
 |
 |
Waldo
mewn rhyddiaith
Amrywiaeth yn cynnwys llythyrau at bapurau newydd
Dydd Iau, Ionawr 31, 2002
|
Waldo Williams - Rhyddiaith. Golygydd, Damian Walford Davies.
Gwasg Prifysgol Cymru. £14.99.
Adolygiad gan Gwyn Griffiths.
Mae’r gyfrol Waldo Williams - Rhyddiaith yn glamp o
gasgliad, amrywiol, diddorol a difyr.
Hwyrach na chafodd rhyddiaith Waldo y sylw a haedda. Yn wir, faint
o bobl a wyr am yr holl lythyrau a sgrifennai mor ddiwyd i’r wasg
leol yn Sir Benfro. Llythyrau gwleidyddol, llythyrau’n egluro ei safbwyntiau
ar amrywiol bwyntiau.
Llythyrau sy’n dangos dyn mor ffraeth ydoedd, hefyd.
Cymeriad
Mae rhyw gred fod Waldo yn ddyn difrifol a dwys ac, yn wir, yr oedd
yn wr o argyhoeddiadau dyfnion - ond yr oedd hefyd yn gymeriad â llawer
iawn o hiwmor yn perthyn iddo.
Cymwynas y gyfrol hon yw cyflwyno’r Waldo hwnnw i ni. Mae angen gosod
Waldo yng nghyd-destun ei fro. Fe’i ganed yn Hwlffordd sydd yn rhan
Saesneg ei hiaith Sir Benfro ar aelwyd eangfrydig, ryddfrydig.
Dysgodd Gymraeg pan gafodd ei dad swydd prifathro yn rhan Gymraeg
y sir a’r teulu’n symud i Glunderwen.
Gwytnwch Cymreictod
Mae gwytnwch Cymreictod Sir Benfro yn dipyn o ryfeddod. Ffleminiaid
yn cael eu symud i dir bras y "down-below" - sgwrfa ethnig.
Eto, dros wyth canrif ni fu fawr o symud yn y ffin ieithyddol er bod
y Cymry Cymraeg mewn lleiafrif ac mai gan siaradwyr y Saesneg yr oedd
y grym mewn llywodraeth leol ac yn y blaen. Yr oedd y gwytnwch hwnnw
ym mêr esgyrn Waldo Williams.
Gwytnwch a welir yn y gyfres lythyrau i’r Western Telegraph,
un o ddau bapur wythnosol a gyhoeddid yn Hwlffordd.
A phapur a oedd - wn i ddim am nawr - yn ddigon gwrth-Gymraeg ond
yn rhoi lle i ddadleuon trwm iawn yn fynych.
Ac yr oedd safbwyntiau’r llythyrwyr o waelod Saesneg y sir yn wahanol
iawn i safbwyntiau rhyddfrydig, dyneiddiol, Waldo.
Cyfrannwr mor ddiwyd
Diddorol cofio cyfrannwr mor ddiwyd oedd e i’r papurau lleol yn Sir
Benfro ac yr oedd yr un peth yn wir am D. J. Williams, Abergwaun.
Os rhywbeth roedd D. J. yn fwy diwyd fyth.
Roedd eu llythyrau’n gyson iawn mewn papurau eraill fel y Cardigan
& Tivyside Advertizer, y County Echo yn Abergwaun a’r Narberth
News - o stabl Tenby Observer os ydw i’n cofio’n iawn.
Roedd yna wleidydda o ddifri’n mynd ymlaen yng ngholofnau’r papurau
hyn a gwaith ardderchog ar ran Damian Walford Davies, golygydd y gyfrol
hon, fu crynhoi cynifer o’r rhain at ei gilydd.
Cyfraniadau amserol
Mor amserol yw llawer o’r cyfraniadau. Dyna’r erthygl "Pam y Gwrthodais
dalu Treth yr Incwm (1956)" lle dywedodd Waldo:
"Yr oedd Corea yn mynd ymlaen o ddydd i ddydd am yr un rheswm ag yr
aethai Belsen ymlaen: am fod awdurdod yn gweithredu a phobl yn anghofio."
Mor wir am ein cyfnod ni. Hyfryd cael y portreadau hynny o Idwal Jones
(Llambed), T. E. Nicholas a llawer iawn am D. J. Williams gyda hiwmor
Waldo’n dod allan nawr ac eilwaith.
D.J. a chrefydd
Cyfeiria at D. J. a chrefydd. Er cymaint gweithgarwch D. J. Williams
gyda chapel Pentowr yn Abergwaun ni chafodd ei wneud yn flaenor am
yn hir iawn.
Yn wir, cafodd ei wrthod yn 1929 am nad oedd yn llwyr-ymwrthodwr ond
y’i gwnaed yn flaenor yn 1954 llwyddwyd, rywsut, i osgoi’r cwestiwn
y tro hwnnw. "Ni bu cymaint safiad erioed dros cyn lleied o gynnwys
os edrychwn ar yr hylif yn unig," oedd sylw Waldo.
Mae amrywiaeth enfawr yn y gyfrol - yn llythyron Cymraeg a Saesneg
i bapurau ac unigolion, erthyglau o bob math a straeon, hefyd a chefais
fy atgoffa stori mor arbennig o dda yw Toili Parcmelyn.
Ochr yn ochr â hyn mae rhagymadroddion gwerthfawr a dadlennol Damian
Walford Davies i wahanol rannau’r gyfrol .
Cyfrol werthfawr - a difyr - dros ben, felly.
Oes gennych chi farn am y llyfr hwn neu lyfrau eraill?
Ebostiwch
|
 |

|