
 |
 |
Annog
plant i weithredu'n herfeiddiol . . .
Awdur blaenllaw yn son am bwysigrwydd llyfrau a darllen
Dydd Iau, Mawrth 08, 2001
|
Gwarth llyfrgelloedd
Gwnaed apêl daer gan awdur llyfrau plant blaenllaw am i’r Llywodraeth
nid yn unig amddiffyn llyfrgelloedd cyhoeddus ond i’w gwella i’r fath
raddau eu bod yn hyrwyddo darllen ymhlith plant..
Yr
oedd Aiden Chambers yn traddodi ei ddarlith yn un o ystafelloedd y
Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd y noson cyn Diwrnod y Llyfr.
Ymhlith y gynulleidfa yr oedd aelodau o’r Cynulliad Cenedlaethol,
cynrychiolwyr Cyngor Llyfrau Cymru a drefnodd y ddarlith, awduron
a darllenwyr.
Llythrennedd yn fwy na darllen
Byrdwn darlith Mr Chambers oedd dyletswydd y gwleidyddion i sicrhau
fod pawb o'r boblogaeth yn gwbl llythrennog. Ac ychwanegodd fod gwir
lythrennedd yn golygu mwy na dim ond y gallu i ddarllen.
Dywedodd fod 60 allan o bob cant o bobl gwledydd Prydain yn lled-anllythrennog,
hyd yn oed heddiw.
Galwodd am wyrdroi sefyllfa o’r fath a chael gwared a hen wireb "fod
y bobl sy’n gallu darllen a sgrifennu bob amser yn llofruddio y rhai
sydd ddim yn gallu."
Hynny yw y duedd o fewn arweinwyr i reoli cymdeithas trwy ymddiried
gwybodaeth iddynt eu hunain a chyfyngu'r hyn sydd ar gael ei rhelyw.
Llyfrau i bawb
Yn ei farn ef y mae i lyfrgelloedd cyhoeddus rhad-ac-am-ddim le canolog
yn y frwydr i hyrwyddo llythrennedd gan fod sicrhau fod llyfrau ar
gael i bawb yn allweddol i unrhyw ymgyrch i gael pobol i ddarllen.
Gresynai nad yw llyfrgelloedd yn cael yr arian i wneud hynny a disgrifiodd
y methiant i sicrhau llyfrgelloedd gwerth chweil yn rhad ac am ddimi
bawb fel "y peth mwyaf gwrth-ddemocrataidd" posib.
"Does yna ddim pwynt annog pobol i ddarllen os nad oes ganddyn nhw
fynediad at lyfrau," meddai.
Ac o fewn y llyfrgelloedd hynny byddai’n rhaid hefyd wrth lyfrgellwyr
plant sydd wedi eu hyfforddi yn benodol i ddiwallu anghenion plant
a darllenwyr ifanc.
Disgrifiodd y llyfrgellwyr hyn fel rhai a fyddai’n gymwys "i alluogi
plant i fynd i leoedd na allant fynd ar eu pen eu hunain" sydd, meddai,
y disgrifiad gorau o athro da, hefyd.
Y mae yr athrawon llengar hyn yn allweddol i unrhyw lwyddiant.
"Y mae llyfrgellwyr yn fwy na phobl sy’n rhannu llyfrau y maen nhw
yn warcheidwaid ein diwylliant ," meddai.
"Y mae angen y bobl hyn sydd yn arbenigwyr ar ddarllen ymhlith plant,"
meddai.
Adnabod eu hunain
Mewn darlith bryfoclyd ac ysgytwol ar adegau tynnodd Aiden Chambers
sylw nid yn unig at bwysigrwydd llyfrau a darllen fel rhan o wareiddiad
ond hefyd at nifer o bethau sydd yn mynd i annog plant a phobl ifainc
ddarllen.
Yn bennaf, meddai, nid yw pobl yn troi’n ddarllenwyr oni bai fod llyfrau
yn sôn am bethau sy’n berthnasol iddyn nhw yn bersonol.
"I ddod yn ddarllenydd rhaid ichi ddarganfod eich hun mewn llyfr .
. . dyna pam y mae angen llyfrau yn y Gymraeg yng Nghymru," meddai.
D. H. Lawrence - yn sôn am gymdeithas lofaol y cafodd ef ei fagu ynddi
- a’i trodd ef, Aiden Chambers, ei hun yn ddarllenydd meddai.
Bodoli yn y Gymraeg
Ynglyn â phwysigrwydd sgrifennu yn y Gymraeg dywedodd y byddai trefn
enegol o feddwl yn darfod o’r tir pe byddai sgrifennu yn y Gymraeg
yn darfod.
"Nes yr ydych i’ch gweld mewn llyfr nid ydych yn bodoli. Nid faint
sy’n darllen sy’n bwysig ond y ffaith fod yn rhaid ichi fod yna a
dydych chi ddim yno nes yr ydych mewn llyfr. Rhaid ichi sgrifennu
eich straeon eich hunain," meddai.
Darllen bob bore
O fewn ysgolion galwodd am sefydlu cynllun a fyddai’n gorfodi athrawon
i ddarllen yn uchel i blant bob bore. Ond nid darllen er mwyn darllen.
"Byddai’n rhaid i’r athro nid yn unig ddarllen ond hefyd gyfiawnhau
ei ddewis achos os na fydd wedi meddwl am hyn bydd y system yn troi’n
ffatri."
Galwodd hefyd am drefn a fyddai’n sicrhau fod pob plentyn yn cadw
cofnod o bob llyfr y mae wedi ei ddarllen. Byddai’r rhestr hon o lyfrau
yn fodd i athrawon newydd ddod i adnabod plant nad ydynt wedi eu cyfarfod
o’r blaen.
"Gallwch adnabod plentyn ar sail yr hyn y mae wedi ei ddarllen," meddai.
Tynnodd sylw hefyd at bwysigrwydd cael darllenwyr i siarad wedyn am
yr hyn y maent wedi ei ddarllen.
Dyfodol y llyfr
Trawodd nodyn gobeithiol ynglyn â dyfodol llyfrau fel cyfrwng - hyd
yn oed yn yr oes dechnolegol hon - ac er y byddai dyfeisiadau electronig
yn cyflawni swyddogaeth rhai llyfrau proffwydodd y byddai llyfrau
eu hunain nid unig yn goroesi ond yn datblygu yn union fel y goroesodd
ac y gweddnewidiodd arlunio yn dilyn dyfodiad y camera.
Disgrifiodd unig bwrpas llyfr fel cyfathrebu.
"Y mae’n gyfathrebu clos a phreifat rhwng dau feddwl sy’n cyflawni
rhywbeth yn y pen na fyddai’r un ohonynt wedi medru ei wneud ar eu
pen eu hunain," meddai.
"Y mae celfyddyd y llyfr y ddyfais gadwriaethol fwyaf a welodd y byd
erioed. Bydd yn ein hachub ac yn ein diogelu," meddai.
Yn gyn athro y mae Aiden Chambers yn awdur llyfrau plant yn y Saesneg
ac y mae wedi disgrifio darllen fel "gweithred herfeiddiol (provocative)
sy’n gwneud i bethau ddigwydd."
|
 |

|