
 |
 |
Cam
â Chernyw
Trafod Cernyw mewn cyfraith
Dydd Iau, Ebrill 11, 2002
|
The Reason Why - Cornwall’s Status in Constitutional and International
Law gan Bro Kernow 2001, pris £2.00.
Adolygiad gan Gwyn Griffiths.
Yn ôl llyfryn difyr am statws Cernyw mewn Cyfraith Gyfansoddiadol
a Rhyngwladol - The Reason Why - cyhuddir Dug Cernyw o esgeuluso’r
wlad sydd dan ei warchodaeth tra’n manteisio’n ariannol o’i safle.
Mae Dug Cernyw - rhag ofn nad ydych yn cofio - hefyd yn Dywysog Cymru.
Charles o Windsor.
Ymddengys fod ganddo gyfrifoldebau arbennig dros Gernyw - llawer mwy
pell gyrhaeddol, hyd y medra i weld, na thros Gymru.
Cyllid y Dug
Fe’i cyhuddir o fethu yn ei ddyletswyddau fel Gwarchodwr Cernyw.
Mae - neu yr oedd - yn amlwg fod Charles o Windsor yn cymryd ei gyfrifoldeb
o ddifrif. Pan oedd ef a Diana yn ysgaru llwyddodd ef i’w rhwystro
hi rhag cymryd cyfran o’i eiddo yng Nghernyw.
Dadleuodd - yn llwyddiannus - fod cyllid a gaiff o’r Ddugaeth (Ducheth
mewn Cernyweg) yn bodoli i gynnal ac ariannu ei swyddogaethau cyfansoddiadol
yno. "(It) is most emphatically not a mere private estate office"
oedd ei ddadl dros beidio a rhoi cyfran o’r eiddo hwnnw i gyfoethogi
Diana.
Diogelu adnoddau
Ymysg ei ddyletswyddau y mae defnyddio’i adnoddau i ddiogelu adnoddau
mwyn Cernyw. Ond yn lle hynny dywedir na fu ond yn dyst diymadferth
i ddifodiant mwyngloddio yng Nghernyw tra bo gormeswyr trahaus yn
halogi hawliau’r Cernywiaid.
Er ei bod yn rheidrwydd arno i hyrwyddo cyfarfodydd Senedd Cernyw
ac i sicrhau ufudd-dod i Ddeddfau Cernyw nid yw gwneud hynny. "The
present Duke’s neglect of his duties rivals the dereliction of any
half-dozen of his predecessors combined," meddir.
Yn sicr, mae’n ymddangos fod gan yr awduron - y diweddar Paul Leity,
Tim Saunders o Gaerdydd ynglyd ag Alan M. Kent - ddadl gref.
Sofraniaeth
Ni chafodd sofraniaeth Cernyw ei huno (fel yn achos Yr Alban) na’i
dileu (fel yn achos Cymru). Ac er gwaethaf anrhaith y Sacsoniaid Gorllewinol
ni chafodd Cernyw erioed mo’i choncro.
Cyfeirir at Frenin Wessex, Athelstan, (Slobodan Milosovic yr oesoedd
canol), a’i lanhau ethnig "o’r hil ffiaidd" o dref Exeter yn 927.
Gwnaeth yr un peth yn nhrefi eraill gorllewin Dyfnaint dros y deng
mlynedd wedi hynny.
Cytunwyd yn 936 mai afon Tamar, sy’n afon hir ac yn ymestyn bron o
un arfordir i’r llall, fyddai’r ffin rhwng Wessex a Chernyw. Parhaodd
y ffin fwy neu lai’n ddigyfnewid byth oddi ar hynny.
Ond ni atodwyd (annex) Cernyw at Wessex - yn wir, meddir, ni atodwyd
Cernyw at unrhyw wlad ond, yn hytrach, cytunodd Cernyw i ddod yn warchodaeth
dan Wessex.
