
 |
 |
Cymru
yn ei llên,
ei hanes
a'i gwleidyddiaeth
Llyfr a fyddai wedi elwa ar ei ddiweddaru
Dydd Iau, Ebrill 25, 2002
|
Agoriad yr Oes. Erthyglau ar lên, hanes a gwleidyddiaeth Cymru
gan Dafydd Glyn Jones. Y Lolfa. £14.95.
Y mae’r plethiad o hanes, llên a gwleidyddiaeth yn un tyn yn y gyfrol
hon sy’n cadarnhau Dafydd Glyn Jones fel beirniad llenyddol sy'n sylwebydd
a meddyliwr gwleidyddol diddorol hefyd.
Yr ydym yn gyfarwydd a Dafydd Glyn fel dipyn o jociwr a thynnwr coes
- cofiwn Miriman a'i gwsberins yn gaeaf er enghraifft - fel
beirniad llenyddol ac yn fwy diweddar fel prociwr a chorddwr a wthiodd
y Brifysgol yr oedd yn gweithio iddi i o leiaf ystyried sut mae symud
ymlaen i ddarparu addysg brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gwaith darllen
Er cymaint ei gyfraniad yn nhwr eifori Bangor ac fel traddodwr darlithoedd
i wahanol gymdeithasau ac awdur traethodau i wahanol gylchgronau does
ganddo ddim rhestr hir o lyfrau y tu ôl i’w enw.
Ar sail y gyfrol hon gallwn ddweud, trueni am hynny a gallwn dybio
y bydd cryn ddiddordeb yn y casgliad hwn o ysgrifau, darlithoedd a
thraethodau.
Y mae’n gyfrol a gwaith darllen arni. Yn gyfrol sydd i fod i wneud
inni feddwl. Yn gyfrol sy’n berthnasol i’n cyflwr cenedlaethol y dydd
heddiw.
Ond dydi hwn ddim yn llyfr sydd wedi ei sgrifennu i bwrpas. Yn hytrach
yr hyn a gawn yw casgliad o bethau a ysgrifennwyd dros gyfnod yn ymestyn
yn ôl i ddarlith lenyddol Eisteddfod Genedlaethol Bro Madog, 1987.
Y cyfraniad diweddaraf yw darlith a draddodwyd fis Ebrill y flwyddyn
2000.
Dyfalu lle nad oes angen
Weithiau dydi oed cyfraniad ddim o bwys; dro arall y mae - yn enwedig
ar yr achlysuron hynny pan yw canlyniad digwyddiadau - oedd yn destun
dyfalu adeg y sgrifennu - yn wybyddus erbyn heddiw.
Mae hynny’n peri inni ofyn, oni ddylai’r awdur fod wedi golygu’r cyfraniadau
er mwyn cael gwared â’r gwendid hwn?
Gwell fyth, pe byddai wedi defnyddio’r deunydd sydd yn y llyfr yn
sail i gyfrol newydd sbon wedi ei sgrifennu y dydd heddiw gan gymryd
i gownt ddigwyddiadau diweddar.
Byddai hynny’n ei wneud yn amgenach ac yn werthfawrocach llyfr na’r
un sydd yr atgynhyrchiad slafaidd ag yw.
Er enghraifft, pa werth sydd mewn darllen heddiw sylw a wnaed yn 1997,
"Os â Mesur Cymru yn weddol ddianaf drwy ddau dy’r Senedd, fe ddylem
weld cynnal ym Mai 1999, yr etholiad Cynulliadol cyntaf " a ninnau'n
gwybod yn iawn beth a ddigwyddodd.
Aiff ymlaen wedyn i ragdybio'n ddychannol beth fydd natur aelodaeth
y corff etholedig hwnnw.
A'r awgrym pryfoclyd yw, tair plaid - Plaid Chwalu a Dinistrio; Plaid
Edrych yn Bwysig a Pheidio â Gwneud Dim Byd Neilltuol a Phlaid Symud
Ymlaen at Bethau Gwell.
Gwell, a buddiolach, fyddai dadansoddiad yr un mor graff a meddylgar
gan Dafydd Glyn Jones o’r hyn â ddigwyddodd ac
sydd yn digwydd na’r rhagdybio hwn.
Erbyn heddiw gallai hyd yn oed enwi aelodau ei dair plaid!
Yr un modd y drafodaeth o’r priodoldeb i Blaid Cymru ymgyrchu tuag
at annibyniaeth neu beidio yn dyddio o adeg cyn i’r Blaid ddod i benderfyniad
ar y mater. Felly hefyd y trafod a fu o’i mewn ynglyn â mabwysiadu
enw Saesneg.
Yn hytrach na dweud "Mae rhai, yr un modd, am newid enw Plaid Cymru,
ac am gael enw Saesneg arnï" gwell gennyf i fyddai darllen ei
ymateb i’r hyn a ddigwyddodd sef mabwysiadu’r enw swyddogol
The Party of Wales.
Byddai Agoriad yr Oes wedi manteisio yn rhyfeddol ar fod yn
ail-bobiad llwyr a meddu ei rediad naturiol ei hun wrth i Dafydd Glyn
Jones fynd i'r afael a’r "syniad o ynys Brydain yn llenyddiaeth a
meddwl y Cymry" yn ddadansoddiadol resymegol yn hytrach nag ar chwal
fel sy'n digwydd wrth ddod a deunydd a sgrifennwyd ar gymaint o wahanol
adegau at ei gilydd.
Meddylgar a phryfoclyd
A rhoi'r anhawster yna i'r naill ochr yr hyn sydd gennym, fodd bynnag,
yw cyfrol feddylgar, bryfoclyd a gwreiddiol - a diolchwn amdani a'i
harddull hwyliog.
Ar ddiwedd un cyfraniad dywed: "Hen achau a hen wreiddiau a hen goelion
amdanom ein hunain fu’n testun heno. Ond rwy’n gobeithio y cytunwch
â mi nad yw’r pethau hynny yn gwbl amherthnasol i’n rhagolygon fel
gwlad a phobl ar drothwy canrif a milrif newydd."
'Dim rhyddid heb senedd'
Dadl ganolog sy’n codi ei phen dro ar ôl tro yn y trafodaethau yw
"na ddaw gwir ryddid i’r Cymry ond drwy senedd o’u dyfais ac o’u creadigaeth
eu hunain" gan bwysleisio nad yw llywodraeth (sef yr hyn yw’r Cynulliad
a roddwyd inni trwy ewyllys da Lloegr) yr un peth o gwbl a senedd
a grewn o'n pen a'n pastwn ein hunain fel pobl.
Gyda’r diben hwnnw mewn golwg bu ef, ers y nawdegau, yn tynnu sylw
at y cyfle arbennig y mae y flwyddyn 2004 yn ei gynnig fel chwe chanmlwyddiant
galw ei senedd ef gan Owain Glyndwr:
"Bydd y flwyddyn 2004 . . . yn gyfle i rai o aelodau’r Cynulliad -
sef y rhai a ddaw - ymuno gydag eraill, wedi eu hethol yr un mor ddemocrataidd,
i ailagor y Senedd" honno, meddai.
Ac yn Nhaliesin, 1994, dywedodd:
"Dylem ailalw ein senedd nas dilewyd erioed. Dylai’r senedd honno
ddatgan y nod o fod yn gydradd o dan y Goron â senedd yr Alban a Thy
Cyffredin Lloegr."
Hynny, oherwydd yn ei farn ef ym Medi 1995: "Ni ellir torri gafael
Prydeindod yng Nghymru ond gan a thrwy senedd wedi ei sefydlu’n annibynnol.
Y mae rhagor rhwng senedd a llywodraeth . . . Nid am lywodraeth annibynnol
yr ydym yn sôn ar hyn o bryd, ond am senedd . . . wedi ei chreu, ei
sefydlu a’i hagor drwy ddyfeisgarwch y Cymry, nid drwy ordinhad senedd
a llywodraeth San Steffan."
Mae Agoriad yr Oes yn glamp o lyfr sy’n mynd i’r afael nid
yn unig a chyflwr Cymru heddiw ond hefyd ei pherthynas a gweddill
Prydain ers dyddiau ein hen, hen, hanes a sut y mae hynny'n cael ei
adlewyrchu yn ei llenyddiaeth a'n chwedlau.
A chyfraniad gwerthfawr Dafydd Glyn Jones i'r pwnc difyr, diddorol
a phwysig hwn yw y modd y mae’n darllen yr arwyddion a dehongli ein
chwedlau a’n traddodiadau cynharaf yn y cyd-destun hwnnw.
A ddalleno . . .
Glyn Evans
Ebostiwch eich
sylwadau chi am lyfrau
|
 |

|