
 |
 |
Lle
braf
Tro trwy Iwerddon ramantus gyda chriw o Gymry
Dydd Iau, Rhagfyr 20, 2001
|
Profiadau Gwyddelig. Golygydd,
William Owen. Deuddeg tudalen o luniau du a gwyn. Gwasg Carreg Gwalch.
£5.50.
Adolygiad gan Glyn Evans.
Ar gychwyn y gyfrol hon o ysgrifau am Iwerddon y mae’r golygydd, William
Owen, yn aralleirio yr hen ddywediad fod gan bob dyn ddwy wlad; ei
wlad ei hun - a Ffrainc.
Yn ôl William Owen, fodd bynnag, byddai’n gywirach dweud am y Cymro
mai ei ddwy wlad ef yw Cymru, ei wlad ei hun, ac Iwerddon.
Y mae gennym, meddai, "gryn feddwl o’n cefndryd Gwyddelig . . . dirfawr
barch tuag atynt . . . ac eiddigedd."
Mi fyddwn i’n mynd gam ymhellach a dweud nad Iwerddon fel y cyfryw
ydi ail wlad y Cymro ond rhyw syniad rhamantus sydd gennym o Iwerddon.
Mae’r gyfrol Profiadau Gwyddelig yn atgyfnerthu’r gosodiad
hwnnw.
Canmol a delfrydu
Heb eithriad canmol, dyrchafu a delfrydu y mae’r cyfranwyr oll - Orig
Williams, Phil Mostert, Mared Owen, Myrddin ap Dafydd, Angharad Tomos,
Bethan Jones Parry, William Owen, Wil Sam ac Arthur Thomas.
Ac fel sawl un arall ohonom fe gawso nhw brofiadau cofiadwy o hyfryd
ar yr Ynys Werdd gan ddod dan hud darlun sy’n ymylu ar fod yn ystrydebol
yn ei ramanteiddio.
A’r gwir amdani, wrth gwrs, yw fod yr ystrydebol Wyddelig yn
rhan o fyw bob dydd yn Iwerddon ac y mae pethau yn digwydd i ddyn
yn Iwerddon na ellir eu dychmygu yn digwydd unrhyw le arall.
Y mae’r Gwyddel yn hael a chynnes ei groeso, y mae yna
rhyw ogwydd gwahanol i’w resymeg a rhyw siampên yn ei eirio cam.
Pob math o hanesion
Amhosib ymweld â’r ynys heb ddychwelyd gyda hanesyn am ryw ddigwyddiad
gwahanol neu ogleisiol.
Gofyn y ffordd i ddyn ar y stryd yn Galway a hwnnw’n dweud, "Mae’r
car wedi ei barcio fan acw, dowch," a fy ngyrru’n unswydd at garreg
drws lle’r oeddwn eisiau mynd.
Ac yr ydym oll yn gwybod am rywun a aeth i dy tafarn a gofyn "Pa bryd
da chi’n cau?" a chael yr ateb, "Rhywdro tua diwedd mis Medi."
Ac mae hi yn wir i rywun fynd i dafarn, gofyn am ddiod a chael
ei wrthod oherwydd nad yw’r bar ar fynd nes bydd yr awr Gysegredig
drosodd.
"Ydio’n iawn imi ista yma i ddisgwyl ’ta?" ydi cwestiwn nesaf y darpar
gwsmer.
"Ydi’n tad," atebir gan ychwanegu. " A fasa chi’n hoffi diferyn tra
da chi’n disgwyl?"
Gweddi'r ferch
Mae’r Iwerddon braf hon yn brothio drwy ddalennau Profiadau Gwyddelig
gan gynnwys cyfraniad (braidd yn rhy faith) Phil Mostret, Hwyl
a Hiwmor yn Iwerddon.
Fel sawl un o’i flaen dydi o ddim yn swil o son am y weddi fenywaidd
fendigedig honno - a glywodd yn McHugh’s yn Claregalway;
"Holy Mary, mother of God, you who conceived without sinning, help
me to sin without conceiving."
