ÃÛÑ¿´«Ã½

Clywed y Gwcw

Y Gog

Yn ôl ein llên gwerin, cân y gog - neu'r gwcw - sy'n cyhoeddi dyfodiad y gwanwyn. Jonathan Neale o Gyngor Cefn Gwlad Cymru sy'n dweud mwy am yr aderyn a'i ffordd ddyfeisgar o fagu ei chywion:

Gyda'r dail a'r blagur yn dechrau ymddangos ar y coed, fe fyddai'n hawdd i ni gredu bod y gwanwyn wedi cyrraedd. Ond rydym ni i gyd yn gwybod nad yw'r gwanwyn yn dechrau'n 'swyddogol' hyd nes i'r gog gyhoeddi hynny.

Y gred yw fod gwryw'r rhywogaeth yma (am mai'r gwryw sy'n canu'r gân gyfarwydd:"cwcw") yn dechrau canu yr un diwrnod bob blwyddyn.

Felly, pryd mae hi'n "ddiwrnod y gwcw" yn eich ardal chi? Mae'n debyg mai yn ystod ail hanner mis Ebrill y mae hyn yn digwydd yng ngogledd Cymru. Cyn bo hir, felly, fe fydd y gog yn cyrraedd ei thiriogaeth draddadiadol ar ôI ei thaith hir o Affrica.

Mae'r aderyn yn cyrraedd yr un pryd ag y mae nifer a blanhigion y gwanwyn yn blodeuo. Am y rheswm yma, mae'r gog wedi rhoi'i henw i un neu ddau o'r planhigion. Un enghraifft yw pidyn y gog (Arum maculatum), neu big y gog. Enghraifft arall yw'r enw ar larfâu llyffant y gwair (Philaenus spumarius) sydd i'w gweld ym mis EbrilI. Yr enw cyffredin arnyn nhw yw poeri'r gog, am fod yna ddeunydd ewynnog o'u cwmpas, sy'n eu hamddiffyn.

Hefyd, mae yna wenynen sy'n dodwy'i hwyau yn nyth math arall o wenynen, oherwydd does dim gweithwyr ganddi i adeiladu nyth drosti. Am y rheswm yna, yr enw arni yw'r wenynen gwcw (Psithyrus rupestris).

Mae'r gog yn dodwy ŵy yn nyth aderyn arall - fel arfer, yn nyth y rhywogaeth fagodd y gog ei hun. Yn aml iawn, corhedydd y waun (neu was y gog yn ôl ei enw arall) yw'r rhywogaeth yna.

Mae ŵy'r gog yn debyg i ŵy'r aderyn arall. Mewn amser, ar ôl cael gwared â'r wyau eraill o'r nyth, fe fydd yr un cyw yn tyfu'n fawr ac yn gofyn llawer gan ei 'rieni'.

Fe arweiniodd yr arfer a ddodwy ŵy yn nyth aderyn arall at y traddodiad llenyddol sy'n honni bod cân y gog yn gwneud hwyl am ben dyn y mae'i wraig wedi geni plentyn dyn arall. Dywed yr hen gwpled:

Cynta lle cân y cogydd
Yw y fawnog ar y mynydd

Mae'n debyg nad oes yr un aderyn arall wedi dylanwadu cymaint ar ein llên gwerin. Yn y gorffennol, roedd pobl yn credu mai aderyn cysegredig oedd y gog, ac roedden nhw'n ei chroesawu bob gwanwyn.

Pan glywch chi'r gog yn canu eleni, ysgwydwch ychydig a ddarnau arian yn eich poced fe fyddwch chi'n gyfoethag am weddill y flwyddyn!

Jonathan Neale o Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Ymddangosodd yr erthygl yma ar ei ffurf wreiddiol ar wefan Lleol a phapur bro Y Ddolen.

  • Fe allai'r gog, a'r holl draddodiadau sy'n perthyn iddi, ddiflannu o'r tir os yw ei niferoedd yn parhau i ostwng. Ers dechrau'r 1980au, mae'n debyg bod ei niferoedd wedi gostwng 65% yng ngwledydd Prydain.

  • Llyfrnodi gyda:

    Hanes

    Croes Geltaidd

    Crefydd y Cymry

    Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

    Digwyddiadur

    Beth sy' mlaen

    Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

    ÃÛÑ¿´«Ã½ iD

    Llywio drwy’r ÃÛÑ¿´«Ã½

    ÃÛÑ¿´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.