Amddiffyn hawliau
Golygai hynny ar y naill law na fyddai Cernyw yn gweithredu mewn ffordd
na fyddai’n llesol i Wessex ac, ar y llaw arall, y byddai Wessex yn
amddiffyn hawliau Cernyw, ei chyfreithiau a’i sefydliadau a chywirdeb
ei thiroedd.
Nodir nad yw hyn yn gyfystyr â’r hyn a olygir yn gyffredin gan y gair
protectorate yn y Saesneg. Nodir y gwahaniaeth ystyr rhwng
Gwovro a Gworwlazaeth yn y Gernyweg gyda’r cyntaf yn
disgrifio’r berthynas rhwng Cernyw a Wessex ond yr ail yn cyfateb
i’r ystyr Saesneg cyfoes - sef perthynas rhwng yr amddiffynnwr a’r
diriogaeth y mae’n tra-arglwyddiaethu drosti..
Er i Wessex a theyrnasoedd Eingl-Sacsonaidd eraill uno i greu Lloegr
parhaodd y berthynas rhwng Cernyw â’r grym newydd.
Pan ddaeth Gwilym Goncwerwr
Yn ddifyr iawn, pan ddaeth Gwilym Goncwerwr, Dug Normandi, i Brydain
yn 1066 roedd un rhan o dair o’i fyddin o Lydaw.
Roedd yr Armoriciaid wedi dechwelyd gyda llawer yn ymsefydlu yng Nghernyw
ac ar ffiniau Cymru lle’r oedd pobl yn siarad iaith debyg iddyn nhw.
Penodwyd Robert Mortain yn Iarll Cernyw gan y Concwerwr gyda chyfrifoldeb
dros weithredu dyletswyddau’r "amddiffynnwr".
Roedd Cernyw mor gyfoethog mewn mwynau a physgodfeydd nes sicrhau
i Iarll Richard gael ei ethol yn Frenin yr Almaen. Proses nid annhebyg,
meddir, i ethol Arlywydd America heddiw.
Cymaint cyfoeth Cernyw, bu i Frenin Lloegr lacio pob hawliau a fynnodd
cynt er mwyn parhau - hyd byth - y berthynas arbennig rhwng y ddwy
wlad.
Brenin o dras Gymreig
Digwyddiad diddorol oedd dyrchafu Harri’r VII yn Frenin Lloegr. O
dras Gymreig ac wedi bod yn alltud am bymtheng mlynedd yn Llydaw,
godrodd ei gysylltiadau Brythonaidd am ei fywyd i sicrhau cefnogaeth
o Gymru a Chernyw.
Ceisiodd Harri ddileu sefydliadau Cernyw nes tynnu gwrthryfel am ei
ben. Yn y diwedd penderfynodd mai callach peidio.
Erbyn 1750 roedd Cernyw yn un o’r gwledydd mwyaf diwydiannol ond bod
y cyfoeth - o’r mwynau - yn llifo i’r "amddiffynnwr" ac, fel, gyda
glo yng Nghymru, roedd y deunyddiau crai yn cael eu hysbeilio heb
gael eu defnyddio i greu nwyddau eraill a thrwy hynny greu gwaith
a sefydlogrwydd i’r economi.
Heb ddileu deddfau
Ni ddilewyd yn ffurfiol ddeddfau Cernyw yn ôl yr awduron. Yn hytrach
defnyddiwyd cynseiliau o Gyfraith Lloegr i’w herydu’n araf.
Lluniwyd y llyfryn fel rhan o ymgyrch i geisio sicrhau i Gernyw yr
un statws lywodraethol ag sydd gan Gymry - Cynulliad. Gwaith annibynnol
yw serch hynny.
Heblaw bod yn rhyfeddol o ddifyr, mae’n gyfrol gwerth ei darllen pe
bai ond i ni ddysgu rhywfaint am hanes ein cyd-Frythoniaid.
Gellir cael copi drwy’r post oddi wrth Gwynn ha Du, 4 The Arcade,
Fore Street, Liskeard, Kernow.
Ebostiwch
|
 |

|