ÃÛÑ¿´«Ã½


Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y llyfr
Cynfas Cymreig

Golwg ar luniau Mary Lloyd Jones

Dydd Iau, Awst 29, 2002

Delweddau o’r Ymylon gan Ceridwen Lloyd-Morgan a lluniau gan Mary Lloyd Jones. Y Lolfa. £24.95
Pedair seren
Adolygiad gan Lois Eckley

Mae’n siwr gen i fod pob artist neu sgwennwr yn palfalu ym mhob cornel o’u hunain cyn dod o hyd i’r hyn maen nhw am ei ddweud a’i gyfleu.

"Dyluniwch yr hyn rydych chi’n ei adnabod ac yn ei ddeall - yr hyn sydd yn agos ato chi"yw’r cyfarwyddyd.

Er cymaint mae hynny’n gwneud synnwyr, dyw’r dod o hyd a chyfleu yr hyn rydych chi’n fwyaf cyfarwydd ag ef ddim bob amser yn rhwydd, hyd yn oed os yw e o dan ein trwynau.

Brwydro'n galed

Mary Lloyd JonesA 46 o arddangosfeydd yn ddiweddarach mae Mary Lloyd Jones wedi brwydro’n galed yn ei Cheredigion i ddod o hyd i’w hiaith weledol er i ddarnau ohono weiddi arni mewn cylchoedd coch o’r matiau rhacs yn Rhos-y-gell ble cafodd ei gwersi piano.

Dilyn bywyd a gwaith yr artist arbennig yma mae'r gyfrol Delweddau o’r Ymylon gan Ceridwen Lloyd-Morgan sy'n rhoi sylw i waith gwraig sydd wedi cyfoethogi bywyd y celfyddydau gweledol yn ei hardal ar ei ganfed.

Yn ferch, yn Gymraes ac yn arlunydd doedd bywyd ddim yn rhwydd.

Cefnogaeth deuluol

Cafodd gefnogaeth hollbwysig ei theulu - wrth i’w thad wthio am gystadlaethau celf yn eisteddfod y capel ac wrth i’w mam roi golau dydd i’w lluniau pan ddeuai ymwelwyr i’r ty.

Wrth newid o un cyfrwng i’r llall; o bortreadau a gwaith gwnio a batic fe ddaeth yr arlunydd o hyd i’w gwreiddiau yn yr Ogam ac yng nghoelbren y beirdd gan beri i'r daith i’r heddiw fod yn llawn o liwiau a phrofiadau fel dechrau ysgolion haf i feithrin celfyddyd yng Ngheredigion a magu teulu a gweithio yn llawn amser.

Trwy ddilyn ei hanes hi yr ydym yn dilyn hanes datblygiad celfyddyd weledol yng Nghymru hefyd gan fod ei gyrfa hi yn rhan annatod o'n bywyd Celfyddydol.

Mynnu paentio

Gan ddechrau canolbwyntio yng Ngholeg Celf Caerdydd ymhlith artistiaid eraill fel Ernie Zobole a Dai Mainwaring, amlygodd natur benderfynol y wraig ben ddu ei hun wrth iddi fynnu astudio paentio fel ei phrif bwnc er mai brodwaith a wthiwyd arni.

Erbyn heddiw mae hi’n gosod pwyslais mawr ar gyfathrebu gyda ni ac mae’r iaith yn ei gwaith yn enghraifft o hynny.

StiwdioIaith y lleiafrif, sydd yn berthnasol i bob person sy’n rhan o unrhyw leiafrif ar draws y byd, nid ni’r Cymru yn unig.

Mae hi hefyd yn ymfalchïo ei bod hi bellach wedi darganfod ei llais a chynfas i’w leisio.

Ynghanol hyn i gyd bu cyhoeddi’r llyfr yn frwydr sydd wedi ymestyn dros ddwy flynedd.

Ond diolch i dros 200 o danysgrifwyr fe sicrhawyd clawr caled i’r cyhoeddiad.

Mae yna alw - a digonedd o le ar y silff lyfrau - i’r math yma o lyfr, a da fyddai gweld mwy.

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd






About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy