ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adnabod awdur adnabod awdur
Gwen Lasarus
Yn sgwrsio gyda Gaynor Davies



Yn ferch fach y sgrifennodd Gwen Lasarus ei llyfr cyntaf.
"Dwi'n cofio," meddai wrth Gaynor Davies, "sgwennu stori am ryw oen bach - mewn llyfr coch - a dewis y llun i'w roi ar y clawr a sgwennu fy enw yn dwt o dan teitl y stori a gorffen y llyfr.

Clawr un o lyfrau Gwen lasarus "Roeddwn i mor falch o'r llyfr bach yna a dwi'n siŵr mai dyna pryd cychwynnodd y syniad yn y mhen i o efallai un diwrnod sgwennu nofel - a dyna ddigwyddodd," meddai.

Hadau bach
Aeth y llyfr bach hwnnw ar goll bellach - ond fe ddaeth triawd o nofelau ar gyfer pobl ifainc gyda'r olaf ohonyn nhw yn gweld golau dydd cyn y Nadolig 2007.

"Mae'r hadau bach yna yda ni'n gael pan yn fach yn parhau yn ein pennau," meddai.

Nofelau ar gyfer yr arddegau yw rhai 'Hogan Fler' a hynny'n adlewyrchu'r ffaith iddi hi ei hun weld prinder nofelau ar gyfer yr oed hwn pan oedd hi yn ei harddegau ac yn gorfod neidio'n syth o ddarllen straeon i blant i ddarllen llyfrau oedolion.

Oed anodd
Er yn oed anodd sgrifennu ar ei gyfer dywedodd ei fod yn rhoi pleser hefyd.

"Mae gen i ddiddordeb mewn plant o 12 oed i fyny achos maen nhw'n mynd mor gyfrinachol. Mae ganddyn nhw eu bywydau bach eu hunain ac oedolion ddim yn cael dod i mewn i'r bydau hynny - a dyna sydd mor ddiddorol am yr oed.

"Mae'n dipyn o sialens i dreiddio i'w byd," meddai.

Ond er mai fel awdur nofelau 'Hogan Fler' y mae'n adnabyddus dywedodd mai drama fer a sgrifennodd gyntaf.

Datgelodd hefyd iddi ddewis ffurf dyddiadur ar gyfer ei nofelau oherwydd cyfyngiadau amser arni fel mam i blant bychain ar y pryd a dyddiadur yn rhywbeth haws mynd a dod iddo fel y byddai amser yn caniatáu.

Ar y gweill ganddi ar hyn o bryd mae nofel ar gyfer oedolion ond ychwanegodd;
"Ond dydw i ddim yn meddwl cau'r drws ar lyfrau plant."

  • Gwen Lasarus:
  • Hyfforddwyd Gwen Lasarus yn athrawes ond mae wedi bod yn actores ers dros ugain mlynedd. Yn dod o Lanfairpwll, Môn, aeth i Ysgol David Hughes.

    Darllen, nofio, ioga, coginio, beicio a cherdded yw ei diddordebau pennaf.

    Dywed mai ei dylanwadau cynharaf oedd Enid Blyton ac yna Kate Roberts, John Gwilym Jones, Sion Eirian ac yn fwy diweddar Frank McCout, Helen Fielding a M. Scott Peck.

    Hi yw awdur: Sgribls Hogan Fler, Snogs a Sgribls Hogan Fler a Swshi, Snogs a Sgribls Hogan Fler

  • Darlledir rhaglen Gaynor Davies rhwng pump a saith bob bore ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru.

    Cliciwch isod:


  • Tegan Tsieina
  • - stori ddigidol gan Gwen Lasarus.


    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    adolygiadau
    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý