ÃÛÑ¿´«Ã½

Gŵyl Cadi Ha

Gŵyl Cadi Ha' Sir y Fflint

Dawns draddodiadol i sgubo ymaith ysbrydion drwg y gaeaf a chroesawu'r haf yw'r Cadi Ha'. Caiff ei pherfformio fel arfer ar Galan Mai ac mae'n parhau'n gryf yn Sir y Fflint.

Bob Calan Mai mae dawnswyr yn llenwi strydoedd Treffynnon i ddathlu'r hen ŵyl sy'n croesawu'r haf ac yn ffarwelio a'r gaeaf.

Gŵyl ddawns â'i gwreiddiau yn nwfn yn Sir y Fflint yw'r Cadi Ha ac mae dros ddwy ganrif o gofnodion o ddynion o gymunedau glofäol gorllewin y sir, yn arbennig y Fflint, Bagillt, Treffynnon, Mostyn a Llanasa, yn gorymdeithio a dawnsio ar ddydd cyntaf Mai.

Chris Bailey, cadeirydd yr ŵyl sydd â hanes y dathliadau yn Nhreffynnon heddiw:

"Ar y bore Sadwrn mae cannoedd o blant ysgol yn cymryd rhan mewn dawnsfeydd gwerin Gymreig efo criw mawr o oedolion.

"Daw ymwelwyr a cherddorion i'r dref o bob rhan o Gymru - diolch i Ddawnswyr Delyn, y tîm lleol o ddawnswyr gwerin Gymreig.

"Rydym hefyd yn cael tîm o du allan i Gymru ac yn y gorffennol wedi croesawu timoedd o Fflandrys, Ynys Manaw, Cernyw a Llydaw.

"Gorymdaith y Cadi Ha yw'r prif ddigwyddiad. Mae pawb yn duo eu hwynebau efo llwch glo er mwyn cuddio o'r diafol.

"Mae cofnod o'r ddawns a chân yn mynd yn ôl i 1815 yn ardal Treffynnon. Roedd y Cadi yn hel pres gyda ladal (ladle)."

Roedd wyth yn dawnsio yn y Cadi Ha gyda dau gymeriad ychwanegol. Y naill oedd Bili'r ffŵl, wed'i wisgo mewn du, a'r llall oedd Cadi, dyn wedi'i wisgo fel merch - yn dynodi perffeithrwydd. Ei swyddogaeth oedd sgubo ymaith ysbrydion drwg y gaeaf i baratoi am y gwanwyn, a gynrychiolid gan ddawnsiwr yn cludo cangen. Weithiau âi'r efo nhw.

Weithiau aent cyn belled â Dyffrynoedd Clwyd a Chonwy gyda'u wynebau wedi'u duo.

Mae sawl fersiwn o'r geiriau oedd yn cael eu canu, meddai Chris Bailey, yn dibynnu ar y pentref ond dyma rai:

Hwp Ha Wen, Cadi Ha,
Morys stowt am yr uchla neidio,
Hwp dene fo,
Fy ladal i, a'i ladal o, a'r ladal ges i fenthyg,
Cynffon buwch a chynffon llo,
A chynffon Rhisiart Parri'r go,
Hwp dene fo!

A fi di gwr y rhuban coch,
Neidiaf dros y gafna,
Hwp dene fo!
A Chynffon buwch a chynffon llo,
A chynffon Rhisiart Parri'r go,
Hwp dene fo!"


Llyfrnodi gyda:

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

ÃÛÑ¿´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ÃÛÑ¿´«Ã½

ÃÛÑ¿´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.