ÃÛÑ¿´«Ã½


Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y llyfr
Drych o fywyd Cymry America

Hanes papur newydd hynaf y Cymry yn yr Unol Daleithiau

Dydd Iau, Tachwedd 8, 2001

Welsh Reflections - Y Drych & America 1851-2001 gan Aled a Bill Jones. Gomer. £14.95.
Pedair seren
Adolygiad gan Gwyn Griffiths


Mae Welsh Reflections, hanes y papur newydd, Y Drych sy’n newyddiadur hynaf y Cymry yng Ngogledd America - gan yr haneswyr Aled Jones a Bill Jones, yn dweud stori gyffrous, ddifyr a gwerthfawr.

Ymddangosodd y papur gyntaf ar Ionawr 2, 1851 ac eleni yr oedd yn dathlu 150 mlynedd di-dor.

Ei ddyfodol mewn peryg

Trist clywed wedyn, ac yntau wedi croesawu canrif a mileniwm newydd, bod ei ddyfodol yn ansicr ar hyn o bryd.

Mor ansicr, nes bod amheuaeth a wêl y flwyddyn 2002.

Yr arwyddion o’r Unol Daleithiau yw fod y papur ar werth ac os na cheir prynwr rhwng hyn a diwedd y flwyddyn na welwn rifyn ar ôl mis Rhagfyr.

Buasai hynny’n ddiweddglo trist i gyfnod a chofnod werthfawr yn hanes y Cymry yn yr Unol Daleithiau.

Mae hanes y papur yn adlewyrchiad o’r newid yn natur y Cymry, a phwrpas y papur wrth geisio adlewyrchu a bodloni’r gymuned sylweddol, gwasgaredig ac eang sydd â’i gwreiddiau yn yr "hen wlad".

Popeth yn Gymraeg i ddechrau

Am yn hir bu’n bapur cyfangwbl Gymraeg - wedi’r Ail Ryfel Byd y troes yn gyfangwbl i’r Saesneg.

Am ddegawdau, safai ysgwydd wrth ysgwydd â Baner ac Amserau Cymru Thomas Gee fel y newyddiaduron Cymraeg uchaf eu parch.

Yn y dyddiau cynnar ei bwrpas oedd helpu’r Cymry Cymraeg i ymsefydlu yn y byd newydd.

Bu cynnydd enfawr yn nifer y Cymry aeth i’r Unol Daleithiau yn y blynyddoedd rhwng 1850 ac 1890 - llawer ohonyn nhw wedi arfer darllen Cymraeg, papurau cenedlaethol fel Baner ac Amserau Cymru, papurau enwadol fel Y Goleuad, a phapurau lleol mewn ardal ddiwydiannol fel Tarian Y Gweithiwr yn Aberdâr.

Manteisiodd Y Drych ar y llif hwnnw o Gymreictod.

Hysbysebu am wraig
Nodir yn y gyfrol fod yn agos i 116,000 o siaradwyr Cymraeg yn yr Unol Daleithiau yn 1872.

Mae yn y gyfrol nifer fawr o ddyfyniadau difyr - nodweddiadol Gymreig - o’r papur.

Stori am George T. Matthews, gwr tlawd o Grughywel a ddaeth yn gyfoethog trwy werthu te yn yr America - un ohonyn nhw oedd Te’r Brenin.

Bu’n hysbysebu’n ddi-fwlch yn Y Drych rhwng 1873 a 1932 a dau arwydd o Gymro da, yn ôl Matthews, oedd ei fod "Yn yfed te’r Brenin ac yn darllen Y Drych."

Mewn teyrngedau i’r ymadawedig, medd awduron Welsh Reflections, cafwyd cyfeiriadau cyson bod hwn a hwn yn ddarllenydd cyson o’r Beibl ac o’r Drych!

Nid anarferol ’chwaith yn y dyddiau cynnar fyddai darllen hysbyseb fel:
"Eisiau Gwraig - Dymunaf agor gohebiaeth a merch ieuanc neu gwraig weddw ieuanc; dim gwrthwynebiad fod ganddi un plentyn ieuanc. Rhaid iddi fod o gymeriad da ac yn proffesu crefydd. Y bwriad yw gwneyd dau yn un i gario yn mlaen ffarm yn y Gorllewin, a gwneyd cartref yn gysur. Dim twyll na chwareu."

Yr oedd yn bapur am ddegawdau lawer a adlewyrchai ddiddordebau eang. Cafwyd erthyglau taith - cyfres dan y teitl Dwywaith o Amgylch y Byd gan wr o’r enw William O. Thomas yn 1882.

Math anarferol iawn o newyddiaduraeth mewn papurau Cymraeg yn y cyfnod hwnnw.

Diddorol, hefyd, fel y byddai golygyddion a newyddiadurwyr yng Nghymru yn codi straeon o’r Drych, o ddyddiau Gwilym Hiraethog hyd E. Morgan Humphreys.

µþ²â»å»å²¹¾±â€™r Drych, yntau, yn ei dro, yn codi straeon o bapurau Cymraeg yng Nghymru.

Roedd yn dda iawn am fachu’r agwedd Gymreig o stori - dod o hyd i Gymry mewn trychinebau. Y math o beth mae ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru’n dda iawn am ei wneud y dyddiau hyn.

Rhifynnau ar goll

Yn anffodus o safbwynt yr awduron, ni lwyddwyd i ganfod copi o bob rhifyn a argraffwyd o’r papur.

Mae amryw resymau am hyn - nid oedd papur ar gyfer grwp ethnig yn America o ddiddordeb mawr i lyfrgelloedd America. Nac ychwaith i lyfrgelloedd Prydeinig.

Bu tân yn swyddfa’r papur ar Ragfyr 12, 1924. Heblaw’r golled fawr mewn offer ac adnoddau, collwyd holl ôl-rifynnau’r papur a chollwyd deunydd amhrisiadwy i ymchwilwyr am fywyd y Cymry yn America.

Diflannodd rhifynnau cyfnod y Rhyfel Cartref a fuasai wedi bod yn ddiddorol tu hwnt.

Yn erbyn caethwasiaeth a Phatagonia

Gweriniaethol oedd gwleidyddiaeth y papur a gwrthwynebai gaethwasiaeth yn ffyrnig.

Bu ffrae hir rhwng y papur a Samuel Roberts (SR) oedd am sefydlu gwladfa Gymreig yn Tennessee.

Roedd Y Drych yn gwrthwynebu Gwladfa Patagonia, hefyd, ac un o ystrywiau’r papur i geisio cadw’r Cymry rhag ymfudo yno oedd stori gyfres Y Carcharor ym Mhatagonia a gyhoeddwyd yn y blynyddoedd 1856-57 - ymdrech amlwg i godi braw ar unrhyw Gymry oedd yn ystyried mynd yno i fyw.

Roedd gan berchnogion Y Drych eu cwys eu hunain ac am wladychu rhannau mwy gogleddol o’r Unol Daleithiau a chyhuddid SR - ar gam - o fod yn bleidiol i gaethwasiaeth.

Roedd hefyd yn heddychwr ac yn gwrthwynebu’r Rhyfel Cartref, tra bo’r Drych yn bleidiol i achos y Gogledd.

Bu’r ffrae honno’n berwi am flynyddoedd gan ysgogi cyfrolau o eiriau wrth i SR amddiffyn ei safbwynt ac i’r Drych geisio cyfiawnhau ei safbwynt yntau.

Fel y gellid disgwyl, hwyrach, yr oedd yn y papur lawer o gerddi a straeon cyfres, yn ôl yr awduron mae yma faes i’w gloddio.

Llawer o Jonesiaid

Pwyntiau bach gogleisiol, wedyn, fel y nifer fawr o Jonesiaid fu’n golygu neu’n berchen y papur. Bu nifer dda o ferched hefyd yng nghadair y golygydd.

Yn y cyfnod presennol fe’i gwelir fel papur sy’n rhoi modd i Americaniaid ddal rhyw fath o afael yn eu gwreiddiau a chysylltiad â’r "hen wlad".

Sonnir yn y gyfrol am ddadlau ynglyn â phwysigrwydd yr iaith - dadl oedd yn mynd rhagddi yn y Gymraeg yng ngholofnau’r papur. Rhai yn cymryd yr agwedd iddynt fynd i America i achub eu hunain, nid yr iaith!

A all rhywun ystyried ei hun yn Gymro os nad yw’n siarad yr iaith, holir. Datganiad y cafwyd adlais honno yng Nghymru’n ddiweddar.

Mae’r gyfrol hon gan yr Athro Aled Jones a’r Dr Bill Jones yn ddifyr a phwysig. Stori ramantus ac am frwydro cyson. Mae’r papur nawr yn wynebu brwydr eto.

Bydd yn drist os daw’r papur i ben ym mlwyddyn dathlu ei canrif a hanner, a blwyddyn cyhoeddi’r gyfrol ardderchog hon yn hanes y papur.







Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd






About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy