
 |
 |
Llyfr
Mawr am fyd Natur
Plant Ynyslas yn llunio llyfr arbennig i hyrwyddo Gwarchodfeydd
Natur.
Dydd Iau, Awst 22, 2002
|
Mae Llyfr Mawr, a gafodd ei greu gan blant ysgol lleol, yn cael ei
arddangos yn Ynyslas ar hyn o bryd.
Mae'r llyfr wedi ei greu gan feirdd ac artistiaid mwyaf blaengar Cymru
a phlant ysgol yr ardal.
Mae'n rhan o brosiect newydd arloesol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru
er mwyn hyrwyddo eu Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Plant o Ysgol Craig yr Wylfa yn Y Borth, ger Aberystwyth, a luniodd
y cerddi a'r gwaith celf sydd i'w gweld yn y Llyfr Mawr a hynny dan
oruchwyliaeth fanwl y beirdd Menna Elfyn a Gillian Clarke a'r arlunydd
Jenny Fell.
Mae'r llyfr yn cael ei arddangos yng nghanolfan ymwelwyr Ynyslas yn
ystod misoedd yr haf. Yn yr hydref bydd yn cael ei ddychwelyd i'r
ysgol gynradd leol.
Y Llyfr Mawr yw'r cam cyntaf mewn cynllun i greu celfyddydwaith sy'n
fwy gweledol yn Ynyslas dros y misoedd nesaf:
Cerfio'r cerddi ar gerflun
Bydd rhannau o gerddi a gafodd eu llunio gan y plant yn cael eu cerfio
ar gerflun derw a fydd yn darlunio symudiad parhaol y tywod yn Ynyslas.
Bydd cywaith wedi ei seilio ar chwedl Cantre'r Gwaelod, chwedl leol
i'r ardal, yn cael ei greu yn y ganolfan ymwelwyr. Bydd hwn yn cael
ei gynllunio a'i ddatblygu gyda chymorth grwpiau lleol a fydd yn gweithio
gydag arlunwyr enwog.
Mae'r prosiectau newydd hyn i gyd yn rhan o fenter newydd Cyngor Cefn
Gwlad Cymru mewn Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a elwir yn 'Ymdeimlad
o Gyrraedd'.
Mae'r fenter yn newid mawr o'r dulliau mwy traddodiadol a ddefnyddir
fel arfer i esbonio pwysigrwydd y Gwarchodfeydd i ymwelwyr.
Helpu pobol i ddeall
Meddai ³§¾±Ã¢²Ô Shakespear, Swyddog Dehongli CCGC.
"Y gobaith yw helpu pobl i ddeall eu bod mewn ardaloedd arbennig drwy
edrych ar natur drwy gyfrwng ffurfiau gwahanol o gelfyddyd.
"Mae nifer o'r prosiectau sydd wedi eu cynllunio hefyd yn canolbwyntio
ar gael y gymuned leol i gymryd rhan, ac rydyn ni'n gobeithio cael
cymaint â phosib o bobl leol i gymryd rhan yn y broses.
"Mae gan lawer o'r Gwarchodfeydd gysylltiad diwylliannol cryf â llên
gwerin Cymru a chysylltiadau gyda chymunedau lleol, a dyna pam rydyn
ni wedi penderfynu defnyddio celfyddyd fel ffordd o gysylltu elfennau
diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd y Gwarchodfeydd yma"
ychwanegodd.
Gobeithio annog pobol
Mae'r Cyngor Cefn Gwlad yn gobeithio y bydd cymryd rhan yn y broses
o lunio'r gwaith celfyddydol yn annog pobol i ddod i wybod mwy am
swyddogaeth a Gwarchodfeydd.
Creu-ad sy'n cydlynu'r gwaith ar ran y Cyngor Cefn Gwlad. Grwp o arlunwyr
yw'r rhain sy'n arbenigo mewn gweithio ar brosiectau sy'n gysylltiedig
â chymunedau a'r amgylchedd yng nghefn gwlad Cymru,
Bydd y fenter yn digwydd mewn pump o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol
trwy Gymru sef:
Coedydd Aber ger Llanfairfechan, Tywyn Niwbwrch yn Ynys Môn, Oxwich
ym Mhenrhyn Gwyr, Cors Caron yng Ngheredigion ac Ynyslas.
Dyma rai o'r cerddi sydd i'w gweld yn y Llyfr Mawr:
Cân Y Moresg
Canu a wna'r gragen, cân am y cranc
Canu wna'r adar yn yr awyr,
canu wna'r tonnau yn yr hwyr,
ond sibrwd a wna siani flewog yn y glaswellt.
³§¾±Ã¢²Ô
Canu'r môr ar y traeth
canu'r cerrig yn y môr
canu'r gwymon yn y dwr -
caneuon, alawon sy'n llawn stwr
Thomas
Canu'r cranc, canu'r cregyn
canu'r clogwyn yn y moresg
cân creadur, cân y cerrig
cân holl glychau Cantre'r Gwaelod
cân gwylanod yn y môr
cân tlws y moresg pigog
John
Tonnau'n taro ar y glust
swn mawr swnllyd ar y traeth
canu'r neidr llithrig iawn,
clywed seiniau yn y prynhawn.
Rhiannon
Cân y cregyn, cân y cranc
canu'r cocos yn y moresg
canu'r tywod, canu'r traeth
twyni'n cwympo o dan foresg.
Shaun
Acenion y cregyn fel y môr
canu mawr ar hyd y tywod
mae gan bob creadur, dafod.
Dylan
Canu'n hapus a hopian o gwmpas
canu gyda babis, canu yn yr haul
canu cân y gragen
cân sy'n dweud 'amen'.
Caroline
Canu'r gragen. Canu'r cranc,
canu'r cregyn ar y banc
cân y Tegeirian Bera
cân y berta, berta...
canu pili pala yn yr haul
cân yr awel bob yn ail.
Samantha
Cân yr wylan ymhell ar y môr
canu'r neidr yn y moresg
canu'r blodau, canu'r traeth
cân y môr a'i hiraeth.
Shanice
Y falwen gylchog
fel rhes ar ôl rhes o sêr y llwybr llaethog,
yn chwyldroi'r fythol ar ei thaith;
cragen hardd o liwiau'r enfys
yn llithro'n araf ar y traeth.
Hannah
Cân y cranc
Cân y cregyn
Cân y môr yn y moresg
Cân yr haul
fach droellog
cân yr halen
cân y gloch
Och, yng Nghantre'r Gwaelod
Sarah
Y falwen gylchog mewn cragen
yn edrych fel gwydr pigog clir
Os daw storm, does dim ots.
Cloi ei drws a wnaeth hi
a llithro ymlaen pan stopia'r storm.
Gan blant Ysgol Craig-yr-Wylfa, Borth.
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
 |

|