Am wythnos yn ystod mis Gorffennaf, bydd Llangollen yn fwrlwm o bobl o bedwar ban byd. Mae'r dref fechan hon yn cynnal gŵyl arbennig gyda chystadlaethau'n dathlu cân, cerddoriaeth a dawns.
Mae cystadlaethau a chyngherddau'n cael eu cynnal drwy'r dydd tan yr hwyr, a nifer o stondinau a gweithgareddau'n digwydd ar y Maes, sydd yn agos iawn i ganol y dref. Un o uchafbwyntiau'r Eisteddfod yw gweld y cystadleuwyr yn cymryd rhan mewn gorymdaith stryd sydd yn achlysur hwyliog a lliwgar iawn.
Cynhaliwyd yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gyntaf nôl yn 1947 gyda 14 o wahanol wledydd yn cael eu cynrychioli. Roedd yn ymdrech i uno pobl gyda'i gilydd yn sgil yr Ail Ryfel Byd. Bellach, mae o gwmpas 50 o wledydd yn cymryd rhan.
Er mwyn gweld lluniau o Eisteddfodau blaenorol ewch i wefan Lleol Gogledd Ddwyrain.
Mwy
Cysylltiadau'r ÃÛÑ¿´«Ã½
- ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol Gogledd Ddwyrain: Eisteddfod Llangollen