
 |
 |
Cystal
â'r gwreiddiol
Cyfieithiad cyflawn a theilwng o gerddi Dafydd Gwilym gan yr
ysgolhaig Gwyn Thomas
Dydd Iau, Medi 27, 2001
|
Dafydd ap Gwilym His Poems, Cyfieithiad gan Gwyn
Thomas
Adolygiad Catrin Gerallt
Rhyw, affaires, gwyr sy’n ferw o eiddigedd a merched priod
sy’n llygadu eu cyn-gariadon yn bryfoclyd. Na - nid pennod ddiweddara
Eastenders neu Brookside - ond rhai o themâu dramatig
y bardd rhyfeddol hwnnw o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, Dafydd ap Gwilym.
Mae ei gerddi’n fwrlwm o ddisgrifiadau lliwgar, o hiwmor drygionus
ac o brofiadau carwriaethol hynod gythryblus. Mae ehangder ei gynfas
yn drawiadol - o ffars Trafferth Mewn Tafarn lle daw criw o
Saeson (Drisais mewn gwely drewsawr) ar ei ôl wedi iddo faglu ar ei
ffordd i wely merch, i ddwyster a thynerwch y cerddi am Morfudd a
Dyddgu.
Cyfleu'r ffresni a'r emosiwn
Camp Gwyn Thomas yn y cyfieithiad cyflawn hwn - yw ei fod wedi llwyddo
i gyfleu ffresni ac emosiwn y cerddi canoloesol trwy gyfrwng cyfieithiadau
clir sydd hefyd yn gerddi caboledig - tipyn o gamp o ystyried cyfoeth
y farddoniaeth wreiddiol.
Mae cerdd Dafydd ap Gwilym i’r Wylan yn ymgorffori teimladau
unrhyw un sydd wedi dyheu am gariad coll;
"Yr wylan deg ar lanw dioer
Unlliw ag eiry neu wenlloer
Dilwch yw dy degwch di
Darn fel haul, dyrnfol heli"
ac mae’r cyfieithiad er mor driw i’r gwreiddiol yn delynegol;
"Ah gull on the tide, a beauty: surely
Of the hue of snow or the white moon,
Of fairness unblemished,
A patch like the sun, a sea gauntlet"
Cyfieithu'r gynghanedd
Yn ei ragymadrodd, esbonia Gwyn Thomas nad yw wedi cadw’n gaeth at
fedr ac odl y cywyddau gwreiddiol, yn wir, meddai, oherwydd y gwahaniaeth
sylfaenol rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, amhosib mewn gwirionedd, yw
cyfieithu cynghanedd;
"(Cynghanedd) ..... cannot be translated or when it is.....sounds
childish or comical, and succeeds in doing nothing but trivializing
what is often superb poetry"
Eto mae atseiniau o’r gwreiddiol mewn sawl man, fel yn y defnydd o
fedr i gyfleu bwrlwm Trafferth Mewn Tafarn;
"The ostler roused all at the inn-
And now the tale was very grim!
They frowned their way around me
Searching and seeking about me;"
("Codi o’r ostler niferoedd
I gyd a chwedl dybryd oedd.
Gygus oeddynt i’m gogylch
Yn chwilio i’m ceisio i’m cylch")
neu yn nhinc y cytseiniaid yn y gerdd brydferth "Merch ac Aderyn"
"By the relic it would be a pleasant task
To kiss a maid whose word was constant
And, after our good while
To look through the mantle of my glorious girl
At peaks that are lust’s pennies..."
("Crefft digrif oedd, myn y crair,
Cusanu dyn cysonair,
Ac edrych gwedy’n gwiwdraul
Rhôm ein hun, rhwymynnau haul
Drwy fantell fy niellwraig
Drumiau, ceiniogau cynhaig")
Cyfleu'r cyfeiriadau
Yn ogystal ag ymdopi ag arddull y cerddi gwreiddiol, pen tost ychwanegol
i unrhyw gyfieithydd yw cyfleu cyfoeth yr holl gyfeiriadau sydd yng
ngherddi Dafydd ap Gwilym
Mae ei farddoniaeth yn dilyn traddodiad beirdd yr Uchelwyr gyda’u
harfer o ganmol eu noddwyr a’u teuluoedd.
Ond roedd Cymru’r bedwaredd ganrif ar ddeg yn fwy cosmopolitan
na hynny! Mae yma gyfeiriadau mwy egsotig - at draddodiad y troubadwriaid
o Languedoc yn Ne Orllewin Ffrainc a’u caneuon am filwyr dewr yn hiraethu
am ferched y tu hwnt i’w gafael; mae na gyfeiriadau at y bardd Lladin,
Ofydd a’i ddisgrifiadau telynegol o fyd natur - cyfeiriadau sy’n atseinio
yn y cyfieithiad;
"Leaves of green-barked hazels would clothe me
Good times for me-they come with May!
Omniscient God, omnipotent, He
Would ordain with Mary the coming of May"
(Deilgyll gwyrddrisg a’m gwisgai
Da fyd ym yw dyfod Mai
Duw ddoeth gadarn a farnai
A Mair i gynnal y Mai.)
Elfen mwy amrwd
Mae yma elfen mwy amrwd sy’n tarddu o draddodiad y beirdd crwydrol
- sêr roc y byd canoloesol oedd yn byw’n galed, yn slotian ac yn hel
merched a thrafferth ar hyd y ffordd; mae’r Canterbury Tales
yn cyfleu naws y traddodiad hwn - ac fe gawn flas ohono gan Dafydd
ap Gwilym yn Trafferth Mewn Tafarn.
Athrylith Dafydd ap Gwilym yw bod ffresni ei brofiadau ei hun yn treiddio
drwy’r cyfan.
Er ei fod yn dilyn traddodiadau cyfoes, fe allwn gredu
mai Dafydd ei hun sydd wedi cael y drafferth mewn tafarn, fe allwn
gydymdeimlo gyda’i gariad angerddol tuag at Morfudd; mae ei apêl hiraethus
at Yr Wylan, a’i gân o fawl i i fis Mai yn ein cyffwrdd i gyd.
Cerddi gafaelgar
Mae cyfieithiad caboledig Gwyn Thomas yn gampwaith sy’n trosglwyddo
holl gyfoeth Dafydd ap Gwilym trwy gyfrwng cerddi gafaelgar fydd yn
apelio nid yn unig at y di-Gymraeg ond at y llu o Gymry Cymraeg sydd
yn teimlo bod Cymraeg Canoloesol y gwreiddiol yn rhwystr.
Diolch i ddoniau barddol ac ysgolheigaidd y cyfieithydd, mae personoliaeth
afiaethus Dafydd ap Gwilym, ei gariadon, ei elynion a’r holl gymeriadau
lliwgar fu’n caru yn ymladd ac yn chwerthin saith canrif yn ôl, bellach
yn fyw i genhedlaeth newydd.
|
 |

|