
 |
 |
Llyfrau
digidol a llyfrau yn ôl y galw
Ymchwil newydd i ddyfodol llyfrau Cymraeg
Dydd Iau, Gorffennaf 5, 2001
|
Arbenigwyr
o Loegr
Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi penodi cwmni o Lundain - Rights Com
- i ymchwilio i bosibiliadau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu i
hybu twf a datblygiad y farchnad lyfrau Cymraeg.
Bydd y cwmni’n gweithio ar ddau brosiect, y naill yn ymwneud â marchnata
a’r llall yn edrych ar fanteision posib cyhoeddi digidol yn y Gymraeg.
Ond bydd yn rhaid i'r cwmni wrth help arbenigwr o Gymro i fedru gwneud
ei waith ac ar raglen Wythnos Gwilym Owen ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio
Cymru ddydd Llun holwyd pam y bu'n rhaid mynd at gwmni o'r tu allan
i Gymru yn y lle cyntaf.
Eglurodd Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau, y bydd
y cwmni hwn yn gweithio gyda’r economegydd Dr Roy Thomas, gynt o Ysgol
Fusnes Caerdydd, i archwilio’r ddau faes hwn.
Dim gwybodaeth am Gymru
"Mae gan y cwmni arbenigedd ym myd cyhoeddi rhyngwladol. Maen nhw
hefyd yn arbenigwyr ar dechnoleg newydd. Maen nhw’n dod a dau faes
eithriadol bwysig at ei gilydd," meddai.
"Roedden nhw’n cyfaddef nad oedd ganddyn nhw ddim gwybodaeth arbenigol
o’r sefyllfa yng Nghymru.
"Ond yn Roy Thomas mae gennych chi rywun sy’n economegydd ac sydd
hefyd wedi gwneud cryn dipyn o waith ar agweddau o’r byd cyhoeddi.
Mae’n gyfuniad cryf iawn yn ein barn ni."
Arian gan y Cynulliad
Eglurodd fod arian - arian ychwanegol - tuag at y cynllun wedi dod
oddi wrth Bwyllgor Datblygu Economaidd y Cynulliad.
"Yr hyn ydyn ni eisiau ei gael o hyn yw darn o ymchwil hollol ymarferol
fydd yn rhoi arweiniad clir i’r fasnach ynglyn â phosibiliadau i’r
cyfeiriad yma. A rydan ni’n bwriadu rhannu’r wybodaeth yma efo pawb.
"Mae gweithdai eisoes wedi cael eu cynnal, un yn y de a’r llall yn
y gogledd. ac mae’r cwmni wedi holi cynrychiolwyr y fasnach am y sefyllfa
yng Nghymru a rhwng y cyfnewid gwybodaeth yma a’u profiad nhw ’dan
ni’n gobeithio y bydd ganddyn nhw argymhellion clir a phendant fel
y medrwn ni symud pethau ymlaen.
Argraffu-ar-gais
"O safbwynt cyhoeddi digidol mae’r dechnoleg yn bod a ’does dim pwynt
rhoi ein pennau ni yn y tywod ac anwybyddu popeth sy’n digwydd. Rhaid
inni edrych ar y posibiliadau.
"Ar un ochr fan hyn mae gennych chi yr hyn a elwir yn argraffu-ar-gais.
"Mae hynna’n ddiddorol i ni yng Nghymru e.e. meddyliwch chi am lyfrau
sydd allan o brint - fel rhai o’n clasurol ni. Mae galw amdanyn nhw
ond dim digon o alw i gyfiawnhau ailargraffu 500 copi.
"Ond drwy ddulliau digidol mae modd cadw’r testun yn ddigidol a chynhyrchu
copïau yn ôl y gofyn - un copi os mai un copi sy eisio.
"Mae hynny’n ddiddorol i ni yng Nghymru.
Llyfrau electroneg
"Dyna un pegwn. A’r pegwn eitha arall yw’r llyfr electronig ei hun.
"Hwyrach ein bod ni’n edrych tua’r dyfodol ond eto dydan ni ddim.
Oherwydd mae hwn hefyd yn bod ac mae eisio inni weld be sy gan hwn
i’w gynnig i ni."
Er i’r Dr Roy Thomas ddweud ei bod hi’n bosib fod pethau pwysicach
o safbwynt cyhoeddi Cymraeg ychwanegodd na ellir anwybyddu’r maes
hwn.
"Mae rhyw 25 y cant o’r boblogaeth yn gallu mynd i mewn i’r wê ac
mae hynna’n tyfu o fis i fis," meddai.
'Ni ellir anwybyddu datblygiadau'
"O bosib nid yw’r mwyafrif o ddarllenwyr Cymraeg yn manteisio ar y
dulliau hyn ond fedrwch chi ddim anwybyddu’r datblygiadau.
"Cyn belled ag y mae dulliau cyfrifiadurol yn y cwestiwn mae’n rhaid
dod o hyd i ffyrdd nid yn unig sy’n mynd i arbed costau i gyhoeddwyr
a llyfrwerthwyr ond i’w galluogi nhw i ddod o hyd i ddarllenwyr i
gynyddu’r farchnad.
"Maen bwysig ein bod ni o leiaf yn archwilio’r posibiliadau yma.
"Mae amharodrwydd ymysg pobol nid yn unig i fabwysiadu’r posibiliadau
hyn ond i’w hystyried. Os bydd hynny’n para bydd cyfleon yn cael eu
colli."
|
 |

|