ÃÛÑ¿´«Ã½


Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Llyfr y Flwyddyn Cyfle i chi ddewis
eich llyfr y flwyddyn


Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi rhestr fer Llyfr y Flwyddyn - pa un fyddech chi'n ei ddewis?

Dydd Iau, Mai 3, 2001

Y mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi enwau’r chwe llyfr sydd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2001.

Bydd enwau’r llyfr Cymraeg a’r llyfr Saesneg buddugol yn cael eu cyhoeddi yng Ngwyl y Gelli ar Fai 28.

Yn y cyfamser mae cyfle i ddilynwyr Llais Llên ddweud pwy maen nhw’n ei feddwl ddylai ennill - neu hyd yn oed ddewis llyfr nad yw ar y rhestr fer.

Gallwch ebostio eich awgrym trwy glicio yma

Y cyfan sydd raid ichi ei wneud yw enwi'r llyfr y tybiwch chi a ddylai gael ei anrhydeddu yn llyfr y flwyddyn.

Mae’r wobr gan Gyngor y Celfyddydau yn mynd i’r llyfr a ddewisir gan banel o feirniaid yn llyfr mwyaf nodedig yn y Gymraeg ac yn y Saesneg a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn 2000.

Mae tri llyfr Cymraeg a thri Saesneg ar y rhestr fer gyda gwobr o £3,000 yr un i’r enillwyr ym mhob categori a £1,000 yr un hefyd i’r awduron eraill sydd wedi cyrraedd y rhestr fer. .

Yr awduron Cymraeg yw:

Owain Martell• Owen Martell
Gwasg Gomer. Nofel gyntaf awdur, a fagwyd ym Mhontneddfechan ac sy’n byw bellach yng Nghaerdydd ac yn gweithio yn adran chwaraeon ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru.

Y nofel hon fu’n fuddugol yng Nghystadleuaeth Nofel 2000 Gwasg Gomer.


Mihangel Morgan• Mihangel Morgan , Y Lolfa. Casgliad newydd o storiau byrion gan "awdur gwreiddiol a beiddgar". Yn frodor o Aberdâr, y mae’n byw yn Nhal-y-bont ger Aberystwyth ac yn ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth.


Jerry Hunter• Jerry Hunter Soffestri’r Saeson Gwasg Prifysgol Cymru. Ymdriniaeth ddadlennol â chyfnod tyngedfennol yn hanes Cymru: oes y Tuduriaid.

Magwyd yr awdur yn Ohio; y mae’n byw yng Nghaerdydd.




Yr awduron ar y rhestr fer Saesneg yw:

• Desmond Barry
The Chivalry of Crime Jonathan Cape. Nofel am hanes Jesse James, a’i gymdeithas dreisgar. Magwyd yr awdur ym Merthyr Tudful ond y mae yn awr yn byw yn New Jersey.

• Stephen Knight Mr Schnitzel Viking. Nofel hunan-gofiannol gan un o feirdd Saesneg amlycaf Cymru. Fe’i lleolir yn Awstria ac yn Abertawe, lle magwyd yr awdur.

• Owen Sheers The Blue Book Seren. Y mae Owen Sheers, o’r Fenni, eisoes wedi’i gydnabod yn un o leisiau mwyaf addawol y mileniwm newydd. Dyma ei gasgliad cyntaf.

Dewiswyd y chwe llyfr gan ddau banel o feirniaid: yn Gymraeg, Harri Pritchard Jones, Gwyneth Lewis ac R. Arwel Jones; ac yn Saesneg, Bernice Rubens, Peter Florence a Peter Stead.

Cysylltiadau rhyngwladol

Y mae Cyngor y Celfyddydau yn tynnu cryn sylw at gysylltiadau rhyngwladoly gystadleuaeth hon eleni gan ddweud:

"• Mae Desmond Barry, o Ferthyr, yn ysgrifennu am yr Unol Daleithiau ac yn byw yno;
• Jerry Hunter, o’r Unol Daleithiau, yn ysgrifennu am Gymru, yn Gymraeg;
• Owen Martell yn ysgrifennu am Gymru a’r Unol Daleithiau;
• Mihangel Morgan, yn cwmpasu Efrog Newydd, Paris, Tokyo ac Aberystwyth;
• Stephen Knight yn symud rhwng Cymru ac Awstria; ac Owen Sheers rhwng Cymru a Ffiji."

Ewch ymlaen yn awr i enwi eich dewis chi o lyfr y flwyddyn trwy glicio yma


Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd






About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy