ÃÛÑ¿´«Ã½

Gŵyl Fihangel

Archangel Fihangel

"Haf bach Mihangel"

Caiff yr ŵyl arbennig yma ei dathlu ar Fedi 29ain. Roedd Gŵyl Fihangel yn arfer bod yn un o'r dyddiau pwysicaf y calendr.

Cysylltir yr ŵyl hefyd gyda'r dywediad 'Haf Bach Mihangel', os yw'n dywydd braf o gwmpas y cyfnod yma.

Mae sôn yn y Beibl am Sant Fihangel, ble mae ef a'i lu o angylion yn ymladd gyda'r ddraig. Mae'n symboleiddio'r frwydr rhwng da a drwg.

Rhoddodd y Pab Gelasius yr ŵyl i Sant Fihangel yn y flwyddyn 487 OC. Yn dilyn hyn bu llawer o ddrychiolaethau o'r Sant o amgylch y byd. Roedd y gweledigaethau yma o hyd yn digwydd ar ben bryniau. Yn hwyrach byddai capeli yn cael eu codi yno er mwyn anrhydeddu'r Sant.

Mae bwyta gŵydd ar Ŵyl Fihangel yn un traddodiad. Credir fod hyn gan i'r Frenhines Elisabeth y Cyntaf fwyta gŵydd pan glywodd y newydd am orchfygiad yr Armada Sbaenaidd. Yn dilyn hyn daeth yn arferiad i fwyta'r aderyn yma i ddathlu'r Ŵyl Fihangel.

Cysylltiad arall gyda'r ŵyl yw na ddylid casglu na bwyta mwyar duon ar ôl Medi 29ain. Yn ôl hen draddodiad, y gred yw bod y Diafol wedi eu gwneud yn anaddas i'w bwyta ar ôl y diwrnod hwn. Mae'n dial gan iddo gael ei luchio o'r nefoedd gan yr Archangel Mihangel a glanio i ganol mieri! Er mwyn dial, credir fod y Diafol yn poeri (neu waeth!) ar y mwyar duon ar y dyddiad yma.

Mae rhai pobl o'r farn mai'r hen Ŵyl Fihangel, ar Hydref 10fed yw'r dyddiad i beidio casglu mwyar duon. Ar ôl yr adeg hon maen nhw fel arfer wedi dechrau crino a ddim ar eu gorau.


Llyfrnodi gyda:

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

ÃÛÑ¿´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ÃÛÑ¿´«Ã½

ÃÛÑ¿´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.