Y mae o hefyd yn un o’r degau a gafodd yr ateb, pan holodd rywun a
oedd o’n briod neu beidio; "I’m thinking about thinking about it."
Mi fydda i wrth fy modd efo straeon o’r fath a doedd o ddim syndod
o gwbl imi gael fy hun yn ymgolli’n llwyr yn y gyfrol fach hon.
Perfformiad arbennig
Wil Sam yn son sut y perfformiwyd A Taste of Honey mewn theatr
yn unswydd ar ei gyfer ef a phum cyfaill. Yn lle arall ond Dulyn,
hola, y digwyddai peth felly - dinas sydd, meddai "yn siarad drama"
dim ond i rywun fod a’i glustiau yn agored.
Hawdd anghofio rhwng dalennau’r gyfrol hon fod yna, yn anffodus, Ddulyn
arall hefyd a dydi honno ddim yn cael ei chrybwyll yn y gyfrol hon.
Dulyn y slyms ac isfyd y cyffuriau a barwniaid herfeiddiol y drygiau
yn ymddangos ar adegau eu bod yn drech na deddf gwlad.
Yn y Ddulyn hon y saethwyd mewn gwaed oer yn ei char, tra’n sefyll
wrth oleuadau traffig, y newyddiadurwraig ifanc a mam i blentyn pumlwydd
oed, Veronica Guerin, oherwydd ei bod yn cyhoeddi gormod o wirioneddau.
A’r saethwr wedyn yn diflannu ar ei fotobeic ymhlith traffig prysur
hwylio a’r gwaith.
Ac y mae hyn hefyd yn rhan o ddirgelwch Iwerddon.
Yn rhan o ddryswch Iwerddon - fod gwlad sydd ar un wedd mor addfwyn,
croesawgar a difalais ei phobl yn gallu esgor hefyd ar fryntni annynol
sydd y tu draw i ddychryn.
Ceir rhywfaint o naws hynny yn nisgrifiad Mared Owen o’i hymweliad
â Belfast. Mae Orig Williams, y gorau o gyfranwyr y gyfrol ddywedwn
i, yn rhyw gyffwrdd â’r peth hefyd.
"A’r bobl glenia dwi wedi’u cyfarfod ydi Gwyddelod Chwe Sir y Gogledd,"
medda fo. "Y rhyfeddod mwyaf i mi ydi nad ydi’r bobol yma yn medru
cyd-fyw gyda’i gilydd."
Ond, yn ffodus iddyn nhw, profiadau braf a gafodd y rhai sy’n rhannu
eu profiadau yn y gyfrol hon a dydw i ddim am edliw hynny iddyn nhw
ac o’i derbyn am yr hyn yw, mae’n gyfrol y mae’n bleser troi ati.
Gwaith y golygydd
Allai ddim peidio â thynnu sylw fodd bynnag at y ffordd od y dewisodd
y golygydd gyflwyno yr ysgrifau - gydag enw pob awdur ar ddiwedd pob
ysgrif yn hytrach nag ar ben ei dalen gyntaf islaw y teitl.
Penderfyniad a’m gwylltiodd i fwy nag unwaith wrth droi’r dalennau
i’r diwedd i ganfod pwy oedd wedi sgrifennu beth oeddwn i’n ei ddarllen
ar y pryd.
Ac er bod nifer o’r awduron yn adnabyddus imi byddai wedi bod yn braf
cael bywgraffiad byr o bob un yng nghefn y gyfrol yn ychwanegol at
y disgrifiad cwta ohonyn nhw yn y rhagair.
Ni allaf beidio â sylwi hefyd i’r golygydd fod yn llai na chydwybodol
wrth ddarllen drwy’r cyfraniadau a dderbyniodd a gadel i nifer o fân
wallau syrthio drwy’r gogor -manion bethau, yn wir, fel pan mae
yn hytrach na pam yw neu pam fo.
Mae’n rhan o waith golygydd i amddiffyn cyfranwyr rhag y brychau mân
pe bai ond i gau cegau adolygwyr piwis.
Oes gennych chi farn am y llyfr hwn?
Ebostiwch ni.
|
 |

|