ÃÛÑ¿´«Ã½

Safon

Llyfrau

gan Elfyn Pritchard
Bore Iau, Mawrth 25 2010

Henaint fase'r rhai sy'n fy nabod i'n ei alw fo ond gwell gen i y geirie cofio'n ôl ac mae'n debyg y base dilynwyr Doctor Who yn ei alw'n ystumdro amser - dene yn ôl y geiriadur di'r Gymraeg am time warp.

Mewn cyfres o'r rheini y ces i fy hun yn Steddfod yr Urdd yn Y Bala ddydd Sadwrn dwetha.

Syr Ifan

Cael fy hun i ddechre yn yr un steddfod bymtheg mlynedd ar hugien yn ôl pan oedd fy mhlant i, sy'n fame eu hunen ers blynyddoedd, yn cystadlu.

Cael y teimlad nad oedd dim wedi newid, yr un bwrlwm a symud ac ymdrechu, yr un casglu partïon at ei gilydd yr un rhuthro allan ar ddiwedd cystadleuaeth, yr un cytuno ac anghytuno efo barn y beirniaid.

A'r cyfan yn brofiad gwych.

Cael fy hun wedyn yn gwrando ar Syr Ifan, sylfaenydd yr Urdd flynyddoedd ynghynt, yn esbonio sut roedd o'n dewis arweinydd neu bennaeth i'r gwersyllwyr yn Llangrannog.

"Mi fydda i," medde fo, "ymhlith pethe erill, yn edrych be maen nhw'n ei ddarllen."

Michael Foot

A dyna ystumdro amser arall yn digwydd a finne'n neidio'r blynyddoedd at Michael Foot fu farw'n ddiweddar, a chofio iddo fo ddeud peth fel hyn am ddarllen:

"Does gan y rhai y mae ganddyn nhw bŵer gwleidyddol ddim amser i ddarllen, a does gan y rhai sy ddim yn darllen ddim pŵer."

Oedd o'n deud y gwir? Wel maen nhw yn deud bod eich corff chi yr hyn yr ydech chi'n ei fwyta ac yn yr un ffordd fod eich meddwl chi yr hyn yr ydech chi'n ei ddarllen.

A be mae darllen yn ei neud i'n meddwl ni? Wel, ein helpu i ddod i adnabod ein hunen yn well, i adnabod y byd o'n cwmpas, ac i adnabod pobol erill.

Ac o adnabod, deall, ac o ddeall dangos mwy o gydymdeimlad at ein gilydd. Darllen pethe o safon wrth gwrs.

Y gair pwysig

Yn ôl i'r eisteddfod yn Y Bala a'r gair pwysig yno oedd safon.

Safon uchel medde'r beirniaid, pawb yn ymdrechu i gael safon ac i wella safon.

Pawb yn derbyn mewn cystadlu mai hynny sy'n bwysig - ond soniwch am safon yr hyn dech chi'n ei ddarllen ac mi gewch eich galw'n snob.

Gwell darllen unrhywbeth na dim byd - dene sy'n cael ei ddeud gan lawer ond dwi'n ame hynny'n fawr.

I aralleirio rhigwm dwi ddim yn ei gofio'n iawn:
Os sbwriel rowch chi yn y sach
Sbwriel ddaw allan bobol bach.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

ÃÛÑ¿´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ÃÛÑ¿´«Ã½

ÃÛÑ¿´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.