth llenyddol yn 1949 yn Kate Roberts dra wahanol i'r un ddeuddeng mlynedd ynghynt.

Cyfnod o arbrofi
Yr oedd bellach yn fodernydd, term a grisielir orau yng ngeiriau Ezra Pound, "Make it New." a yna a wnâi hi o hyn allan gan arbrofi gyda ffurf a chynnwys ei rhyddiaith.

Arbrofodd gyda ffurf ei rhyddiaith.
"Stori hir fer ar ffurf dyddiadur," yw isdeitl Stryd y Glep- peth cwbl newydd yng Nghymru ar y pryd.

Mae Y Byw sy'n Cysgu yn arbrofi trwy gyfuno naratif draddodiadol trydydd person gyda chofnodion dyddiadur yn y person cyntaf.

Llif ymwybod
Arbrofodd hefyd gyda thechneg llif yr ymwybod a ddefnyddiwyd gan y modernydd James Joyce yn Ulysees.

Mae straeon fel Yr Enaid Clwyfus yn ddarnau nodweddiadol o'r dull hwn o sgrifennu yn gwibio rhwng y presennol a'r gorffennol i adlewyrchu tryblith meddwl y prif gymeriad.

Defnyddir y dull yn fwy arbrofol fyth mewn storïau fel Yr Atgyfodiad lle mae'r arddull ffurfiol, farddonol yn gwyro at ffurf yr ysgrif tra bo'r modd y rhennir y gwaith fesul diwrnod yn nes at ffurf y dyddiadur eto.

Eto, llif yr ymwybod sydd yma:
"Y Diwrnod ar ôl hynny
. . . Fy nghôt llofft yn crogi ar fach tu cefn i'r drws, ei breichiau a'i hysgwyddau yn disgyn yn llipa. Fy ffurf i fy hun ynddi. Fy menyg ar y bwrdd ymwisgo a ffurf fy nwylo yn sefyll yn syth yn eu bysedd gwag. Petawn i wedi marw, a welai rhywun fy nghorff yn y gôt a'm dwylo yn y menyg fel y gwelais i?"

Y canoloesol
Nodwedd fodernaidd arall yw'r dull meta ffuglenol sydd i lawer o'i straeon.
Mae'n hoff o droi at lenyddiaeth ganoloesol gyda Bet Jones yn Tywyll heno yn cymharu ei hun â Heledd (Ystafell Cynddylan) - y ddwy yn gwallgofi; Heledd yn crwydro adfeilion llys Cynddylan, a gynrychiola ddadfeiliad ffydd Bet a'r anialwch o wacter y mae ar goll ynddo.

Defnyddia'r un dechneg yn ei straeon byrion gyda Yr Wylan Deg yn enghraifft wych o hynny a'r prif gymeriad, Lisi Ifans, yn dyfynnu cwpled o gywydd Sion Phylip:
Yr wylan deg ar lanw dŵr|
Loywblu gofl, abl o gyflwr.

Fodd bynnag, mae'r prydferthwch a welodd y bardd yn yr wylan yn troi'n obsesiwn cenfigenllyd ar ran Lisi Ifans wrth i Kate Roberts ddefnyddio canoloesoldeb i drafod problemau'r byd modern.

Disgrifiadau swreal
Nodwedd arall a gysylltir â'r mudiad modernaidd yw disgrifiadau swreal ac mae ei gwaith yn frith o hynny.

Dyna Elen, prif gymeriad Cathod Mewn Ocsiwn sy'n gweld wyneb y diweddar Mrs. Hughes yn ffurfio ac ailffurfio mewn mat:

"Ar y llawr wrth ei hymyl yr oedd hen garped llipa wedi ei blygu'n flêr. Edrychodd ar ei blygion, ac o dipyn i beth fe droes y plygion yn ffurfiau wyneb, yn drwyn, ceg, talcen a chlustiau. Troesant yn wyneb corff marw mewn bedd . . . Y munud nesaf daeth dyn i mewn i'r ystafell yn gwisgo esgidiau trymion. Sathrodd y carped a diflannodd y ffurfiau. Yr oedd wedi sathru wyneb y marw yn ei harch."

Disgrifiad nid anhebyg i rai Franz Kafka, un o'r modernwyr enwocaf:

Brwydr teimladau
Ymdrinia Kate Roberts â syniadau modernaidd yn ogystal. Nid cofnodi brwydr dyn yn erbyn tlodi a wna yn ei hail gyfnod ond archwilio'r frwydr rhwng ei deimladau fel ag yn Tegwch y Bore.

Yma, archwilir y modd y rhwygir Ann Owen rhwng ei chariad at ei brawd ymadawedig a'i chariad at Richard gan ddioddef rhyw fath o gymhlethdod Oedipeaidd fel yr adroddwr yn Un Nos Ola Leuad.

Athroniaeth seicolegol Sigmund Freud yw hyn wrth gwrs, athroniaeth sy'n ganolog i lenyddiaeth fodernaidd.

Nodwedd arall fodernaidd yn ei gwaith yw'r modd y cwestiynir sicriaethau'r genhedlaeth gynt. Trafodir dadfeiliad crefydd yn Tywyll Heno a dirywiad yr uned deuluol yn Y Byw Sy'n Cysgu.

Ceir elfennau distopaidd yn ei rhyddiaith. Dyna prif gymeriad Prynu Dol sy'n siarad â chi i gael clywed hen eiriau anghofiedig y Gymraeg. Portread nad yw'n annhebyg i un Islwyn Ffowc Elis o Hen Wraig y Bala.

Yr artist dioddefus
Archwilia hefyd thema yr artist dioddefus - thema fodernaidd arall.

Try Ffebi Beca a Lora Ffennig at ddyddiadura am waredigaeth tra bo Bet ei bryd ar gyfansoddi drama.

Dyna Jones wedyn, prif gymeriad Yr Enaid Clwyfus:

"Roedd arna'i eisio gwneud llun o'r byd gwallgo yna, a fi fy hun fel rhyw sbotyn bach yn i ganol o. Dyma fi'n tynnu llun dyn yn ffustio perthi efo ffon, a'r perthi ar dân, a'r tân yn mynd yn fwy wrth iddo ffustio . . . Wedyn, dyma fi'n tynnu llun babi yng nghroth i fam, hanner y ffordd cyn cael i eni . . ."

Ffy'r cymeriadau hyn i fyd celfyddyd, nid annhebyg i Stephen Dedalus, prif gymeriad A Portrait of the Artist as a Young Man (James Joyce.)

Y mae llawer heb ei ddweud ond mae un peth yn gwbl amlwg. Modernydd yw Kate Roberts yng ngyfnod Dinbych ac, yn fwy na hynny, modernydd sy'n cystadlu'n hawdd â modernwyr mawr y byd.

  • Mae'r adolygiad hwn yn rhan o gynllun cyfrannu i bapurau bro sy'n parhau tan Ionawr 2008 rhwng ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill £30 am ysgrifennu - Cliciwch

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Hanes Kate Roberts

  • Canolfan Cae'r Gors

  • Kate Roberts y ffeminist

  • Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    adolygiadau
    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý