
 |
 |
Gwae ar yr aelwyd
Merch fach yn cael ei chamdrin gan ei thad!
Dydd Iau, Mawrth 28, 2002
|
Siabwcho gan Marged Lloyd Jones. Nofel y Mis, Mawrth 2002. Gomer.
£6.95.

Adolygiad gan Glyn Evans
Siwr o fod mai un o’r pethau a’n brawychodd fwyaf yn sgil y ffrwydrad
o achosion ymyrryd yn rhywiol â phlant dros y blynyddoedd diwethaf
oedd, fod cymaint ohonyn nhw.
Fodd bynnag, gyda chymaint o gyhuddiadau a honiadau yn gweld golau
dydd yr oedd rhywun yn cael ei demtio i feddwl mai rhyw ffenomenon
fodern oedd hon.
Rhywbeth yn perthyn i’r dydd heddiw. Rhywbeth a fyddai’n gwbl estron
i’r gymdeithas y magwyd ein tadau a’n teidiau a’n neiniau ynddi.
Darlunio gwarth
Buan y darbwyllwyd rhywun nad yw hynny o anghenraid yn wir ac i’r
gwarth ddigwydd y tu ôl i ddrysau caeëdig hyd yn oed ar adegau a ystyriwyd
yn rhai mwy parchus a diniwed.
Darlunio achos o hynny’n digwydd y mae’r nofel fach hon gan Marged
Lloyd Jones.
Mae’n nofel sy’n garreg filltir lenyddol.
Nid lleiaf oherwydd y pwnc sy’n cael sylw - camdrin yn rhywiol ferch
fach bum-mlwydd oed gan ei thad.
Dydi hynny ddim wedi bod yn bwnc o fewn ein llenyddiaeth cyn hyn.
Mae’n ddiddorol hefyd nad awdur ifanc, beiddgar, a roddodd bin ar
bapur. Y mae Marged Lloyd Jones yn aelod parchus a blaenllaw o’r gymdeithas
h^yn. Yn llywydd anrhydeddus Merched y Wawr.
Awydd diffuant
Rwy’n meddwl y gallwn fod yn weddol sicr nad ymgais i fod yn feiddgar,
i siocio a chynhyrfu dyfroedd yw’r nofel hon ond awydd diffuant i
ddarlunio digwyddiad sydd, yn gwbl gyfiawn, yn ein dychryn a’n hysgwyd.
Y mae rhywun yn edmygu dewrder Marged Lloyd Jones yn mentro cyhoeddi.
Dywedodd i rai o’i ffrindiau wrthod darllen y nofel oherwydd ei thestun.
Mae Siabwcho, fodd bynnag, yn ymwneud â mwy na’r un pwnc brawychus
hwn er mai hynny sydd wedi tynnu sylw at y nofel.
Y cyfnod yw blynyddoedd y Rhyfel Byd Cyntaf ac y mae yma bortread
synhwyrus a synhwyrol o’r cyfnod hwnnw; o gymdeithas y dydd a’r gwewyr
o fyw dan gysgod rhyfel a bechgyn ifainc yn gadael am faes y gad -
rhai ohonyn nhw byth i ddychwelyd.
Yn gyferbyniad i hyn mae rhyfel rheibus arall ar aelwyd Mary Anne
Jane John fechan - Jini John - y ferch fach y mae ei thad ffiaidd
yn ymryrryd yn rhywiol â hi.
Amarch gorffwyll
Dyn yw Dyta sydd nid yn unig yn annynol tuag at ei ferch fach ond
hefyd yn trin ei wraig gyda’r un ffieidd-dra ac amarch gorffwyll.
Mae yna ddisgrifiadau yn y nofel sy’n ysgytwol a sefyllfaoedd sy’n
ein hoeri a chodi ofn wrth feddwl am ferch fach mewn lle mor ddiymgeledd
wrth i ddiogelwch aelwyd droi’n dir rhaib.
Darlunir yn grefftus gymdeithas sydd am gelu drygau y tu ôl i ddrysau
caeëdig ac mae’n arwyddocaol fod y Fam a’r ferch fach yn ystyried
fod camdriniaeth erchyll y tad yn adlewyrchu’n waeth arnynt hwy yn
hytrach nag arno ef.
Yn wyneb hyn, sylweddolwn ninnau sut y cai’r pethau hyn rwyddach hynt
i ddigwydd nag a fyddai’n bosib mewn cymdeithas fwy agored ac os digwyddodd
rhywbeth o unrhyw werth yn y maes hwn yn ein cyfnod ni, creu awyrgylch
sy’n ei gwneud yn haws i bobl rannu eu gofidiau yw hynny.
Nid dyma’r lle, fodd bynnag, i fynd ar ôl ochr arall y geiniog honno
o bosibilrwydd camgyhuddo.
Yn hen wraig
Mae’r nofel yn cychwyn gyda Jini John, yn awr yn hen wraig, yn edrych
yn ôl dros ei bywyd yn egluro sut y bu "mor amheus" o "bob gwryw"
a sut y bu iddi gario "mwy o ofid nag y dylai unrhyw blentyn ei ddioddef."
Er bod hyn yn anogaeth i ddarllen ymlaen i ddarganfod mwy camgymeriad,
yn fy meddwl i, fu cychwyn y nofel yn yr union fan hon gan ei bod
yn rhoi’r sicrwydd hwnnw sy’n mennu ar y nofel y bydd Jini John yn
byw drwy ei rhyfel bersonol.
Byddai ansicrwydd ynglyn â hynny wedi ychwanegu at dyndra’r nofel.
Yna gellid defnyddio yr ychydig dros ddwy ddalen gyntaf yn ôl-nodyn
yn hytrach nag yn gychwyn.
O ran y cymeriadau, bwystfil cwbl ffiadd yn cael ei yrru gan chwant
yw Dyta gan beri i rywun feddwl tybed, o safbwynt creu cymeriad mwy
diddorol, na fyddai wedi bod yn ddiddorol dod â rhyw elfen o
ddyneiddiwch i'w gymeriad rhag iddo ymddangos mor unochrog.
Ond nofel fer iawn yw hon, yn enwedig o ystyried dwyster y pwnc ac
eangder y cefndir ac nid oes yma le fel ag y mae i greu cymeriadau
aml-haenog. Trueni, mewn gwirionedd, i'r awdur fodloni ar drin mor
gryno y deunydd sydd ganddi ond peryg mai dyna ofynion cyhoeddwyr
Cymraeg heddiw.
Beth yw eich barn chi? Ebostiwch
|
 |

|